Agenda item

Y TREFNIADAU PARTNERIAETH SYDD WEDI'I SEFYDLU YNG NGORLLEWIN CYMRU O DAN RAN 9 O DDEDDF GWASANAETHAU CYMDEITHASOL A LLESIANT (CYMRU) 2014 AC ASESIAD POBLOGAETH GORLLEWIN CYMRU

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ynghylch y trefniadau partneriaeth sydd wedi'u sefydlu yng Ngorllewin Cymru o dan Ran 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ac Asesiad Poblogaeth Gorllewin Cymru cyn iddo gael ei gymeradwyo gan y Cyngor.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi golwg gyffredinol ar y trefniadau partneriaeth sydd wedi'u sefydlu yng Ngorllewin Cymru i fodloni gofynion Rhan 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a oedd yn cynnwys sefydlu Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol statudol. Nodwyd bod Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru ar waith ers Mehefin 2016 a bod y Cylch Gwaith i fod i gael ei adolygu ym mis Rhagfyr 2016. Fodd bynnag, eglurodd y swyddogion y cytunwyd i ohirio cynnal adolygiad llawn o'r Cylch Gwaith tan fis Mawrth 2017. Pwysleisiwyd bod blaenoriaethau rhanbarthol ar gyfer y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol, gan gynnwys: comisiynu integredig, cronfeydd ar y cyd, ailfodelu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gwybodaeth, cyngor, cymorth/atal a gweithredu System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau am y gwaith a wnaed ar ran y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol i gwblhau Asesiad Poblogaeth cychwynnol. Roedd yr Asesiad wedi cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd ac roedd yn rhaid iddo gael ei gymeradwyo gan y partneriaid statudol, cyn ei gyhoeddi erbyn 31 Mawrth 2017. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr Asesiad yn nodi'r anghenion am ofal a chymorth yn y rhanbarth, y gofal a chymorth a ddarperir ar hyn o bryd a'r meysydd y mae angen eu gwella a'u datblygu. Pwysleisiwyd bod llawer o ddata wedi cael ei gasglu ar gyfer yr Asesiad a bod yr ymateb i'r arolygon yn galonogol. Un o brif negeseuon yr Asesiad oedd y twf disgwyliedig yn y galw am wasanaethau yn y degawdau nesaf, ac yn benodol ar gyfer pobl h?n. Eglurodd y swyddogion y byddai gofal cymunedol ataliol lefel isel yn rhan bwysig o roi sylw i'r angen hwn. Maes arall yr oedd angen rhoi sylw iddo oedd sicrhau bod y gwasanaethau ar gael yn Gymraeg. Roedd y Pwyllgor yn falch bod sylw wedi cael ei roi i bwysigrwydd datblygu defnydd y Gymraeg yn y sector iechyd a gofal. Eglurodd y swyddogion fod angen i'r Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol ddatblygu cynllun ardal, yn sgil cyhoeddi'r Asesiad Poblogaeth, i roi sylw i'r anghenion a nodwyd.

 

Nododd y Pwyllgor fod un Aelod Etholedig o bob Awdurdod Lleol ar y Bwrdd a holwyd a oedd diffyg democrataidd. Awgrymwyd y byddai'n ddefnyddiol cynyddu nifer yr Aelodau Etholedig ac iddynt fod yn gynrychioladol o'r gymuned. Dywedodd y swyddogion fod y gofynion statudol lleiaf yn cael eu bodloni ar hyn o bryd. Fodd bynnag, roedd y Bwrdd o'r farn y gellid cymryd camau pellach o ran y mater hwn a byddai'n cael ei ystyried fel rhan o'r adolygiad o'r Cylch Gwaith ym mis Mawrth. Nodwyd bod gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau yn cael eu cynrychioli ar y Bwrdd. Pwysleisiodd y Pwyllgor yr opsiwn i gyfethol aelodau ar y Bwrdd ac roedd o'r farn y gallai hyn fod yn fuddiol i helpu'r rhain mewn meysydd a dangynrychiolir, er enghraifft, mewn perthynas â materion megis trafnidiaeth.

 

Eglurwyd bod un cynrychiolydd ar y Bwrdd o'r Cynghorau Gwasanaethau Gwirfoddol ar gyfer y tair ardal. Yn ogystal, roedd cynrychiolydd gan sefydliad trydydd sector cenedlaethol a oedd yn helpu i roi safbwynt ehangach. Gofynnodd y Pwyllgor am siart llif, er hwylustod, i ddangos sut y mae'r gwahanol Fyrddau a grwpiau yn gysylltiedig â'i gilydd a'u hatebolrwydd. Byddai'r swyddogion yn ystyried sut i ddatblygu hyn orau a nodwyd nad oedd y prif ddarnau o ddeddfwriaeth, sef Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), yn cysylltu â'i gilydd yn ddi-dor.

 

Gofynnodd yr Aelodau a ddylid ystyried disgwyliad oes oedolion, yn hytrach na dim ond disgwyliad oes o enedigaeth, gan fod llawer o bobl h?n yn symud i'r ardal ar oedran ymddeol. Cytunodd y swyddogion fod angen gwasanaethau o hyd ar bobl h?n sy'n dod i'r ardal ac y gallant fod yn ased cymunedol gwerthfawr wrth ddatblygu gwasanaethau ataliol. Cadarnhawyd hyn gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd, a oedd yn cynrychioli'r Cyngor ar y Bwrdd.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol yn haen arall o fiwrocratiaeth. Pwysleisiodd y swyddogion pe na bai'r Bwrdd wedi cael ei ddatblygu yn y ffordd iawn y gallai hynny fod yn wir, ond roedd wedi cael ei ddatblygu i symleiddio gweithio mewn partneriaeth ac roedd gwir ddymuniad gan yr holl bartneriaid i gydweithio.

 

Gofynnodd yr Aelodau pa ddata oedd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer yr Asesiad Poblogaeth gan fod pryderon nad oedd y data a ddefnyddiwyd yn gyfredol o bosib. Eglurodd y swyddogion fod amrywiaeth o ffynonellau data yn cael eu defnyddio, a oedd yn cynnwys set ddata gan Uned Ddata Cymru a data a ddiweddarwyd yn rheolaidd ar sail ranbarthol.

 

Roedd y Pwyllgor o'r farn bod cyllidebau cyfun yn gam cadarnhaol ond mynegwyd pryder ynghylch sut y byddent yn cael eu rheoli. Pwysleisiodd y swyddogion y byddai atebolrwydd a meini prawf llym ac y byddai angen hefyd iddynt fod yn ddigon hyblyg i weithio ar draws y system.

 

Diolchodd y Pwyllgor i'r tîm am eu holl waith.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau