Agenda item

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2016/17

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd A. James wedi datgan buddiant yn gynharach sef ei fod yn llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Gymunedol Llangadog.

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf y flwyddyn ariannol 2016/17 fel yr oeddynt ar 31ain Rhagfyr 2016 ar gyfer yr Adran Addysg a Phlant. Cynghorwyd fod yr adroddiad ar y pryd yn dynodi gorwariant diwedd blwyddyn posibl o £1,767,000 yn ei gyllideb refeniw a bod y rhaglen gyfalaf yn dangos amrywiant net o -£6,550,000 yn erbyn cyllideb gymeradwy 2016/17.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y costau parhaus sy’n gysylltiedig ag ymddeoliad cynnar gwirfoddol a dileu swyddi i athrawon, rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro wybod i’r Pwyllgor fod y swyddogion yn ystod y misoedd diwethaf wedi bod yn gweithio ar drefniadau newydd i gynorthwyo ysgolion mewn perthynas â’r mater hwn, gan gynnwys adolygu’r polisïau perthnasol. Sefydlwyd Panel a fyddai’n cynnwys swyddogion o’r adran Adnoddau Dynol, y Gwasanaethau Ariannol a’r Adran Addysg a Phlant. Byddai’r Panel yn cael ei gadeirio gan y Cyfarwyddwr a’i nod oedd herio a chynorthwyo ysgolion mewn perthynas ag ailstrwythuro, rhyddhau staff a gwneud defnydd effeithlon o’u cyllidebau.  Gwnaed gwaith ychwanegol hefyd i gasglu data ar strwythurau staffio ysgolion. Yn y tymor hwy, roedd yr adran am ddatblygu polisi adleoli ar gyfer ysgolion a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ystyried athrawon sydd mewn perygl o golli eu swyddi (oherwydd cau ysgolion er enghraifft) a’r defnydd posibl o gymhellion ariannol ar gyfer ysgolion sy’n derbyn staff a oedd mewn perygl o golli eu swyddi o ysgolion eraill. 

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y swydd seicolegydd addysg sydd yn wag, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro na fyddai’r swydd yn cael ei hail-lenwi yn dilyn ymddeoliad y swyddog er mwyn gallu gwneud arbedion effeithlonrwydd. Fodd bynnag, pwysleisiodd na fyddai hyn yn effeithio ar y ddarpariaeth gan y byddai’r ffyrdd newydd o weithio a fabwysiadwyd yng ngoleuni’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) diweddar yn lliniaru unrhyw effaith sy’n gysylltiedig â cholli’r swydd hon.

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y strategaethau a ddatblygir i sicrhau cynaliadwyedd y Gwasanaeth Cerdd yn y tymor hir.  Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Dros Dro wybod i’r Pwyllgor fod y swyddogion yn ceisio ailfodelu’r gwasanaeth yng ngoleuni argymhellion Donaldson gan y gallai ysgolion eithrio o gaffael gwasanaethau dysgu cerdd, a oedd yn rhoi’r gwasanaeth mewn sefyllfa fregus ar adeg pryd yr oedd cyllidebau’n cael eu lleihau. Un datblygiad allweddol fyddai defnyddio’r athrawon teithiol i ddysgu offerynnau cerdd yn ogystal â darparu cymorth cwricwlwm ar gyfer elfengreadigolcwricwlwm y dyfodol, fel yr argymhellwyd yn Adolygiad Donaldson.  Roedd Llywodraeth Cymru hefyd yn sefydlu cronfa waddol ar gyfer gwasanaethau cerdd i gydnabod y pwysau ariannol a brofir gan awdurdodau lleol ond ni dderbyniwyd rhagor o fanylion hyd yma.  

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y cynnig i ddatblygu adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gymraeg Dewi Sant yn Llanelli, rhoddodd Rheolwr y Rhaglen Foderneiddio wybod i’r Pwyllgor mai’r safle a gaiff ei ffafrio gan yr Awdurdod yw Caeau Chwarae Llannerch, sydd gerllaw lleoliad presennol yr ysgol. Roedd yn cydnabod bod yna beth gwrthwynebiad lleol i’r datblygiad arfaethedig ond y byddai’r ymarfer ymgynghori cyn-cynllunio yn rhoi cyfle i’r holl bartïon sydd â diddordeb i gyflwyno eu sylwadau a lleisio eu pryderon yn ffurfiol. Byddai angen cynnal yr ymarfer ymgynghori cyn i’r Awdurdod geisio caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad.

 

Mynegwyd pryder ynghylch yr oedi parhaus o ran datblygu cyfleusterau ysgolion cynradd newydd yn Rhydaman, yn ogystal â’r arian nas gwariwyd mewn prosiectau Band A eraill megis Llangadog.  Roedd Rheolwr y Rhaglen Foderneiddio yn cydnabod y pryderon ac yn cytuno bod angen ad-drefnu’r ddarpariaeth gynradd yn ardal tref Rhydaman, ynghyd â chael cyfleusterau newydd.  Atgoffodd y Pwyllgor fod yr Awdurdod wedi gorfod defnyddio ei holl gyllid ar gyfer prosiectau Band A erbyn 2019 ond oherwydd y newid mewn demograffeg a’r cynlluniau adfywio ar gyfer y dref, y byddai’n annhebygol y byddai prosiect Rhydaman wedi cael ei gwblhau erbyn yr amser hwn. Dyma oedd y sefyllfa mewn ardaloedd eraill o’r Sir ac felly roedd prosiectau eraill wedi cael eu blaenoriaethu o flaen prosiectau megis Rhydaman er mwyn lleihau’r risg o golli’r cyllid. Fodd bynnag, rhoddodd sicrwydd i’r aelodau fod y gwaith o ddatblygu cynigion a dod o hyd i dir addas yn Rhydaman, ochr yn ochr â swyddogion o’r Is-adran Adfywio a Pholisi, yn mynd rhagddo.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.  

Dogfennau ategol: