Agenda item

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I GAU YSGOL BABANOD LLANGENNECH AC YSGOL IAU LLANGENNECH A SEFYDLU YSGOL GYMUNEDOL GYNRADD LLANGENNECH

Cofnodion:

Roedd Mrs E. Heyes wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ei hystyried ac yn penderfynu yn ei chylch.

 

Roedd y Cynghorydd W.G. Hopkins eisoes wedi datgan yn gynharach ei fod yn llywodraethwr ar Gorff Llywodraethu Ffederal Ysgol Llangennech a bod Swyddog Monitro yr Awdurdod Lleol wedi cadarnhau ei fod yn cael cymryd rhan a phleidleisio wrth ystyried yr eitem hon. 

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried cynnig i gau Ysgol Babanod Llangennech ac Ysgol Iau Llangennech a sefydlu Ysgol Gynradd Gymunedol Llangennech yn eu lle a’r sylwadau a oedd wedi dod i law mewn ymateb i’r cynnig i gyhoeddi Hysbysiad Statudol. Roedd y sylwadau a gafwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori diweddaraf, fel y nodwyd yn yr adroddiad ymgynghori, wedi’u cynnwys yn yr Adroddiad Gwrthwynebu.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant gefndir y cynnig, cyd-destun y polisi a chynnwys a chynllun yr adroddiad a oedd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor. Nodwyd y cafwyd ymateb sylweddol (1,418 o ymatebion), fodd bynnag, gan mai’r rhinweddau addysgol oedd ffactorau pwysicaf a fyddai’n cyfrannu at y penderfyniad, ac roedd swyddogion yn parhau o’r farn nad oedd angen newidiadau i’r cynnig yn dilyn cam diweddaraf y broses.  

 

Gwnaed y sylwadau canlynol wrth ystyried y cynnig:

 

Croesawyd yr adroddiad manwl a dywedwyd bod y Cyngor yn syml yn gweithredu’r hyn yr oedd yn ofynnol gan Lywodraeth Cymru. Mynegwyd siom nad oedd ysgolion cyfrwng Saesneg yn annog disgyblion i ddod yn ddwyieithog ac mae cyflwyno darpariaeth cyfrwng Cymraeg oedd yr unig ffordd y gallai’r Cyngor sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn gwbl ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg.

 

Cyfeiriwyd at yr ymchwil sylweddol a gyflawnwyd yng Nghymru ac yn rhyngwladol, a oedd yn cefnogi’r canlyniad nad oedd ysgolion dwy ffrwd neu ysgolion cyfrwng Saesneg yn creu disgyblion gwbl ddwyieithog ac mae trochi’n llwyr mewn lleoliad cyfrwng Cymraeg oedd yr unig ffordd ymlaen, yn enwedig os yw’r Sir yn mynd i’r afael â’r dirywiad sylweddol yn nifer y siaradwyr Cymraeg, fel y gwelwyd yn ystod y Cyfrifiad diwethaf yn 2011. Cyfeiriwyd hefyd at ymchwil Llywodraeth Cymru nad oedd lleoliadau cyfrwng Cymraeg yn llesteirio nac yn effeithio ar berfformiad a chyrhaeddiad addysgol disgyblion, fel yr oedd rhai wedi awgrymu. Teimlwyd mai’r methiant i fod yn ddwyieithog oedd gwir achos y rhaniad mewn cymunedau. Nodwyd hefyd bod Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi amlinellu ei nod o greu 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, ac roedd yn amlwg y byddai’n rhaid i addysg chwarae rhan sylweddol er mwyn gwireddu’r uchelgais hwn.

 

Er bod pwysigrwydd cynyddu siaradwyr Cymraeg ac annog y defnydd o’r iaith yn cael eu cydnabod, awgrymwyd na ddylid anwybyddu pryderon y gwrthwynebwyr. Awgrymwyd bod ganddynt bwyntiau dilys ac nid oedd eu holl gwestiynau wedi cael eu hateb yn llawn. Roedd yn hanfodol er mwyn bod yn agored a thryloyw, bod yr holl wybodaeth yn cael ei darparu er mwyn sicrhau bod cynigion o’r fath yn cael cefnogaeth pawb cyn symud ymlaen. Roedd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant yn cydnabod y rhwystredigaeth â’r broses ond nododd y dylid cyfeirio unrhyw bryderon i Lywodraeth Cymru. Yn syml, roedd yr Awdurdod Lleol yn cydymffurfio â’r gofynion a roddwyd gan y Llywodraeth yng Nghaerdydd. Mynegodd hefyd fod yr Awdurdod wedi mynd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwyliwyd ohono yn ystod y broses ymgynghori gan fynd ati i ymgysylltu â’r holl rhanddeiliaid.

 

Cyfeiriwyd at y broses ymgynghori a mynegwyd y farn bod y broses wedi cael ei chynnal yn gywir ac yn unol â’r gofynion deddfwriaethol. Fodd bynnag, pe bai’r cynnig yn cael ei weithredu, byddai disgyblion o gartrefi di-Gymraeg heb amheuaeth yn cael pob cymorth posibl o ran eu sgiliau iaith. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod 50% o’r disgyblion yn ffrwd Gymraeg Ysgol Llangennech yn perfformio’n arbennig o dda ac nid oedd angen i rieni boeni. Roedd ysgolion y Sir yn dda iawn am feithrin a datblygu sgiliau Cymraeg disgyblion o gefndiroedd di-Gymraeg.

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor: 

 

5.1       Bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn. 

 

5.2       nad oedd unrhyw gynigion perthnasol eraill; a bod y cynnig statudol wedi bod yn destun ymgynghoriad a gafodd ei gyhoeddi yn unol â’r Côd Trefniadaeth Ysgolion a’i fod yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol, ac ar ôl ystyried y ddogfen ymgynghori a’r adroddiad ymgynghori, y gwrthwynebiadau ac unrhyw ymatebion i’r hysbyseb yn cefnogi’r cynnig yn yr adroddiad gwrthwynebu, y dylid argymell i’r Bwrdd Gweithredol bod y cynnig, fel y nodwyd yn yr Hysbysiad Statudol, yn cael ei weithredu.

 

Gohiriwyd y cyfarfod am 10 munud yn dilyn ystyried yr eitem hon er mwyn i ymwelwyr adael y Siambr. 

Dogfennau ategol: