Agenda item

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL YNGHYLCH EFFEITHIOLRWYDD Y GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL YN SIR GAERFYRDDIN YN 2016/17

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr K Madge, E Morgan and B.A.L. Roberts a Mrs. V. Kenny wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried fersiwn drafft o Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch effeithiolrwydd Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn 2016/17. Dywedwyd wrth yr aelodau bod rheidrwydd statudol ar Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i roi adroddiad blynyddol ar y ddarpariaeth a'r perfformiad, yn ogystal â'r cynlluniau i wella holl ystod y Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn archwilio pob maes gwasanaeth o fewn Gofal Cymdeithasol gan ddangos sut y byddai'n mynd i'r afael â strategaethau, gweithredoedd, targedau a risgiau'r gwasanaeth a sut y byddai'r gwasanaethau'n cael eu darparu eleni ar sail y gyllideb a gymeradwywyd. Roedd yr adroddiad yn cyd-fynd â'r Cynlluniau Busnes ar gyfer Gwasanaethau Cymunedol, ac Addysg a Gwasanaethau Plant.

 

Nododd y swyddogion ei fod yn adroddiad cadarnhaol yn gyffredinol a bod yr adroddiad yn cynnwys dyfyniadau drwyddi draw i gynrychioli safbwyntiau'r defnyddwyr gwasanaethau a'r sefydliadau am y gwasanaethau a ddarperir. Nodwyd bod rhai meysydd i'w gwella ac efallai y byddai'r Pwyllgor am eu hystyried wrth bennu ei flaenraglenni gwaith priodol.

 

Nodwyd bod yr Adran wedi rheoli gwasanaethau o fewn y gyllideb dros y ddwy flynedd ddiwethaf, cyflawnwyd hyn yn rhannol drwy ddarparu mwy o becynnau gofal cynaliadwy. Roedd hyn yn cynnwys peidio â gordanysgrifio cymorth oherwydd gallai hyn gael effaith niweidiol ar allu unigolyn. Roedd hefyd systemau gwell a mwy cadarn ar gyfer gwaith ataliol gyda theuluoedd yn seiliedig ar y model signs of safety. Tynnwyd sylw at y ffaith y cafwyd gwell perfformiad y llynedd o ran sefydlogrwydd lleoliadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a byddai gwelliant parhaus yn flaenoriaeth ar gyfer y gwasanaeth. Roedd y meysydd eraill i'w gwella yn cynnwys lleoliadau Anableddau Dysgu ac Iechyd Meddwl mewn cymunedau.

 

Nododd y swyddogion fod yr Adran wedi bod yn datblygu ei dull o weithredu strategaeth Llywodraeth Cymru 'Mwy na Geiriau' i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd y gwasanaeth yn anelu at fynd y tu hwnt i fodloni'r ddyletswydd statudol hon a chydnabuwyd y pwysigrwydd o gynnig dewis iaith, yn enwedig o ran gwasanaethau megis gofal dementia.

 

Nododd y swyddogion fod galw cynyddol am wasanaethau ar gyfer pobl 85 oed a h?n a byddai'r galw yn y maes hwn yn parhau i dyfu. Yn anochel byddai'n rhaid cael cynyddu'r gwariant ar Ofal Cymdeithasol i Oedolion er mwyn ymdopi â'r galw hwn yn y blynyddoedd i ddod. Nododd yr Aelodau y dylai fod mwy o bwyslais ar y twf yn y galw ar gyfer y demograffig hyn yn yr adroddiad, oherwydd bod y twf yn cael effaith fawr ar y gwasanaethau sy'n cael eu darparu. Cytunodd y swyddogion y gallai'r adroddiad gynnwys rhagor o wybodaeth am broffilio demograffeg y boblogaeth. Nodwyd bod y Gwasanaeth Gofalwyr yn wasanaeth da a oedd yn cynorthwyo i reoli'r galw gan alluogi pobl i aros yn y gymuned. Cydnabuwyd bod angen cefnogaeth ar ofalwyr a nodwyd y byddai adolygiadau o'r pecynnau gofal o fewn yr amserlenni yn flaenoriaeth yn ystod 2017/18.

 

Tynnwyd sylw at y ffigurau ynghylch y gyfradd oedi wrth drosglwyddo gofal ac eglurwyd bod y graff yn adlewyrchu'r oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol yn unig. Nodwyd bod nifer o resymau eraill am yr oedi wrth drosglwyddo gofal, gan gynnwys rhesymau meddygol a bodlonrwydd teulu a ffrindiau. Mynegodd yr Aelodau bryderon ynghylch prydlondeb y pecynnau gofal a oedd yn cael eu rhoi ar waith ac a fyddai gweithwyr cymdeithasol yn yr ysbytai yn ystod y penwythnosau. Esboniodd y swyddogion fod hyn yn darged perfformiad a bod angen i'r gwasanaeth fod yn fwy ymatebol ac wrth adolygu'r modd yr oedd y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu, gallai arwain at newid i batrymau gwaith gweithwyr cymdeithasol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau a holwyd ynghylch gwasanaethau y tu allan i oriau, esboniodd y swyddogion fod darpariaeth y tu allan i'r oriau arferol bob amser wedi bod ar gael gan yr Adran a bod gwasanaeth newydd i  ymateb i'r angen y tu allan i oriau swyddfa arferol yn cael ei ddatblygu. Nodwyd bod hyn yn gam cadarnhaol a fyddai'n darparu mwy na'r gwasanaeth ar alwad yn unig a gynigir gan y mwyafrif o awdurdodau lleol.

 

Tanlinellodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol un maes gwaith sylweddol gan yr Adran y byddai'r Pwyllgor Craffu'n efallai'n awyddus i'w ystyried yn fanwl, sef cynllun y gweithlu. Eglurwyd bod hyd at 23% o Ofal Cartref yn cael ei ddarparu'n fewnol a rhagwelwyd y byddai'r gyfran sy'n cael ei darparu yn y modd hwn yn debygol o gynyddu. Cydnabuwyd y gallai'r Cyngor fod yn fwy rhagweithiol wrth hyrwyddo ei wasanaethau mewnol. Nodwyd bod rhai anawsterau wrth recriwtio gweithwyr gofal mewn rhai meysydd, ac roedd y gwasanaeth yn mynd i'r afael â hyn.   Esboniodd y swyddogion fod heriau o ran cyflogi nifer digonol o weithwyr gofal a bod y Cyngor wedi diddymu pen isaf y raddfa gyflogau ar gyfer y gweithwyr hyn, sydd mewn gwirionedd wedi arwain at godiad cyflog.

 

Gofynnodd yr Aelodau sut yr oedd y darparwyr annibynnol yn cael eu harchwilio. Eglurwyd bod fframwaith sicrhau ansawdd ar waith a'u bod  hefyd yn cael eu harolygu gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC). Nododd y swyddogion hefyd fod dulliau gwell ar waith o ran olrhain gwasanaethau er mwyn atal materion megis cwtogi hyd yr ymweliad. Roedd ymagwedd fwy hyblyg yn cael ei defnyddio o ran darpariaeth gofal, ac roedd darparwyr wedi ymateb yn gadarnhaol. Nodwyd bod cael economi gymysg o opsiynau gofal yn yr ardal yn gadarnhaol.

 

Nodwyd bod datblygu darpariaeth gofal yn Llynnoedd Delta yn gyfle cyffrous a byddai'n cymryd amser i ddatblygu cynigion o ran sut  i ddiwallu anghenion pobl leol er y gorau.

 

Y maes blaenoriaeth sylweddol arall a nodwyd ar gyfer y Gwasanaeth oedd cyllidebau cyfun, a oedd yn fater cenedlaethol. Nodwyd bod llawer o heriau o ran cyllidebau cyfun ac er gwaethaf yr holl bartïon yn cytuno â'r egwyddorion, yr oedd yn fater cymhleth. Byddai'n rhaid i'r gwasanaeth sicrhau y byddai unrhyw newidiadau yn bodloni'r gofynion gofal a'r Cyngor fyddai'n gwneud y penderfyniad terfynol. Fodd bynnag, awgrymwyd efallai y byddai'r Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn dymuno cynnwys yr eitem hon ar ei Flaenraglen Waith. Roedd yr Aelodau'n gefnogol i'r egwyddor o gyllidebau cyfun gan dynnu sylw at y pwysigrwydd o ddiwallu'r galw mewn modd amserol heb golli ansawdd y gofal na dewis personol.

 

Mynegwyd pryderon ynghylch y goblygiadau cost ar gyfer y gwaith parhaus ar y Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid. Nododd y swyddogion y pryderon hyn gan egluro fod y gwasanaeth yn ceisio rheoli'r galw a'r peryglon cysylltiedig ac roedd tîm bach wedi'i sefydlu at y diben hwn.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at Addewid Hawliau Plant Sir Gaerfyrddin a gofynnwyd a ddylid cael rhagor o wybodaeth yn yr adroddiad am sicrhau cyfleoedd chwarae er mwyn cyflawni'r addewid hwn. Nodwyd bod blaenoriaethau'r gwasanaeth wedi'u hatodi i'r adroddiad, a oedd yn cynnwys ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio ysgolion y tu allan i oriau addysgu i alluogi plant i gael mwy o fynediad i gyfleoedd chwarae. Eglurodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Plant ac Addysg Dros Dro fod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant yn tanategu llawer o'r gwaith sy'n cael ei gyflawni gan wahanol adrannau. Er enghraifft, roedd Cyngor Ieuenctid a Chynghorau Ysgol bywiog.

 

Mynegwyd pryderon ynghylch darpariaeth Gwasanaethau Iechyd Meddwl a nodwyd bod gwasanaethau Timau Argyfwng yn dod i ben erbyn hanner nos ac yn aml ar ôl yr amser hwn yr oedd angen yr ymyriadau fwyaf. Nododd y swyddogion fod llawer o waith yn cael ei wneud i fynd i'r afael â mynediad i wasanaethau ac ymyriadau llwyddiannus. Eglurwyd bod uchelgais i ddarparu gwasanaeth 24 awr y dydd a 7 diwrnod yr wythnos fel rhan o'r Rhaglen Trawsnewid Iechyd Meddwl. Roedd Rhaglen Drawsnewid yn destun ymgynghoriad am 12 wythnos dros yr haf a byddai'r Aelodau yn cael cyfle i roi sylwadau ar y cynigion. Dywedwyd bod gwahanol fodelau gwasanaeth yn cael eu hystyried. Roedd yr Aelodau'n falch bod Iechyd Meddwl bellach yn rhan flaenllaw o drafodaethau.

 

Rhoddodd yr Aelodau sylwadau ar gludo'r henoed sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty a'r pwysau y mae hyn yn ei roi ar y gwasanaeth ambiwlans. Nododd swyddogion fod Cyngor Sir Gaerfyrddin yn un o'r ychydig o awdurdodau lleol sy'n cadw ei adain drafnidiaeth ei hun ac roedd yn gallu ystyried y ffordd orau i gefnogi gwasanaethau.

 

Nododd Aelodau fod rhai arferion da ar gyfer integreiddio pobl ag anableddau dysgu i gymunedau gan nodi hefyd achlysuron lle nad yw hyn wedi bod mor llwyddiannus. Dywedodd y swyddogion fod arferion da yn y maes hwn yn uchelgais ar gyfer y Gwasanaeth ac roedd systemau ar waith i adolygu'r gwaith hwn gyda darparwyr trydydd parti.

 

Nododd y Pwyllgor yn gyffredinol fod yr adroddiad yn un cadarnhaol.

 

PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Effeithiolrwydd y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, 2016/17.

Dogfennau ategol: