Agenda item

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD CYNLLUN GWELLA 2016/17: CWARTER 3 – 1AF EBRILL I’R 31AIN O RAGFYR 2016

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr Adroddiad ar Berfformiad Cynllun Gwella 2016/17 er mwyn craffu arno ar gyfer Chwarter 3 gyda golwg ar y camau gweithredu a’r mesurau sy’n berthnasol i’w faes gorchwyl.

 

Rhoddwyd sylw i’r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y prinder staff sydd yn rhwystr i ddarparu’r gwasanaeth ymwelwyr iechyd Dechrau’n Deg. Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant wybod i’r Pwyllgor fod yna brinder ymwelwyr iechyd yn genedlaethol a bod y rheiny sydd wedi cael eu recriwtio hefyd yn gweithredu o fewn gwasanaethau’r Bwrdd Iechyd ac felly bod hyn yn cyfyngu ar eu gallu i godi cymaint o lwythi gwaith yn yr ardaloedd Dechrau’n Deg.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch dyfodol y rhaglen Dechrau’n Deg, nododd Pennaeth y Gwasanaethau Plant ei bod yn parhau i fod yn rhaglen flaenllaw ar gyfer Llywodraeth Cymru, ac er bod y cyllid ond yn cael ei gadarnhau flwyddyn ar ôl blwyddyn, nad oedd hi’n ymddangos fod dyfodol y rhaglen ei hun dan fygythiad uniongyrchol.

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch yr oedi a achoswyd gan ddiffyg presenoldeb mewn apwyntiadau Seicoleg Addysg.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro y gallai hyn fod oherwydd rhieni nad ydynt yn dod i apwyntiadau neu gyfarfodydd yn cael eu canslo oherwydd nad yw gweithwyr proffesiynol eraill yn gallu dod iddynt. Roedd achosion o fethu â derbyn adroddiadau oddi wrth ymarferwyr y Bwrdd Iechyd hefyd yn arwain at ganslo cyfarfodydd ac oedi yn y broses o ganlyniad.  

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch model systematig yr Uned Plant a Theuluoedd o weithio ar draws y timau gwasanaethau plant, rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ynghylch cyflwyno’r dull newydd yn Nhimau Gofal Plant yr Awdurdod. Ychwanegodd, er bod y cam gweithredu hwn yn unol â’r targed, fod y gwaith o gyflwyno hyn wedi tynnu sylw at yr angen am weithwyr penodol mewn meysydd arbennig, a bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â hyn.  

 

Gofynnwyd am ragor o wybodaeth yngl?n â gwaith y Panel Pobl Ifanc Agored i Niwed yn y dyfodol. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro wybod i’r Pwyllgor fod y Panel yn cwrdd bob chwarter gyda’r nod o gydlynu cymorth i bobl ifanc agored i niwed yng Nghyfnod Allweddol 4. Trafodwyd papur yn ymwneud â datblygu gwaith y Panel hwn ar gyfer y dyfodol gan y Tîm Rheoli Adrannol ym mis Ionawr 2017 ac roedd gwaith pellach yn awr yn cael ei wneud i sicrhau bod dysgwyr o’r fath yn ennill cymwysterau.  

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch penodi Rheolwr Ymddygiad a Phresenoldeb, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro fod strwythur newydd ar gyfer y maes gwasanaeth hwn wedi cael ei gytuno ac y byddai’r broses recriwtio ar gyfer y swydd hon yn dechrau’n fuan. 

 

Gofynnwyd am ragor o fanylion yngl?n â’r anawsterau a geir wrth recriwtio gofalwyr maeth yn y Sir. Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod recriwtio gofalwyr maeth yn broblem ledled y Deyrnas Unedig a bod yr Awdurdod yn canfod ei fod yn cystadlu â’r sector preifat a chydag awdurdodau cyfagos fel ei gilydd.  Roedd y lwfansau a oedd yn cael eu cynnig gan awdurdodau eraill yn y rhanbarth yn fwy cystadleuol na rhai Sir Gaerfyrddin, ac er nad lwfansau o anghenraid yw prif ystyriaeth darpar ofalwr, roedd yn aml yn ddigon i ddylanwadu ar benderfyniad gofalwr posibl mewn rôl a oedd ar brydiau yn anodd ei gwneud. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.    

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau