Agenda item

GWASANAETH GWYBODAETH, CYNGOR A CHYMORTH

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru am y Gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth sy'n cael eu darparu gan y Cyngor ar hyn o bryd ac yn y dyfodol mewn perthynas â'r dyletswyddau statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Rhoddwyd gwybod i'r aelodau am y datganiad sefyllfa presennol o ran y cynnydd ynghylch datblygu gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth Sir Gaerfyrddin. Yn benodol, darparu un pwynt mynediad i'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant a'r Gwasanaethau Tai. Dywedodd swyddogion fod amryw bwyntiau mynediad i'r Gwasanaethau Cymdeithasol a bod ystyriaeth wedi'i rhoi i'r ffordd orau o'u tynnu oll ynghyd i greu un pwynt mynediad. Dywedwyd y byddai hyn yn helpu â'r agenda ymyrraeth gynnar.

 

Nodwyd bod gan Sir Gaerfyrddin wasanaeth Llinell Gofal a oedd wedi'i sefydlu ers tro byd, ac a oedd yn ymdrin â llawer o bobl agored i niwed, 24 awr y dydd a saith niwrnod yr wythnos. Roedd ymgynghori wedi digwydd â staff ar draws y Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai ynghylch sut oedd datblygu'r gwasanaeth Llinell Gofal i fod yn Wasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth. Roedd sicrhau cynaliadwyedd a chyrraedd Safonau'r Gymraeg wedi bod yn bwysig. Dywedwyd bod 85% o'r gweithwyr yn y Gwasanaeth bellach yn siarad Cymraeg (o leiaf lefel 3). Roedd cynllun hyfforddiant mwy strwythuredig wedi cael ei ddatblygu ar gyfer y Tîm a oedd yn ei alluogi i gymhwyso hyd at Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Lefel 4 mewn Gwybodaeth a Chyngor. Hefyd roedd hyfforddiant un i un a chymorth gan gyfoedion i alluogi staff i uwchsgilio'n gyflym ac roedd ymarferwyr amlddisgyblaeth yn yr ystafell gyda'r tîm i roi cyngor. Bellach roedd dilyniant gyrfa yn bosibl i aelodau'r tîm, ac roedd hwnnw wedi'i groesawu.  Dywedwyd bod y Gwasanaeth wedi cael ei symud i safle newydd ym Mhorth y Dwyrain yn Llanelli, a bod hynny wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol o ran ei ddatblygu.

 

Roedd y Gwasanaeth wedi cychwyn ar y cam prawf cysyniad i sicrhau y gallai ddiwallu anghenion pobl ac roedd yn defnyddio'r hyn a ddysgwyd yn y cam hwn i ddarparu pwynt mynediad pendant ar gyfer holl ymholiadau'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin. Nodwyd y byddai'r Gwasanaeth Cymorth, Cyngor a Chefnogaeth yn rhan o'r rhif cyswllt 111 newydd oedd yn cael ei dreialu gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda.   Soniodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd wrth y pwyllgor faint o waith oedd wedi cael ei wneud i ddatblygu'r gwasanaeth hwn.

 

Dywedodd yr aelodau oedd wedi defnyddio'r Gwasanaeth Llinell Gofal o'r blaen ei fod wastad wedi bod yn wasanaeth da ac mai newyddion cadarnhaol oedd ei fod yn cael ei ddatblygu ymhellach. Dywedodd y Pwyllgor mai peth buddiol o bryd i'w gilydd oedd cynnal ymarferiad siopwr cudd er mwyn sicrhau bod y wybodaeth oedd yn cael ei darparu i ddefnyddwyr gwasanaeth yn gywir a bod llwybrau clir ar gyfer cyrchu'r wybodaeth ofynnol. Rhoddodd y swyddogion ystyriaeth i'r sylwadau hyn a nodi eu bod ar hyn o bryd yn sicrhau bod y Gwasanaeth yn gadarn cyn ei farchnata. Bu i'r aelodau dynnu sylw at y ffaith mai'r dyddiad targed gweithredol oedd mis Mawrth 2017 a gofyn a oedd y Gwasanaeth ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed hwn.  Eglurodd swyddogion fod y Gwasanaeth eisoes yn cydymffurfio'n fras â gofynion y Ddeddf ac y byddent yn dal ati i'w ddatblygu er mwyn sicrhau ei fod yn llawer mwy na hynny. Diolchodd y Pwyllgor i'r tîm am y cynnydd oedd yn cael ei wneud.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: