Agenda item

TRAWSNEWID I WNEUD CYNNYDD (TIC) - DIWEDDARIAD AR Y RHAGLEN

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y rhaglen ‘Trawsnewid i Wneud Cynnydd’ (TIC). Nododd yr Aelodau fod y fenter, a sefydlwyd yn 2012, wedi’i lansio mewn ymateb i’r  heriau ariannol sylweddol yr oedd yr Awdurdod Lleol yn eu hwynebu a bod y dull TIC, hyd y dyddiad hwnnw, wedi bod o gymorth i adnabod, neu’n helpu i gyflawni, arbedion effeithlonrwydd gwerth tua £7m. Cafodd y Pwyllgor drosolwg hefyd o’r Adolygiad o Reoli Fflyd y Cyngor dan y Rhaglen TIC y dangoswyd ei fod yn dwyn arbedion sylweddol trwy ddefnydd mwy effeithiol ac effeithlon o fflyd y Cyngor o gerbydau a gostyngiadau yn y gwariant sy’n gysylltiedig â theithio gan staff trwy fabwysiadu ffyrdd doethach o weithio.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried y diweddariad: 

 

Yn dilyn ymholiad, rhoddodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd sicrwydd i’r Pwyllgor bod swyddogion yn hyderus y byddant yn cyflawni’r arbedion arfaethedig. O ran y broses TIC, roedd yn hollbwysig ymgysylltu â staff er mwyn sicrhau bod datrysiadau newydd yn cael eu cyflawni. Mewn ymateb i ymholiad pellach ynghylch y gorwariant yn y gwasanaeth cludiant teithwyr, rhoddodd wybod i’r Pwyllgor bod trafodaethau gyda’r Gwasanaethau Ariannol yn mynd rhagddynt i ddatrys y mater hwn.

 

Cyfeiriwyd at gynigion blaenorol i ddatblygu depo canolog ar gyfer gwasanaethau priffyrdd. Cadarnhaodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod hwn yn dal i gael ei ystyried fel rhan o’r agenda gweithio hyblyg a bod tîm adrannol wedi cael ei sefydlu i ystyried gwahanol opsiynau a gofynion y gwasanaeth, er nad oedd unrhyw gynlluniau pendant i’w cael ar hyn o bryd. 

 

Gofynnwyd a allai’r model cyfrifiadurol a oedd yn cael ei ddefnyddio i gynllunio llwybrau casglu gwastraff gael ei ddefnyddio ar gyfer llwybrau Cludiant i’r Ysgol, er mwyn canfod arbedion effeithlonrwydd pellach a gofynnwyd a oedd ymgynghori’n digwydd â’r gwasanaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd ynghylch lleoliad ysgolion a chartrefi gofal newydd. Cadarnhaodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod ymgynghori’n digwydd â’r gwasanaeth fel rhan o unrhyw ddatblygiad pwysig, yn enwedig ar gyfer ysgolion trwy’r Rhaglen Moderneiddio Addysg. Roedd anghenion cludiant disgyblion wedi dylanwadu ar leoliad Ysgol Bro Dinefwr, er enghraifft. Mewn perthynas â llwybrau cludiant i’r ysgol, roedd swyddogion yn sicrhau bod y galw’n cael ei reoli yn y lle cyntaf cyn penderfynu ar y llwybrau priodol. Roedd adolygiad diweddar o Gludiant Ysgol wedi canfod bod y llwybrau’n gweithredu ar lefel effeithlonrwydd o 95%. Fodd bynnag, roedd trefniadau i ddefnyddio tacsis ar gyfer disgyblion ysgol yn faes allweddol a oedd yn cael ei adolygu trwy’r broses TIC.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch gostyngiadau blaenorol mewn lefelau staffio, dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd nad oedd unrhyw swyddi’n cael eu colli’n orfodol o ganlyniad i’r broses a bod arbedion effeithlonrwydd o ran staff yn cael eu gwneud trwy gyfraddau ymadael naturiol a chynlluniau diswyddiadau. Ychwanegwyd fod y tîm TIC yn gwneud gwaith parhaus i ystyried ffyrdd gwahanol o weithio er mwyn osgoi toriadau i wasanaethau rheng flaen, yr oedd yr adolygiad o'r fflyd yn enghraifft dda ohono, gan fod costau cyflenwi wedi cael eu lleihau o ganlyniad i’r adolygiad hwnnw er mwyn diogelu gwasanaethau rheng flaen.

 

Gofynnwyd a oedd unrhyw geir adran rhatach ar gael ar y farchnad o’i gymharu â’r rhai a oedd yn cael eu defnyddio gan yr Awdurdod ar hyn o bryd. Rhoddodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd wybod i’r Pwyllgor bod yr ardaloedd pellennig yr oedd rhan o’r fflyd ceir yn gweithredu ynddynt yn golygu bod cerbydau 4x4 yn anghenraid, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf a bod yr ymarfer caffael diwethaf wedi arwain at adnabod y Volkswagen Tiguan fel y dewis mwyaf effeithlon a’r un a oedd yn cynnig y gwerth gorau am arian. Fodd bynnag, ychwanegodd fod canlyniad ymarfer caffael diweddar yn golygu y byddai’r rhain yn cael eu disodli yn awr gan y Skoda Yeti gan mai dyma oedd yn cynnig y gwerth gorau am arian.

 

Cafwyd toriad byr yng nghyfarfod y Pwyllgor er mwyn cael munud o dawelwch i goffáu Diwrnod y Cadoediad.

 

Gofynnwyd a oedd y defnydd o weithwyr asiantaeth yn cael ei ystyried gan fod gweithwyr o’r fath wedi bod yn cael eu defnyddio’n draddodiadol gan Adran yr Amgylchedd. Rhoddodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg wybod i’r Pwyllgor fod hyn y tu allan i gwmpas yr adolygiad o’r fflyd dan y rhaglen TIC.

 

Yn dilyn awgrym y dylai’r defnydd o staff asiantaeth ar draws adrannau’r Awdurdod gael ei ystyried gan Dîm y Rhaglen TIC, cytunodd Rheolwr y Rhaglen TIC i ystyried yr awgrym.

 

Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â staffio Tîm y Rhaglen TIC, fe wnaeth Rheolwr y Rhaglen TIC atgoffa’r Pwyllgor bod nifer o swyddogion unigol allan mewn adrannau a oedd yn cyfrannu at waith Tîm y Rhaglen TIC ar y cyfan. Roedd cynnig buddsoddi i arbed ar gyfer Swyddog Ysgolion TIC yn cael ei ystyried ar hyn o bryd hefyd a rhagwelid y byddai’r unigolyn hwn yn gweithio gydag ysgolion i amlygu arbedion a mesurau effeithlonrwydd. 

 

Roedd y Pwyllgor yn croesawu’r gwaith a oedd yn cael ei wneud gan swyddogion trwy’r Rhaglen TIC a’r arbedion effeithlonrwydd sylweddol a oedd wedi’u cyflawni hyd yma a PHENDERFYNODD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: