Manylion Pwyllgor

Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed

Diben y Pwyllgor

 

Yn unol â chyfansoddiad Cyngor Sir Caerfyrddin, mae'n rhaid sefydlu pwyllgor pensiwn ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a fydd:

 

Penderfynu ar yr holl faterion polisi a chyfeiriad strategol yn ymwneud â buddsoddiadau’r Gronfa Bensiwn

 

Adolygu a monitro perfformiad buddsoddi’r Gronfa

 

Adolygu a phenderfynu ar holl faterion y gronfa sy’n ymwneud â Phrisio’r Gronfa Bensiwn

 

Penderfynu ar bolisi a materion strategol Awdurdod Gweinyddu’r Gronfa Bensiwn

 

Pwyllgor Pensiwn

Cylch Gorchwyl

 Gweithredu cyfrifoldebau'r Cyngor Sir o ran rheoli Cronfa Bensiwn Dyfed, gan gynnwys rheoli'r gwaith gweinyddu budd-daliadau a rheoli asedau'r Gronfa yn strategol

 

 Cyfarfod o leiaf bob chwarter neu fel arall, fel y bo'n briodol

 

 Rhoi Adroddiad Blynyddol ar sefyllfa'r Gronfa a'r gwaith buddsoddi yn ystod y flwyddyn erbyn 30 Medi bob blwyddyn

 

 Bod â chyfrifoldeb cyffredinol am y polisi buddsoddi a monitro'r perfformiad cyffredinol

 

 Adolygu'r trefniadau llywodraethu a'r defnydd effeithiol o'r ymgynghorwyr er mwyn sicrhau bod proses penderfynu dda ar waith

 

 Derbyn adroddiadau rheolaidd ynghylch gweinyddu'r cynllun er mwyn sicrhau y bodlonir ac y cydymffurfir â safonau arferion gorau a bod wedi'i fodloni fod y Gronfa'n cael ei rhedeg yn effeithiol a chyfiawnhau hynny i'r holl randdalwyr gan gynnwys Cyflogwyr y Gronfa

 

 Penodi Rheolwyr Buddsoddi sy'n cyflawni swyddogaethau sy'n ymwneud â rheoli buddsoddiadau'r Gronfa

 

 Penodi Ceidwaid y Gronfa, ymgynghorydd mesur perfformiad, actiwari, ymgynghorydd annibynnol a darparwr Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol

 

 Cymeradwyo Datganiad Strategaeth Gyllido a Datganiad Strategaeth Fuddsoddi.

 

Aelodaeth