Agenda item

CWESTIWN GAN MRS. JACQUELINE SEWARD

Tristwch mawr i ni yw gweld i ba raddau y mae ein cymuned, a oedd unwaith yn un glos, wedi cael ei rhannu gan y cynnig hwn sy'n cael ei hybu gan leiafrif o'r pentref.  Rydym wedi treulio bron blwyddyn yn ymgysylltu â'r gymuned, gan guro ar ddrysau a gwrando ar yr hyn y mae pobl ei eisiau. Mae'r ymarferiad diwethaf wedi rhoi tystiolaeth gadarn inni fod 750 o bobl yn erbyn y cynnig, ac mae angen inni roi gwybod ichi mai prin iawn oedd y rhai y siaradom â nhw ar drothwy'r drws oedd yn cefnogi'r cynnig, er ein bod yn annog pawb i leisio eu barn. Rydym wastad wedi cefnogi bod ein plant yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol, ond rydym yn erbyn trochi llwyr, heb fod dewis rhieni yn cael ei hyrwyddo o dan y cynnig hwn.

 

Rydym yn ymwybodol fod nifer fawr o lythyrau sy'n cefnogi'r newid wedi cael eu casglu o'r tu allan i'r pentref, ac rydym wedi gwneud cais rhyddid gwybodaeth am fanylion ynghylch codau post i weld o ble daw'r gefnogaeth a'r gwrthwynebiad, fel y gellir gweld lle yn union y casglwyd y gefnogaeth hon. Mae'r dystiolaeth hon yn ffactor pwysig o ran galluogi'r aelodau i wneud penderfyniad.

 

Oni ddylid gwrando ar lais pobl Llangennech wrth benderfynu ar yr hyn sydd orau i drigolion ein cymuned?  Hyd yn oed heb gwestiynu o ble y daw'r llythyrau cefnogi, mae'r mwyafrif yn dal i fod o blaid cadw'r ddwy ffrwd yn yr ysgol. Yn anffodus, mae'r canlyniadau'n siarad drostynt eu hunain ac mae hyn wedi rhannu'r pentref. Felly, yr ateb rhesymegol fyddai cadw'r ffrydiau Cymraeg a Saesneg yn yr ysgol a darparu ar gyfer pawb.  Felly a ydych yn cytuno mai'r ffordd orau o ddelio â hyn yw trwy ohirio'r penderfyniad hwn hyd nes ar ôl etholiad Mai 2017, sef oedi o 6 mis yn unig i'r broses gyfan, er mwyn gweld yn union beth y mae'r pentref ei eisiau? Fel hyn y dylid fod wedi camu ta beth, yn hytrach na gadael pobl o'r tu allan i'r pentref i benderfynu ar dynged ein cymuned.

Cofnodion:

Tristwch mawr i ni yw gweld i ba raddau y mae ein cymuned, a oedd unwaith yn un clos, wedi cael ei rhannu gan y cynnig hwn sy’n cael ei hybu gan leiafrif o’r pentref. Rydym wedi treulio bron blwyddyn yn ymgysylltu â’r gymuned, gan guro ar ddrysau a gwrando ar yr hyn y mae pobl ei eisiau. Mae’r ymarferiad diwethaf wedi rhoi tystiolaeth gadarn inni fod 750 o bobl yn erbyn y cynnig, ac mae angen inni roi gwybod ichi mai prin iawn oedd y rhai y siaradom â nhw ar drothwy’r drws oedd yn cefnogi’r cynnig, er ein bod yn annog pawb i leisio eu barn. Rydym wastad wedi cefnogi bod ein plant yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol, ond rydym yn erbyn trochi llwyr, heb fod dewis rhieni yn cael ei hyrwyddo o dan y cynnig hwn.

 

Rydym yn ymwybodol fod nifer fawr o lythyrau sy’n cefnogi’r newid wedi cael eu casglu o’r tu allan i’r pentref, ac rydym wedi gwneud cais rhyddid gwybodaeth am fanylion ynghylch codau post i weld o ble daw’r gefnogaeth a’r gwrthwynebiad, fel y gellir gweld lle yn union y casglwyd y gefnogaeth hon. Mae’r dystiolaeth hon yn ffactor pwysig o ran galluogi’r aelodau i wneud penderfyniad.

 

Oni ddylid gwrando ar lais pobl Llangennech wrth benderfynu ar yr hyn sydd orau i drigolion ein cymuned?  Hyd yn oed heb gwestiynu o ble y daw’r llythyrau cefnogi, mae’r mwyafrif yn dal i fod o blaid cadw’r ddwy ffrwd yn yr ysgol. Yn anffodus, mae’r canlyniadau’n siarad drostynt eu hunain ac mae hyn wedi rhannu’r pentref. Felly, yr ateb rhesymegol fyddai cadw’r ffrydiau Cymraeg a Saesneg yn yr ysgol a darparu ar gyfer pawb.  Felly a ydych yn cytuno mai’r ffordd orau o ddelio â hyn yw trwy ohirio’r penderfyniad hwn hyd nes ar ôl etholiad Mai 2017, sef oedi o 6 mis yn unig i’r broses gyfan, er mwyn gweld yn union beth y mae’r pentref ei eisiau? Fel hyn y dylid fod wedi camu ta beth, yn hytrach na gadael pobl o’r tu allan i’r pentref i benderfynu ar dynged ein cymuned.

 

Ymateb gan y Cynghorydd J.E. Williams – Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant

 

Dywedodd y Cadeirydd fod yn rhaid i’r broses ar gyfer unrhyw gynnig cael ei chynnal yn unol â’r Côd Trefniadaeth Ysgolion statudol. Roedd y Côd Trefniadaeth Ysgolion yn nodi: “o dan adran 53 o Ddeddf 2013, rhaid i’r cynigydd wneud penderfyniad cyn pen 16 wythnos (112 diwrnod) o ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu. Os bydd y cynigydd yn methu â phenderfynu ar y cynnig cyn pen 16 wythnos, ystyrir ei fod wedi tynnu’r cynnig yn ôl a bydd angen iddo ailgyhoeddi’r cynigion os hoffai barhau.” Ychwanegodd unwaith eto, y byddai’n rhaid, yn statudol, i’r penderfyniad ynghylch camu ymlaen neu beidio â’r cynnig gael ei wneud er lles pennaf y dysgwyr. Felly, byddai’n rhaid penderfynu ar sail y rhinweddau addysgol yn hytrach nag ar sail nifer yr ymatebion a ddaeth i law, boed o blaid neu yn erbyn y cynnig.

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwr y Pwyllgor Dwy Ffrwd am eu cwestiynau a’u cyfraniadau yn ystod y cyfarfod gan ddweud bod aelodau’r Pwyllgor yn gwerthfawrogi eu pryderon a byddai’r aelodau’n ystyried eu safbwyntiau wrth ystyried yr eitem nesaf.