Agenda item

CWESTIWN GAN MRS. JULIA REES

Dim ond 3 uned Arsylwi/Asesu sydd yn Sir Gaerfyrddin. Unedau yw'r rhain lle gosodir plant ag anawsterau lleferydd a dysgu, wedi i seicolegwyr addysg Cyngor Sir Caerfyrddin benderfynu bod angen eu hasesu fel y gellir darparu ar gyfer eu hanghenion ychwanegol yn yr ysgol. Mae rhai plant yn symud oddi yma i ysgolion arbennig, tra bo eraill yn cael eu rhyddhau i ysgol brif ffrwd gyda chymorth. Ar hyn o bryd mae'r tair uned asesu yn Sir Gaerfyrddin yn addysgu drwy gyfrwng y Saesneg.  Dywedodd Mr Sully mai nod Cyngor Sir Caerfyrddin yw dod â'r ddarpariaeth addysg drwy gyfrwng y Saesneg i ben erbyn 2022 a bod Ysgol Llangennech ond yn rhan o'r newid hwn. Rwyf yn rhiant i blentyn a gafodd ei gofrestru a'i dderbyn i'r ffrwd Gymraeg yn Ysgol Llangennech, ond yn ôl cyfarwyddyd arbenigwyr Cyngor Sir Caerfyrddin cafodd ei osod i'w asesu mewn uned lle roedd yr addysgu'n digwydd drwy gyfrwng y Saesneg. Roedd hyn wedyn yn ei atal rhag dychwelyd i addysg drwy gyfrwng y Gymraeg pan gafodd ei ryddhau i addysg brif ffrwd, gan mai dim ond Saesneg y gallai siarad. Sut gall Cyngor Sir Caerfyrddin ddod â'r ddarpariaeth addysg drwy gyfrwng y Saesneg i ben yn Llangennech, a thrwy hynny atal fy mhlentyn rhag dychwelyd i addysg yn ei ysgol gymunedol gyda'r posibilrwydd yn y tymor hir wedyn o symud gyda chymorth i ffrwd Gymraeg ei ysgol leol, pan nad yw'n gallu helpu disgyblion ag anawsterau dysgu sy'n siarad Cymraeg i integreiddio i'r cymunedau y maent wedi eu dewis?

Cofnodion:

Dim ond 3 uned Arsylwi/Asesu sydd yn Sir Gaerfyrddin. Unedau yw’r rhain lle gosodir plant ag anawsterau lleferydd a dysgu, wedi i seicolegwyr addysg Cyngor Sir Caerfyrddin benderfynu bod angen eu hasesu fel y gellir darparu ar gyfer eu hanghenion ychwanegol yn yr ysgol. Mae rhai plant yn symud oddi yma i ysgolion arbennig, tra bo eraill yn cael eu rhyddhau i ysgol brif ffrwd gyda chymorth. Ar hyn o bryd mae’r tair uned asesu yn Sir Gaerfyrddin yn addysgu drwy gyfrwng y Saesneg.  Dywedodd Mr Sully mai nod Cyngor Sir Caerfyrddin yw dod â’r ddarpariaeth addysg drwy gyfrwng y Saesneg i ben erbyn 2022 a bod Ysgol Llangennech ond yn rhan o’r newid hwn. Rwyf yn rhiant i blentyn a gafodd ei gofrestru a’i dderbyn i’r ffrwd Gymraeg yn Ysgol Llangennech, ond yn ôl cyfarwyddyd arbenigwyr Cyngor Sir Caerfyrddin cafodd ei osod i’w asesu mewn uned lle’r oedd yr addysgu’n digwydd drwy gyfrwng y Saesneg. Roedd hyn wedyn yn ei atal rhag dychwelyd i addysg drwy gyfrwng y Gymraeg pan gafodd ei ryddhau i addysg brif ffrwd, gan mai dim ond Saesneg y gallai siarad. Sut gall Cyngor Sir Caerfyrddin ddod â’r ddarpariaeth addysg drwy gyfrwng y Saesneg i ben yn Llangennech, a thrwy hynny atal fy mhlentyn rhag dychwelyd i addysg yn ei ysgol gymunedol gyda’r posibilrwydd yn y tymor hir wedyn o symud gyda chymorth i ffrwd Gymraeg ei ysgol leol, pan nad yw’n gallu helpu disgyblion ag anawsterau dysgu sy’n siarad Cymraeg i integreiddio i’r cymunedau y maent wedi eu dewis?

 

Ymateb gan y Cynghorydd J.E. Williams – Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant

 

Dywedodd y Cadeirydd mai polisi Cyngor Sir Caerfyrddin oedd y dylai ei holl ysgolion fod yn gynhwysol, a bod plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu haddysgu mewn lleoliad prif ffrwd ochr yn ochr â’u cyfoedion ble bynnag y bo modd. Roedd modd gwneud hyn yn y mwyafrif o achosion, a oedd o fudd i’r holl blant. Er bod y gyfundrefn wedi’i chynllunio i ddiwallu anghenion dysgwyr drwy ymagwedd gyffredinol a chynhwysol, yn achos nifer bychan o blant ag anghenion ychwanegol cymhleth a sylweddol, nid yw hynny’n bosibl bob amser ac roedd darpariaeth arbenigol yn cynnig lleoliadau dysgu mwy priodol.

 

Er mwyn sicrhau bod anghenion yr holl ddysgwyr yn cael eu diwallu, mae cyfundrefn ysgolion Sir Gaerfyrddin yn cynnwys darpariaeth helaeth ar gyfer plant sydd ag anghenion ychwanegol. Roedd addysg mewn ysgol neu uned arbenigol yn cael ei gynnig i’r plant â’r anghenion mwyaf difrifol neu gymhleth pan na fo lleoliad prif ffrwd yn addas i anghenion y plant, neu pan fo’n well gan y rhieni leoliad arall. Roedd rhai ysgolion uwchradd a chynradd ledled y sir yn cynnwys unedau arbenigol ar gyfer plant sydd ag anghenion penodol, megis awtistiaeth, namau synhwyraidd, neu oedi o ran lleferydd ac iaith. Roedd yr Adran Addysg a Phlant yn darparu cymorth ychwanegol penodol yn yr ysgolion, lle bo modd, fel bod cynifer o blant â phosibl yn aros yn eu hysgol leol. Er ei bod yn well gan y Cyngor ddiwallu anghenion yr holl blant mewn ysgol brif ffrwd pryd bynnag y bo modd, nid yw hyn yn ymarferol bob amser.

 

Roedd gan yr holl ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol gynlluniau unigol penodol yn seiliedig ar eu hamgylchiadau, a rhaglen gymorth bwrpasol i gyd-fynd ag anghenion yr unigolyn. Yn gyffredinol, nid oedd ‘angen dysgu ychwanegol’ yn rhwystr o ran dysgu dwy iaith. Roedd yn bwysig asesu a monitro’r cynnydd ym mhob iaith neu’r holl ieithoedd y mae’r plentyn yn eu defnyddio neu’n eu dysgu, gan gynnwys y systemau arwyddion a chyfathrebu â chymorth gweledol sy’n ofynnol ar gyfer rhai disgyblion, yn enwedig gan fod modd defnyddio’r iaith sydd wedi’i datblygu gryfaf i gefnogi a hybu dysgu drwy gyfrwng yr iaith nad yw wedi’i datblygu mor gryf. Roedd yn ofynnol i’r staff wahaniaethu’r cwricwlwm a gwneud addasiadau rhesymol i’r iaith ddysgu ac ymateb, er mwyn gallu darparu ar gyfer anghenion ychwanegol ac er mwyn sicrhau bod mynediad i’r cwricwlwm a bod cynnydd o ran y dysgu. Ar brydiau gall fod yn briodol i’r staff dargedu cymorth ychwanegol drwy un iaith am gyfnod i gyfnerthu a chyflymu’r dysgu, (e.e. o ran llythrennedd).

 

Fodd bynnag, ychwanegodd y byddai achosion prin pan fyddai plentyn yn cael diagnosis o gyflwr sy’n golygu nad yw addysg gwbl ddwyieithog yn addas i’r plentyn. Dan amgylchiadau o’r fath, byddai ymarferwyr proffesiynol yn llunio pecyn cymorth ac yn ei drafod â’r rhieni. Trefnwyd bod y plentyn yn mynychu ysgol briodol lle gellir diwallu ei anghenion. Mae’n bosibl ar adegau prin na ellir diwallu anghenion plentyn yn yr ysgol leol, er gwaethaf ymrwymiad y Cyngor i addysg gynhwysol, gan ei bod yn syml ddigon yn anymarferol i ddarparu ar gyfer pob angen ym mhob ysgol. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf bu’r Gwasanaeth Seicoleg Addysg a Phlant wedi ymwneud â dim ond un neu ddau achos bob blwyddyn pan gynghorwyd bod y plentyn yn symud i ysgol arall. I roi hyn yn ei gyd-destun, mae cyfundrefn ysgolion Sir Gaerfyrddin yn gwasanaethu cyfanswm o ryw 27,000 o ddisgyblion, felly prin iawn yw’r troeon y mae disgyblion yn symud oherwydd anghenion dysgu ychwanegol.

 

Ym mhrofiad y Cyngor hwn roedd y mwyafrif llethol o’r disgyblion hynny sydd ag ystod eang o anghenion dysgu ychwanegol ac sy’n amrywio o ran eu gallu, yn llwyddiannus yn ysgolion ein Sir, ni waeth beth fo iaith y dysgu ond roedd y Cyngor yn cydnabod y byddai, mewn rhai achosion prin iawn, blant na ellir diwallu eu hanghenion heblaw trwy ddarpariaeth mewn uned arbenigol.

 

O ran y cynnig ar gyfer Llangennech, byddai’r cymorth a roddir i’r plant presennol yn yr ysgolion sydd ag anghenion ychwanegol yn parhau drwy gyfrwng yr iaith y maen nhw’n cael eu haddysg ar hyn o bryd. Os gweithredir y cynnig, byddai’r holl ddisgyblion yn y dyfodol yn cael y cymorth hwn drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf, gan wneud addasiadau priodol er mwyn diwallu anghenion ychwanegol unigol y disgyblion.