Agenda item

SEFYLLFA BRESENNOL Y CYNLLUN SGORIO HYLENDID BWYD YN SIR GAERFYRDDIN

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn yr ystyried adroddiad ar Sefyllfa Bresennol y Cynllun Sgorio Bwyd yn Sir Gaerfyrddin. Roedd yr adroddiad sy'n unol â Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013, ac mewn cydweithrediad â'r cynllun gwirfoddol yn gofyn i fusnesau bwyd arddangos eu sgoriau hylendid bwyd, ac roedd hyn yn galluogi cwsmeriaid yn Sir Gaerfyrddin i wneud gwell dewis gwybodus am le y maent yn bwyta a phrynu eu bwyd.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd a oedd yr un swyddogion yn cyflawni archwiliadau yn yr un lleoliad. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd fod swyddogion yn cyflawni archwiliadau mewn ardaloedd gwahanol.

 

Cyfeiriwyd at y rhestr o'r 26 o fusnesau a oedd yn cydymffurfio'n fras ond heb ymateb.  Mewn ymateb i ymholiad, ynghylch y 'cyfnod ers y sgôr diwethaf' ac amledd archwiliadau, dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd wrth y Pwyllgor fod rhaglen archwilio ar waith a oedd yn cael ei diweddaru'n gyson. Hefyd, nodwyd bod y rhestr a ddarparwyd yn berthnasol i 29 Rhagfyr 2016.  Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd, ers 29 Rhagfyr 2016, fod sgôr hylendid bwyd ar gyfer dau o'r safleoedd wedi gwella yn dilyn archwiliad diweddar. Roedd yr archwiliad o Farchnad Hendy-gwyn ar Daf wedi gwella gyda sgôr o 4 ac roedd Ling Di Long Rhydaman wedi dangos sgôr o fwy na 2.

 

Gofynnwyd ynghylch y ffactorau risg uniongyrchol a oedd yn arwain at gau busnesau bwyd. Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd y gallai busnesau bwyd gael eu cau petai 'risg uniongyrchol' yn unig. Roedd yr adroddiad yn cynnwys enghreifftiau o risg uniongyrchol gan gynnwys pla o fermin a diffyg d?r poeth. Fodd bynnag, dywedwyd wrth y Pwyllgor bod llawer o ffactorau risg eraill a fyddai'n cael eu hystyried yn ystod archwiliadau.

 


Mewn ymateb i ymholiad ynghylch perfformwyr gwael presennol Sir Gaerfyrddin, dywedodd Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod y 36 o fusnesau nad oedd yn cydymffurfio'n fras wedi cael llythyr yn gofyn iddynt gadarnhau eu cynlluniau o ran sut y byddent yn gwella eu sgôr hylendid.

 

Gofynnwyd beth fyddai'n digwydd os nad oedd Swyddog Archwilio yn fodlon y byddai safle yn cael isafswm sgôr o 3?  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd petai Swyddog Archwilio o'r farn na fyddai safle yn gwella ei sgôr hylendid cyfredol yn dilyn ailasesiad, yna byddai'r safle yn cael hysbysiad gwella neu hysbysiad camau adfer a gallai camau erlyn gael eu rhoi ar waith pe na bai'r safle yn cyflawni'r gwaith a nodwyd yn yr hysbysiad.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd y byddai dulliau amrywiol o ran cyfathrebu â'r cyhoedd yn cael eu defnyddio er mwyn annog safleoedd nad oedd yn cydymffurfio'n fras i wella eu sgoriau bwyd hylendid.  Yn ogystal â hyn, mynegwyd yn glir i'r busnesau y cysylltwyd â hwy, y byddai'r Awdurdod yn gwneud datganiad cyhoeddus ynghylch y rheiny a oedd yn ymddangos nad oedd ganddynt fwriad i gydymffurfio'n fras.

 

Pwysleisiodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd ei fod yn ddiogel i'r cyhoedd fwyta a phrynu bwyd o'r safleoedd hyn nad oedd yn cydymffurfio'n fras.

 

Gofynnwyd sut yr oedd Swyddogion Archwilio yn ymdrin â pherchenogion/staff safleoedd a oedd yn siarad iaith dramor? Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod gan yr Awdurdod weithdrefn a oedd wedi'i sefydlu'n dda a defnyddir gwasanaeth y Llinell Iaith pan fo'n angenrheidiol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: