Agenda item

GORFODI MATERION AMGYLCHEDDOL DIWEDDARIAD

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y Diweddariad Materion Amgylcheddol a roddai ddiweddariad ar faterion gorfodi yn cynnwys Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus, Rhybuddion Diogelu Cymunedol, mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon a materion gorfodi eraill.

 

Nododd y Pwyllgor fod Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 wedi cyflwyno sawl arf a ph?er newydd i’w defnyddio gan awdurdodau lleol a phartneriaid i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu hardaloedd lleol. Roedd hyn yn cynnwys y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus a ddaeth i rym ar y 1af Medi 2015 gan roi’r awdurdod i gynghorau i ddrafftio a gweithredu Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn ymateb i’r materion penodol sy’n effeithio ar eu cymunedau, cyhyd â bod rhai meini prawf yn cael eu bodloni. Roedd hyn yn cynnwys y p?er i roi tocynnau cosb benodedig i bobl sy’n gadael i’w c?n faeddu mewn unrhyw le yn Sir Gâr y mae gan y cyhoedd fynediad iddo. Roedd hefyd yn cynnwys pwerau eraill fel gofyn i bobl roi eu ci ar dennyn a gwahardd c?n o fannau chwarae amgaeedig i blant.

 

Codwyd y materion canlynol mewn perthynas â’r adroddiad:

 

Mewn ymateb i gwestiynau yngl?n â thipio anghyfreithlon cyson mewn rhai ardaloedd gwledig, dywedodd y Rheolwr Gorfodaeth Amgylcheddol fod cael tystion sy’n barod i ddod i’r llys yn her. Fodd bynnag, pe bai teledu cylch cyfyng ar gael, byddai’n llai anodd cael y dystiolaeth..

 

Gofynnwyd a oedd Swyddogion Gorfodi yn cael mynd at bobl sy’n cerdded c?n i ofyn a ydynt yn cario bag gwastraff ci. Er ei bod yn drosedd peidio â chario bag gwastraff ci wrth gerdded ci yn ardaloedd rhai awdurdodau leol, eglurodd y Rheolwr Gorfodaeth Amgylcheddol fod sialensiau cyfreithlon yngl?n â hyn ac na fyddai Sir Gâr yn mabwysiadu’r drefn hon ar hyn o bryd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, eglurodd y Rheolwr Gorfodaeth Amgylcheddol fod wyth Swyddog Gorfodi wedi cael hyfforddiant ar hyn o bryd i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon a throseddau amgylcheddol eraill. Caiff y gwaith hwn ei gynorthwyo gan wybodaeth swyddogion a gwybodaeth sy’n dod i law oddi wrth Gynghorwyr a’r cyhoedd.

 

Tra oeddid yn cydnabod bod nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon wedi gostwng yn sylweddol mewn rhai ardaloedd gwledig, mynegwyd pryderon yngl?n â’r trefniadau gwaith newydd oherwydd y teimlad fod y trefniadau blaenorol wedi bod yn gweithio’n effeithiol. Pe bai’r adolygiad yn dangos nad yw’r trefniadau newydd yn gweithio mor effeithiol ag y bwriadwyd, dywedwyd y byddai’r Aelodau’n hapus i’r trefniadau blaenorol gael eu hail sefydlu. Dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod barn Cynghorwyr yn bwysig ac y byddai’n rhan allweddol o’r adolygiad.

 

Yn dilyn cwestiwn, eglurodd y Rheolwr Gorfodaeth Amgylcheddol y byddai’n ofynnol yn ôl y trefniadau gwaith newydd fod dau Swyddog Gorfodi yn gweithredu’n strategol ym mhob cornel o’r Sir.

 

Gofynnwyd beth oedd yn cael ei wneud i rwystro pobl rhag gadael i’w c?n grwydro’n rhydd heb dennyn ar gaeau chwarae ysgolion, gan fod hyn yn achosi problemau mewn llawer o ardaloedd. Dywedodd y Rheolwr Gorfodaeth Amgylcheddol ei bod yn bwysig casglu gwybodaeth a defnyddio technoleg fapio, a fyddai’n help i dargedu’r ardaloedd lle ceir problemau yn effeithiol. Fodd bynnag, roedd anawsterau o safbwynt cyfreithiol a byddai angen cynnal trafodaethau gyda Gwasanaethau Cyfreithiol yr Awdurdod.

 

Mynegwyd pryder fod y Pwyllgor wedi codi’r broblem fod c?n yn crwydro heb dennyn o’r blaen, heb fawr ddim neu ddim llwyddiant yn sgil hynny. Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi argymell i’r Bwrdd Gweithredol y dylai c?n gael eu gwahardd oddi ar gaeau chwarae 12 mis y flwyddyn, ond na dderbyniwyd hyn. Hefyd, er mwyn lleddfu’r broblem, awgrymwyd y dylid arddangos arwydd wrth ymyl caeau chwarae yn cymell pobl i gadw draw gyda’u c?n.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: