Agenda item

CYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG

Cofnodion:

Bu i'r Cynghorydd D.J.R Bartlett ddatgan buddiant yn gynharach sef ei fod yn Llywydd Cangen Sir Gaerfyrddin o Undeb Cenedlaethol yr Athrawon.

 

Bu i'r Cynghorydd C.A. Campbell ddatgan buddiant yn gynharach sef ei fod ar hyn o bryd yn gwneud gwaith ymgynghorol ar ran ERW.

 

Bu i'r Cynghorydd M.J.A. Lewis ddatgan buddiant yn gynharach sef ei bod yn Is-lywydd Cymdeithas Ffermwyr Ifanc Cymru.

 

Derbyniodd y Pwyllgor fersiwn drafft o Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, yn dilyn cyfnod yr ymgynghoriad cyhoeddus a ddaeth i ben ar 19 Rhagfyr 2016, er mwyn rhoi ystyriaeth iddo. Atgoffwyd y Pwyllgor ei bod yn ofynnol i'r Awdurdod baratoi a chyflwyno Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg er mwyn cydymffurfio â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion Cymru (2013). Gan fod agenda'r cyfarfod wedi'i gyhoeddi cyn diwedd cyfnod yr ymgynghoriad, rhoddwyd trosolwg ar lafar i'r Pwyllgor yn ystod y cyfarfod yn amlinellu'r themâu cyffredinol a materion sy'n codi o'r ymatebion i'r ymgynghoriad.  Derbyniwyd cyfanswm o 20 o ymatebion i'r ymgynghoriad.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Cyfeiriwyd at yr angen i hyrwyddo manteision dwyieithrwydd mewn addysg ac roedd Gweithgor Cyfrifiad y Cyngor - yr Iaith Gymraeg wedi tynnu sylw at y mater hwn ac wedi gwneud argymhellion yngl?n â hyn yn ei adroddiad terfynol.   Roedd y Pennaeth Rhaglenni Dysgwyr yn cydnabod bod angen i'r gwaith hwn gael ei barhau ond rhoddodd sicrwydd i'r aelodau bod llawer o waith eisoes wedi cael ei wneud ar y cyd ag Uned Polisi Corfforaethol y Cyngor wrth baratoi ymgyrch hyrwyddol a allai gael ei chyflwyno yn y flwyddyn newydd.

 

Cyfeiriwyd at y nifer o ddisgyblion nad ydynt yn parhau ar hyd y continwwm iaith mewn ysgol uwchradd pan fyddant yn gadael ysgol gynradd cyfrwng Gymraeg. Mynegwyd siom ynghylch y niferoedd bychan o ddisgyblion a oedd yn dilyn cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg ar y cyfnodau allweddol hwyrach a thra bod hyn wedi bod yn destun cryn drafod ers nifer o flynyddoedd, mae'r bwlch yn dal i fod heb gael ei leihau. Nododd y Pennaeth Rhaglenni Dysgwyr fod yna ddarpariaeth ym mhob un o'r 'Canlyniadau' sydd wedi'u cynnwys yn y ddogfen ddrafft i fynd i'r afael â hyn a'i gwneud yn fwy naturiol i groesi o un cyfnod allweddol i'r llall.  Roedd yna gynnig hefyd i roi fforwm ar waith ar lefel ERW er mwyn mynd i'r afael â'r mater ymhellach. 

 

Awgrymwyd y dylid cynnwys manteision dwyieithrwydd o safbwynt iechyd yr unigolyn yn y Cynllun hefyd, a chyfeiriwyd at ganfyddiadau'r corff o ymchwil rhyngwladol a oedd yn dynodi bod y gallu i siarad mwy nag un iaith yn lleddfu effeithiau clefyd Alzheimers am tua phum mlynedd, o gymharu â'r rheiny a oedd yn siarad un iaith yn unig.

 

Awgrymwyd hefyd y dylid newid y cymal 'byddwn yn mynd ati'n barhaus gyda'n partneriaid i fonitro'r galw yn ein hardaloedd trefol ac ehangu'r ddarpariaeth yn ôl yr angen' i 'hyrwyddo'n barhaus' gan y dylai'r Awdurdod fod yn hyrwyddo'r iaith yn hytrach nag aros am alwad am gymorth.  

 

Mewn ymateb i'r sylwadau am ddisgyblion nad ydynt yn dewis parhau ar hyd y continwwm iaith mewn addysg uwchradd, awgrymwyd mai un o'r ffactorau mewn rhai ardaloedd o'r sir oedd y ffaith nad oedd gan ddisgyblion fynediad i gludiant digonol i'w cludo i'r ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg agosaf a'u bod, oherwydd y meysydd dalgylch, yn cael eu cyfeirio at ysgol arall. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan y Pwyllgor gymeradwyo Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg i gael ei ystyried gan y Bwrdd Gweithredol.

Dogfennau ategol: