Agenda item

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2016/17

Cofnodion:

[SYLWER:  Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31ain Rhagfyr 2016, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2016/17.

 

Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn gorwario £392k o ran y Gyllideb Refeniw ac y byddai yna -£1,990k o amrywiant net yn erbyn y Gyllideb Gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2016/17. 

 

Mynegwyd pryder ynghylch y swyddi gwag a'r pwysau yr oedd hyn yn ei roi ar wasanaethau. Holwyd a oedd swyddi yn cael eu dal yn ôl rhag cael eu llenwi er mwyn gwneud arbedion effeithlonrwydd. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu nad oeddent yn dewis peidio â llenwi swyddi a bod yna anawsterau o ran recriwtio i rai swyddi gweithiwr cymdeithasol.


 Nodwyd fod y Gwasanaeth yn gweithio gyda phrifysgolion i fynd i'r afael â'r mater hwn. Roedd y Pwyllgor yn gefnogol i'r dull hwn a holodd p'un a ellid gwneud cysylltiadau pellach gydag ysgolion i annog pobl i ystyried gwaith cymdeithasol fel proffesiwn o oed ifancach. Tynnodd y swyddogion sylw at y ffaith fod peth gwaith eisoes yn cael ei wneud mewn ysgolion, e.e. gweithio gyda myfyrwyr Safon Uwch Gofal Cymdeithasol a lleoliadau profiad gwaith, ac y byddai'r Gwasanaeth yn parhau i adeiladu'r cysylltiadau hyn. Nodwyd gan aelodau eu bod yn derbyn ceisiadau gan bobl ifanc sydd wrthi'n cwblhau'r cymwysterau Dug Caeredin am gael gwneud gwaith gwirfoddol, ac awgrymwyd y gallai cynlluniau megis tai gwarchod elwa o'r gwaith gwirfoddol hwn. Cytunwyd y byddai'r awgrym hwn yn cael ei godi gyda'r Gwasanaethau Tai.

 

Nodwyd bod recriwtio gweithwyr cymdeithasol yn broblem genedlaethol a bod yr adran yn ystyried cymhellion i annog gweithwyr cymdeithasol i weithio yn yr ardal. Gofynnodd yr aelodau am gael gwybodaeth am nifer y swyddi gweithiwr cymdeithasol sydd yn wag, a chytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu i gylchredeg adroddiad Cyngor Gofal Cymru yngl?n â Phroffil Gweithwyr Cymdeithasol yng Nghymru. Holodd yr aelodau ble'r oedd myfyrwyr yn cael eu hyfforddi i fod yn weithwyr cymdeithasol a ph'un a oedd y cymwysterau yn cael eu cynnig yn lleol. Esboniodd y swyddogion bod rhaid i weithwyr cymdeithasol gwblhau gradd a bod yna nifer o raglenni yng Nghymru. Roedd yna hefyd opsiynau i bobl gwblhau'r cwrs trwy'r Brifysgol Agored gyda chymorth o'r gweithle, ac roedd cael y Cyngor i feithrin ei weithwyr cymdeithasol ei hun drwy'r broses hon yn rhywbeth a oedd yn cael ei ystyried. Cytunwyd y byddai Pennaeth y Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu yn cadarnhau a oedd yna wybodaeth ar gael yngl?n â pha awdurdodau lleol yr oedd gweithwyr cymdeithasol yn dychwelyd iddynt ar ôl cymhwyso, ac yn darparu mwy o wybodaeth am awdurdodau lleol a oedd yn meithrin eu gweithwyr cymdeithasol eu hunain.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith fod rhai cynghorau wedi newid eu cyfnod rhybudd i dri mis, a oedd yn achosi oedi yn y broses recriwtio. Roedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn ystyried dull tebyg. Nododd yr aelodau hefyd fod yna oedi rhwng gweithio'r cyfnod rhybudd a hysbysebu swyddi a'r farn oedd y byddai cyfnod cysgodi yn fuddiol.

 

Eglurwyd bod y talfyriad SSMSS yn sefyll am Social Services Management and Support Services (Gwasanaethau Rheoli a Chymorth y Gwasanaethau Cymdeithasol). Esboniodd Cyfrifydd y Gr?p mai term Llywodraeth Cymru yw hwn a'i fod yn cyfeirio at reoli'r adran a chymorth busnes. Holodd yr aelodau beth oedd diben y cyfrif dal ar gyfer cludiant, a nodwyd ei fod yn cael ei ddefnyddio er mwyn dosbarthu costau cludiant i adrannau sy'n defnyddio'r gwasanaethau.

 

Gofynnodd yr aelodau am gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Cynllun Gofal Ychwanegol a'r Prosiect ARCH yn Llanelli. Rhoddodd Rheolwr y Rhaglen Foderneiddio wybod iddynt fod Tîm y Prosiect yn cwrdd yn rheolaidd ac y byddai cais yn cael ei wneud am adroddiad diweddaru. Nodwyd fod y wybodaeth ddiweddaraf am y Prosiect ARCH wedi cael ei rhoi i'r Cyngor fel rhan o gyflwyniad y Fargen Ddinesig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau