Agenda item
DIWEDDARIAD RHIANTA CORFFORAETHOL
Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Diweddaru Blynyddol Rhianta Corfforaethol a oedd yn cynnwys gwybodaeth am Rianta Corfforaethol, plant heb gwmni oedolyn sy'n ceisio lloches a gwasanaethau maethu. Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r canlyniadau llwyddiannus a gafwyd, yr heriau o gadw gofalwyr maeth a chael digon o staff ac adnoddau i fodloni'r galw cynyddol gan y sawl sy'n gadael gofal.
Pwysleisiodd y swyddogion fod Rhianta Corfforaethol yn cynnwys pobl ifanc rhwng 16 a 25 sy'n gadael gofal. Clywodd y Pwyllgor gan ddau unigolyn a oedd wedi gadael gofal am eu profiadau a'r cymorth a roddwyd iddynt. Dywedwyd wrth yr aelodau fod y Cyngor yn cynnig swyddi dan hyfforddiant i'r sawl sy'n gadael gofal, a oedd yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu eu sgiliau. Nododd yr aelodau fod sylwadau cadarnhaol am y cymorth a roddwyd iddynt ac roedd yr aelodau'n cydnabod y gwaith a gyflawnwyd gan y Gwasanaeth. Diolchodd y Pwyllgor i'r bobl ifanc a oedd wedi gadael gofal am y cipolwg defnyddiol yr oeddent wedi'i roi gan nodi y bu i'r Pwyllgor glywed yn uniongyrchol gan y sawl a oedd yn cael gwasanaethau o'r fath.
Esboniodd y swyddogion fod gan yr Awdurdod Lleol Strategaeth Rhianta Corfforaethol a oedd yn amlinellu'r mesurau y byddai'n eu cymryd i sicrhau bod y canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a'r sawl sy'n gadael gofal yn gadarnhaol. Roedd nifer y plant sy'n derbyn gofal wedi gostwng yn gyson ers 2011, gyda'r nifer cyfredol yn 210. Nodwyd bod y mwyafrif o blant sy'n derbyn gofal yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng addysg prif ffrwd gydag 11 o blant yn unig yn cael darpariaeth addysg amgen. Pwysleisiwyd bod Sir Gaerfyrddin yn llwyddiannus iawn wrth gymharu â chyfartaledd Cymru o ran cyrhaeddiad ysgol plant sy'n derbyn gofal ac roedd yr ysgolion yn cael cymorth gan y Tîm Rhianta Corfforaethol
Roedd y Gwasanaethau Rhianta Corfforaethol yn darparu mynediad i theraplay, cwnsela ac ymyriadau therapiwteg ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a'u gofalwyr. Pwysleisiwyd bod y gwasanaethau'n cefnogi un rhan o dair o blant sir sy'n derbyn gofal ac roedd gwasanaethau o'r fath y bwysig er mwyn i'r afael â'u hiechyd emosiynol. Nodwyd bod Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi gweld 3 o blant sy'n derbyn gofal yn unig y llynedd.
Dywedodd y swyddogion y rhagwelwyd y byddai niferoedd y sawl sy'n gadael gofal yn cynyddu dros y blynyddoedd nesaf oherwydd newidiadau yn y ddeddfwriaeth a byddai'n cymryd tipyn o amser i'r niferoedd ostwng. Pwysleisiwyd bod y Tîm Gadael Gofal yn darparu ystod o gyfleoedd hyfforddi a chymorth ar gyfer y sawl sy'n gadael gofal ac roedd yn fwriad parhau i leihau nifer y bobl ifanc sy'n gadael gofal nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Fodd bynnag, roedd Sir Gaerfyrddin yn is na chyfartaledd Cymru o ran pobl ifanc NEET sy'n gadael gofal. Gofynnodd y Pwyllgor am ffigurau er mwyn cymharu ag awdurdodau lleol eraill a bod ffigurau cyfartaledd cenedlaethol yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau yn y dyfodol.
Roedd sicrhau bod pobl sy'n gadael gofal yn byw mewn llety priodol yn cael ei gydnabod yn her wrth symud ymlaen, yn enwedig o ran gofynion y cynllun 'Pan Fydda i'n Barod', a oedd yn caniatáu pobl sy'n gadael gofal i aros gyda'u teuluoedd maeth am gyfnod hirach. Nodwyd bod hwn yn gynllun cadarnhaol iawn, fodd bynnag, nid oedd cymorth ariannol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Roedd hefyd yn atal rhai gofalwyr maeth rhag cael eu rhyddhau ar gyfer lleoliadau newydd. Pwysleisiwyd nad oedd yr un unigolyn a oedd wedi gadael gofal wedi cael llety Gwely a Brecwast yn ystod y 12 mis diwethaf.
Gofynnod yr aelodau am nifer y plant sy'n derbyn gofal o siroedd eraill a oedd yn mynychu ysgolion yn Sir Gaerfyrddin a gofynnwyd pwy oedd yn gyfrifol amdanynt. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Rhianta Corfforaethol nad y Cyngor oedd y Rhiant Corfforaethol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal o siroedd eraill ac ar hyn o bryd roedd 105 yn yr ardal. Eglurwyd mai'r awdurdod lleol lle'r oedd y plentyn wedi dod yn blentyn sy'n derbyn gofal oedd yn gyfrifol amdano. Nodwyd bod ysgolion bellach yn derbyn y Grant Amddifadedd Disgyblion ar gyfer plant y tu allan i'r Sir. Gofynnodd yr aelodau ai'r system hon oedd y system orau i osod plant mewn ardaloedd eraill. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant bod prinder cenedlaethol o ofalwyr maeth ac ar adegau roedd angen defnyddio gwasanaethau Asiantaethau Maethu Annibynnol, a allai arwain at blant yn cael eu gosod y tu allan i'r Sir. Pwysleisiwyd mai Sir Gaerfyrddin oedd y Cyngor gorau yng Nghymru o ran cadw ei blant sy'n derbyn gofal yn ei sir ei hun.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth ar gyfer Maethu ac Adnoddau wrth y Pwyllgor am y gwaith a oedd yn cael ei gyflawni gan y Gwasanaeth Maethu. Pwysleisiwyd bod llai o blant yn derbyn gofal, fodd bynnag roedd ganddynt yn aml anghenion mwy cymhleth. Roedd ceisio recriwtio gofalwyr maeth i fodloni'r galw yn parhau i fod yn her. Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod cynnig gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu gwasanaethau maethu rhanbarthol, yn debyg i'r hyn a welir gan y gwasanaethau mabwysiadu rhanbarthol. Pwysleisiwyd y byddai mwy o gymhlethdod wrth geisio gosod gwasanaethau maethu yn rhanbarthol.
Mynegodd yr aelodau bryderon am nifer y symudiadau o ran lleoliad i blant sy'n derbyn gofal. Roedd swyddogion yn cydnabod bod hwn yn bryder ac amlinellwyd y gwelliannau oedd ar waith. Esboniwyd bod y mwyafrif o'r symudiadau ar gyfer plant dros 10 oed ac roedd yn anodd recriwtio gofalwyr maeth ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau ac roedd gan lawer o'r plant hynny anghenion heriol a chymhleth iawn. Rhoddwyd cynllun gweithredu ar waith er mwyn mynd i'r afael â lleoliadau i bobl ifanc yn eu harddegau, a oedd yn cynnwys rhaglen recriwtio gofalwyr maeth a oedd yn targedu lleoliadau i blant dros 10 oed. Cafwyd rhai trafodaethau hefyd am rannu marchnata a hysbysebion ar y cyfryngau gydag awdurdodau lleol cyfagos. Roedd sefydlogrwydd lleoliadau'n cael ei fonitro drwy gyfrwng y Panel Parhauster ac roedd bwriad cynnal cyfarfodydd ychwanegol er mwyn adolygu lleoliadau lle'r oedd angen cymorth ychwanegol arnynt. Yn ogystal, roedd gan uwch-weithiwr cymdeithasol rôl benodol yn cefnogi lleoliadau i bobl ifanc yn eu harddegau sy'n heriol iawn. Gofynnodd aelodau a oedd gofalwyr maeth yn cael hyfforddiant ar reoli lleoliadau heriol a chymhleth. Cadarnhaodd swyddogion fod hyfforddiant dwys a bod Sir Gaerfyrddin wedi cael canmoliaeth am ei hyfforddiant.
Maes arall y nodwyd bod angen rhagor o recriwtio oedd lleoliadau ar gyfer mamau a babanod, a nodwyd bod y Cyngor yn un o'r rhai prin a oedd yn cynnig yr opsiwn hwn. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod Strategaeth Recriwtio a Chadw ar gyfer gofalwyr maeth wedi cael ei datblygu ac yn cael ei rhoi ar waith. Nodwyd bod Sir Gaerfyrddin yn cynnig un o'r ad-daliadau isaf ar gyfer gofalwyr maeth a bod hyn yn cael effaith ar recriwtio. Roedd llawer o gystadleuaeth o awdurdodau lleol cyfagos ac Asiantaethau Maethu Annibynnol. Fodd bynnag, pwysleisiwyd bod y Gwasanaeth yn darparu gwasanaethau cymorth da a'i fod yn llwyddo i gadw gofalwyr maeth. Nodwyd bod y gwasanaeth wedi llwyddo yn ddiweddar i recriwtio rhai gofalwyr maeth o asiantaethau annibynnol. Her arall oedd cyfartaledd oedran gofalwyr maeth, sef 55 oed, ac roedd strategaethau'n cael eu hystyried ar gyfer denu gofalwyr maeth iau.
Nodwyd yn ystod 2014-15 bod nifer uchel o ofalwyr maeth wedi dadgofrestru. Wrth ddadansoddi hyn ymhellach, roedd y Gwasanaeth yn fodlon nad oedd wedi colli gofalwyr maeth oherwydd anfodlonrwydd, ond yn hytrach am resymau eraill megis newidiadau mewn amgylchiadau personol ac ymddeoliadau. Roedd tystiolaeth bod gwasanaeth mewnol da yn cael ei ddarparu.
Gofynnodd yr aelodau a oedd yr Asiantaethau Maethu Annibynnol yn fusnesau, cadarnhawyd eu bod yn sefydliadau preifat yn gyffredinol, ac ambell un ohonynt yn sefydliadau elusennol. Pwysleisiwyd bod yr Asiantaethau Annibynnol yn codi tâl tipyn mwy ar Awdurdodau Lleol am leoliadau. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod rheoliadau yn yr Alban i atal Asiantaethau Annibynnol rhag gwneud elw, fodd bynnag, yng Nghymru a Lloegr nid oedd y costau'n cael eu rheoleiddio ac roedd rhai sefydliadau wedi gwneud cryn dipyn o elw. Pwysleisiwyd yr awgrymwyd i Lywodraeth Cymru y dylai ddilyn esiampl yr Alban a datblygu rheoliadau. Cytunodd y Pwyllgor argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod y Cyngor yn ysgrifennu i Lywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynigion i ddatblygu rheoliadau i gyfyngu ar allu Asiantaethau Maethu Annibynnol i wneud elw ar ddod o hyd i leoliadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal .
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Rhianta Corfforaethol olwg gyffredinol i'r Pwyllgor ar ddarparu llety i blant sy'n ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn Sir Gaerfyrddin. Esboniwyd bod ystod o raglenni a ffyrdd y gallai plant sy'n ffoaduriaid a cheiswyr lloches ailgartrefu yn y DU. Pwysleisiwyd y byddai'r plant hyn yn cael eu hystyried yn blant sy'n derbyn gofal, fodd bynnag, byddai'r costau'n cael eu hail-dalu gan fod y Swyddfa Gartref yn darparu lwfans ar gyfer y plant hyn. Gofynnwyd i'r holl awdurdodau lleol gymryd canran o'r boblogaeth plant yn eu hardaloedd. Fodd bynnag, nodwyd nad oedd gan Gyngor Sir Caerfyrddin ddigon o ofalwyr maeth ar hyn o bryd. Y cynnig oedd datblygu gwasanaeth a fyddai'n cael ei gynnig i blant dros 16 oed.
Gofynnodd yr aelodau a fyddai newid polisi Llywodraeth y DU ar Syria yn cael effaith ar y cynigion hyn. Esboniwyd bod y ddeddfwriaeth yn newid yn rheolaidd, fodd bynnag, roedd y Swyddfa Gartref yn parhau i ofyn i awdurdodau lleol gymryd canran o'r plant heb gwmni oedolyn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
5.1 bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;
5.2 argymell i'r Bwrdd Gweithredol bod y Cyngor yn ysgrifennu i Lywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynigion i ddatblygu rheoliadau i gyfyngu ar allu Asiantaethau Maethu Annibynnol i wneud elw ar ddod o hyd i leoliadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.
Dogfennau ategol:
- Crynodeb, eitem 5. PDF 124 KB
- Adroddiad, eitem 5. PDF 308 KB
- Atodiad 1, eitem 5. PDF 169 KB
- Atodiad 2, eitem 5. PDF 259 KB
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Dweud eich dweud
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2024Gyllideb
- Prif Gynllun Teithio Llesol Y Tymbl
- Strategaeth Hamdden 2023-33 ymgynghoriad cymunedol
- Trwyddedu Bridio Cŵn yn Sir Gaerfyrddin
- Cynnig i ffedereiddio Ysgol Rhys Prichard ac Ysgol Llangadog o 1 Medi 2024.
- Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
- Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol
- Strategaeth Leol ar gyfer Perygl Llifogydd 2024-2030
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
- Strategaeth Cyfleusterau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin
- Creu Sir Gaerfyrddin Ddigidol
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2023
- Ymgynghoriad ynghylch Polisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed Ysgolion Cynradd 2025/26
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Blaengynlluniau Waith
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
- Cynllun Cyflenwi Tai Fforddiadwy 2016 - 20
- Datganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022 - 2027 (Gorffennaf 2022)
- Strategaeth Drawsnewid Cyngor Sir Caerfyrddin
- Polisi Diogelu Corfforaethol
- Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2018 - 2021
- Strategaeth Technoleg Ddigidol 2018 - 2021
- Strategaeth Trawsnewid Digidol
- Cymorth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin 2018-23
- Gwybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth Llyfrgelloedd - Symud ymlaen 2017 - 2025
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg (1)
- Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen
- Cynllun Cydraddoldeb Strategol
- Cynllun Trechu Tlodi 2023
- Strategaeth Hybu’r Gymraeg
- Safonau’r Gymraeg
- Adroddiad Blynyddol y Gymraeg
Y Cyllideb y Cyngor
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Perfformiad y Cyngor
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-23
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Carbon Sero-net
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2024
- Etholiad Cyffredinol Seneddol y Deyrnas Unedig
- Pleidleisio
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Prawf Adnabod Pleidleisiwr
- Recriwtio ar gyfer etholiadau
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth