Agenda item

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r Ymgynghoriad ar Strategaeth y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2017/18 hyd 2019/20 a’r cynigion ar gyfer darparu arbedion effeithlonrwydd ar gyfer y meysydd gwasanaeth sydd yng nghwmpas y Pwyllgor a’r crynhoad o daliadau. Nodwyd y cynhaliwyd seminarau i’r Aelodau ar brif gynigion y gyllideb.

 

Esboniodd y swyddogion y gofynnwyd i’r adrannau ddarparu arbedion a fyddai’n cael effaith sylweddol ar wasanaethau. Esboniwyd y bu’r setliad dros dro a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref yn fwy cadarnhaol na’r disgwyl, ac y bu’n niwtral o ran arian parod. Er hyn, byddai’n dal i gael effaith yn sgil pwysau chwyddiant, newidiadau demograffig a’r galw am wasanaethau. Rhoddwyd amlinelliad i’r Pwyllgor o’r cynigion penodol ar gyfer Gofal Cymdeithasol a chydnabuwyd bod y mwyafrif o’r pwysau cynyddol yn dueddol o fod yn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Nododd y Pwyllgor mai dyhead yw cynigion y gyllideb a gallai fod yn anodd i rai meysydd gwasanaeth aros oddi mewn i gyfyngiadau’r gyllideb. Pwysleisiwyd bod mwy o bwysau yn cael ei roi ar Wasanaethau Cymdeithasol a theimlwyd nad oedd hyn yn cael ei gydnabod gan y llywodraeth genedlaethol.

 

Holoddyr aelodau yngl?n â Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) a’r hyn oedd i’w ddisgwyl gan y Cyngor o ran gwneud penderfyniadau. Esboniodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol mai’r bwriad oedd i’r Cyngor geisio sicrhau na fyddai ei benderfyniadau yn cael effaith andwyol ar y dyfodol. Ehangodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig ar hyn a phwysleisio nad oedd modd ei ystyried ar wahân i Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant 2016, a ddarparai’r fframwaith ar gyfer newidiadau tymor byr a allai helpu i gyflawni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn y tymor hwy.

 

Mynegwydpryderon yngl?n â’r arbedion effeithlonrwydd a nodwyd i leihau’r pecynnau gofal ymdriniaeth ddwbl presennol a sicrhau bod gofynion iechyd a diogelwch staff a defnyddwyr gwasanaethau yn cael eu hateb. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig bod cyfran y pecynnau cymorth ymdriniaeth ddwbl yn uchel yn Sir Gaerfyrddin ac yr ymgymerir yn ddiogel â’r mentrau a gynigir. Roedd y cynigion wedi’u llunio ar sail tystiolaeth ac ni chawsant eu herio gan ddefnyddwyr gwasanaethau.

 

Pwysleisiodd y Pwyllgor y cynnig ar gyfer gofal cartref a lleihau nifer y pecynnau gofal o lai na 5 awr, a gofynnwyd am fwy o wybodaeth am sut y câi hyn ei gyflawni. Pwysleisiodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod y cynigion yn seiliedig ar archwiliad a gynhaliwyd ar becynnau gofal. Esboniwyd bod y gwasanaeth eisiau sicrhau bod pecynnau yn caniatáu ailalluogi a byddai’r swyddogion yn herio partneriaid, felly roedd opsiynau arloesol ar gael. Rhoddwyd tawelwch meddwl i’r Pwyllgor wrth ddweud bod pecynnau yn cael eu hystyried fesul achos ac na châi’r defnyddwyr gwasanaethau eu peryglu. Cytunwyd y câi gwybodaeth yr archwiliad ei chyflwyno i’r Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Holoddyr aelodau yngl?n â’r arbedion effeithlonrwydd mewn perthynas ag Anableddau Dysgu a llety â chymorth a mynegwyd pryderon nad yw pobl yn llithro drwy’r rhwyd a’u bod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt. Esboniodd Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu fod pecynnau llety â chymorth yn cynnwys llawer o gymorth un i un, a oedd yn ddrud ac yn aml nid dyma’r opsiwn gorau i’r defnyddiwr gwasanaethau. Diben y cynigion oedd sicrhau’r annibyniaeth fwyaf a mynd i’r afael ag anghenion mewn ffordd wahanol fel bod modd camu i lawr o becynnau dibyniaeth fawr. Pwysleisiwyd bod astudiaethau achos wedi’u llunio a fyddai’n ddefnyddiol i’w rhannu gyda’r Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol. Holwyd a oedd y Bwrdd Iechyd yn rhoi arian cyfatebol tuag at becynnau lle bo gofyn. Esboniodd y swyddogion y caiff achosion eu hystyried ar sail angen ac y gweithredir dull holistaidd. Os yw’r pecyn yn canolbwyntio ar iechyd, byddai’r Gwasanaeth yn herio’r hyn sy’n ofynnol.

 

Gofynnodd y Pwyllgor ba gynnydd a wnaed mewn perthynas â rhesymoli grantiau i sefydliadau gwirfoddol. Pwysleisiodd Cyfrifydd y Gr?p bod gwaith ar y gweill i ddarparu’r arbedion effeithlonrwydd o £123k a gyflwynwyd gan yr adran ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.

 

Mynegodd y Pwyllgor bryder yngl?n â diwallu anghenion hydradu a maeth pobl h?n. Esboniodd y swyddogion y câi’r anghenion hyn eu hystyried fel rhan o’r broses o ddatblygu pecyn gofal a chafodd strategaeth maeth ei chyflwyno i’r Pwyllgor mewn cyfarfod blaenorol. Mynegodd rhai Aelodau bryder yngl?n â’r cynnydd yng nghost Prydau Cymunedol o £4 i £4.30 fel a amlinellir yn y Crynhoad o Daliadau. Teimlwyd nad yw’r gwasanaeth yn cael ei hyrwyddo’n rhagweithiol ac y dylid ei ddiogelu a’i gadw ar yr un gost. Atgoffwyd y Pwyllgor bod y cynigion presennol yn cyd-fynd ag argymhellion y Pwyllgor i’r Bwrdd Gweithredol y llynedd i gyflwyno’r cynnydd yng nghost Prydau Cymunedol fesul cam dros dair blynedd.

 

Pwysleisiodd y Pwyllgor fod y gwasanaeth yn bwysig i bobl sy’n byw ar eu pennau eu hunain a rhoddwyd enghreifftiau o bobl fregus y mae angen y gwasanaeth arnynt. Gofynnodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’r swyddogion gael eu hysbysu o unrhyw alw am wasanaethau o’r fath yn y gymuned fel bod modd asesu eu hanghenion ac er mwyn i’r ddarpariaeth gywir gael ei rhoi yn ei lle. Nodwyd bod lleihad ar hyn o bryd yn y galw am brydau cymunedol. Pwysleisiwyd nad oedd y gwasanaeth ar gael ym mhob ardal, ond bod opsiynau eraill yn bodoli, fel busnesau lleol.

 

HoloddAelodau ba effaith a gâi ar gynigion y gyllideb petai pris prydau yn aros ar £4 a faint o bobl oedd yn derbyn y gwasanaeth. Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p wrth y Pwyllgor mai tua 300 o bobl oedd yn derbyn y gwasanaeth a byddai’r effaith ar y gyllideb yn £20k yn ychwanegol. Nodwyd y byddai’n rhaid gwneud arbedion effeithlonrwydd mewn meysydd eraill ac ar hyn o bryd nid oedd cynigion eraill.

 

Cynigwydna fyddai’r Pwyllgor yn cefnogi’r cynnydd yng nghost prydau cymunedol ac i’r Bwrdd Gweithredol ailystyried y cynnig hwn. Yn dilyn pleidlais, gwrthodwyd y cynnig hwn gan y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD

 

6.1       derbyn yr adroddiad;

 

6.2       cadarnhau’r Crynhoad o Daliadau.

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau