Agenda item

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2016/17

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiadau Monitro ynghylch Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf blwyddyn ariannol 2016/17 fel yr oeddynt ar 31 Awst 2016 ar gyfer yr Adran Addysg a Phlant. Dywedwyd y rhagwelwyd gorwariant sylweddol o £1,550,000 yn y gyllideb refeniw ddiweddaraf ar ddiwedd y flwyddyn. Rhagwelwyd gwariant net yn y gyllideb gyfalaf o £13,322,000 o gymharu â chyllideb net weithredol o £19,607,000 gan roi amrywiant o £-6,285,000. Cynghorwyd yr aelodau y byddai’r amrywiant cyfalaf yn cael ei gynnwys yn y blynyddoedd sydd i ddod, oherwydd byddai’n ofynnol cael y cyllid i sicrhau bod y cynlluniau amrywiol yn cael eu cwblhau.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd a fyddai’r gorwariant cyfredol yn cael ei ddileu drwy ddefnyddio’r cronfeydd wrth gefn. Cadarnhaodd Cyfrifydd y Gr?p mai dyma fyddai’n digwydd, ond wrth wneud hyn byddai’n effeithio ar gyllidebau yn y dyfodol. Atgoffodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant y Pwyllgor fod cronfeydd wrth gefn yr adran wedi cael eu defnyddio hyd eleni ar gyfer rheoli ansefydlogrwydd ariannol. Fodd bynnag, cafodd y rhain eu defnyddio’n llwyr y llynedd ond nid oedd y pwysau gwaelodol ar y gwasanaethau wedi pylu. Roedd un gost sylweddol y tu hwnt i reolaeth yr Awdurdod, sef dileu swyddi a threfniadau ymddeol yn gynnar yn wirfoddol mewn ysgolion.

 

Mynegwyd pryder am yr oedi parhaus ynghylch ysgol gynradd newydd yn Rhydaman a gofynnwyd a oedd rhyw fath o restr oherwydd roedd yn ymddangos fel pe bai prosiectau eraill wedi neidio i frig y rhestr. Gofynnwyd hefyd a oedd gan Weithlu Rhydaman unrhyw rôl, os o gwbl, wrth gynllunio ar gyfer yr ysgol newydd. Atgoffodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant yr aelodau fod y Pwyllgor ei hun wedi cymeradwyo’r Adolygiad Dwyflynyddol ar y Rhaglen Moderneiddio Addysg yn gynharach yn ystod y flwyddyn honno, a chadarnhaodd er bod rhestr flaenoriaeth (Band A, B ac ati), roedd yn ofynnol bod yn hyblyg oherwydd y newidiadau demograffig yn y Sir. Cadarnhaodd fod gwaith ar ysgol newydd Rhydaman wedi dechrau pedair blynedd yn ôl, ond ers hynny, mae niferoedd y plant yn y dref wedi cynyddu’n sylweddol a bellach nid oedd digon o gyllid i gynnwys y newidiadau i’r prosiect yn gyffredinol. Cymhlethdod arall oedd y diffyg tir ac er bod un darn o dir wedi cael ei nodi, roedd angen £8 miliwn yn rhagor er mwyn ariannu’r prosiect. Aeth ati hefyd i sicrhau’r Pwyllgor fod y Tîm Rhaglen Moderneiddio Addysg yn gweithio’n agos gyda Thasglu’r dref ar y mater.

 

Mewn ymateb i ymholiad am brosiect Cam 1 Gorllewin Caerfyrddin, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant wrth y Pwyllgor fod hwn yn gysylltiedig â’r datblygiad preswyl mawr ar ochr orllewinol Caerfyrddin. Yn sgil nifer y tai arfaethedig, byddai angen ysgol gynradd newydd ac roedd y rhagamcanion cychwynnol yn cynnwys ysgol â threfniadau derbyn dau ddosbarth i oddeutu 400 o ddisgyblion. Fodd bynnag, roedd y cynllun presennol ar gyfer datblygu ysgol mewn dau gam oherwydd bod angen hyblygrwydd o ran cynnydd y datblygiad yn gyffredinol. Cadarnhaodd fod y cyllid a gyfeiriwyd ato yn yr adroddiad ar gyfer cam datblygu/dylunio’r prosiect ysgol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.  

Dogfennau ategol: