Agenda item

CAIS I AMRYWIO TRWYDDED SAFLE , THE SQUARE, 3 CROSS INN BUILDINGS, STRYD Y GWYNT, RHYDAMAN, SA18 3DN

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd yr Is-bwyllgor fod cais wedi cael ei gyflwyno gan Mr M Coelho am amrywio'r drwydded safle ar gyfer The Square, 3 Adeiladau'r Cross Inn, Stryd y Gwynt, Rhydaman i ganiatáu:

 

Cyflenwi Alcohol:

Dydd Gwener a Dydd Sadwrn, Dydd Sul Gwyliau Banc, Noswyl Nadolig a G?yl San Steffan

10:00 – 03:00

Cerddoriaeth a recordiwyd

Dydd Gwener a Dydd Sadwrn, Dydd Sul Gwyliau Banc, Noswyl Nadolig a G?yl San Steffan

 

Nos Galan

10:00 – 03:00

 

 

 

 

10:00 – 05:00

 

Oriau Agor:

Dydd Gwener a Dydd Sadwrn, Dydd Sul Gwyliau Banc, Noswyl Nadolig a G?yl San Steffan

10:00 – 03:30

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:

·        Atodiad A – copi o'r cais

·        Atodiad B - copi o'r drwydded safle bresennol

·        Atodiad C - sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu

·        Atodiad D - sylwadau Heddlu Dyfed-Powys

·        Atodiad E - sylwadau Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd

·        Atodiad D – sylwadau a ddaethai i law gan bobl eraill oedd yn gwrthwynebu'r cais

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, fel y nodwyd yn Atodiad C i'r adroddiad, a dywedodd, ar ôl cyhoeddi'r adroddiad, fod gohebiaeth wedi dod i law gan Heddlu Dyfed-Powys a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd yn tynnu eu gwrthwynebiadau yn ôl, a hynny ar ôl dod i gytundeb â'r ymgeisydd ynghylch gosod amodau diwygiedig, yr oedd copïau o'r rhain wedi'u dosbarthu yn y cyfarfod. Hefyd, dosbarthwyd e-bost dyddiedig 19eg Medi 2016 gan yr ymgeisydd a oedd yn egluro nifer o faterion mewn perthynas â chapasiti The Square, y drws cefn a gosod system teledu cylch cyfyng.

 

Gan ystyried y cytundeb a wnaed rhwng yr ymgeisydd, yr Heddlu a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd ynghylch yr amodau diwygiedig, roedd yr Awdurdod Trwyddedu o'r farn y byddai'n briodol ychwanegu'r amodau hynny at y drwydded newydd, petai'r Is-bwyllgor yn penderfynu caniatáu'r cais am amrywio'r drwydded.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon a oedd yn bresennol holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.

 

Cafwyd sylw gan wrthwynebwr ar ran pobl leol sy'n byw yng nghyffiniau The Square ynghylch y s?n sy'n dod o'r safle ar hyn o bryd a'r effaith bosibl y gallai caniatáu'r cais am amrywio'r drwydded er mwyn agor am awr arall ei chael ar eu hamwynder. Mynegwyd pryder hefyd ynghylch a oedd y safle yn dod yn glwb nos, yn enwedig o ystyried y ffaith fod cais (cynllunio) blaenorol am glwb nos yn yr ardal wedi cael ei wrthod. I gloi, rhoddwyd gwybod i'r Is-bwyllgor fod y rhan fwyaf o'r safleoedd eraill yn yr ardal yn cau am 1.00am.

 

Rhoddwyd cyfle i bawb oedd yn bresennol holi'r gwrthwynebwr ynghylch ei sylwadau.

 

Cafwyd sylw gan yr ymgeisydd o blaid ei gais. Cyfeiriodd at bryderon a fynegwyd ynghylch y drws cefn a chadarnhaodd fod y rhan fwyaf o'r cwsmeriaid yn gadael y safle drwy'r drws ffrynt. Mewn perthynas â'r pryderon ynghylch s?n, cadarnhaodd nad oedd wedi cael unrhyw gwynion gan naill ai'r Cyngor neu'r Heddlu, a bod unrhyw niwsans s?n yn cael ei greu o bosibl gan aelodau'r cyhoedd wrth iddynt gerdded drwy'r parc cyfagos sy'n ffinio ag eiddo'r trigolion yn oriau mân y bore. Cyfeiriodd at y cais am amrywio'r drwydded tan 3.00am, a dywedodd, petai'r cais am amrywio'n cael ei ganiatáu, ei fod o'r farn y byddai'r rhan fwyaf o'r cwsmeriaid yn gadael y safle yn raddol cyn yr amser hwnnw gan atal y sefyllfa bresennol lle roedd pawb yn gadael am 2.00am. Cyfeiriodd ymhellach at y Cynllun Gweithredu ar gyfer y safle, a gyflwynwyd yn 2014 yn sgil cais gan yr Heddlu, gan ddweud bod y safle'n cael ei weithredu'n well ers iddo gael ei gyflwyno.

 

Rhoddwyd cyfle i bawb oedd yn bresennol ofyn cwestiynau i'r ymgeisydd am ei sylwadau.

 

Yna bu i'r Is-bwyllgor

 

BENDERFYNU'N UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r Cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref

 

PENDERFYNWYD bod y cais am amrywio'r drwydded safle ar gyfer The Square, Rhydaman yn cael ei ganiatáu, yn amodol ar yr amodau trwyddedu ychwanegol yr oedd yr ymgeisydd a'r awdurdodau cyfrifol wedi cytuno arnynt.

Y RHESYMAU

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;

 

1.           Bu hanes o droseddau ac anhrefn cysylltiedig ag alcohol ar y safle, a arweiniodd at Gynllun Gweithredu yn 2014.

2.           Ers rhoi'r cynllun gweithredu ar waith, ni fu rhagor o broblemau ar y safle.

3.           Nid oedd yr Heddlu na Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd yn gwrthwynebu caniatáu'r cais mewn egwyddor.

4.           Roedd yr Heddlu a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd yn gofyn am osod mesurau rheoli ychwanegol i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu.

5.           Roedd yr ymgeisydd, yr heddlu ac Iechyd y Cyhoedd wedi cytuno i ychwanegu amodau ychwanegol at y drwydded i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu.

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr Heddlu a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd ac nid oedd ganddynt ddim rheswm dros fynd yn groes i'w sylwadau.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad oedd pryderon ac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid y cais, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallai roi ystyriaeth briodol iddynt.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn derbyn tystiolaeth y gwrthwynebwyr ynghylch troseddau ac anhrefn a niwsans s?n yng nghyffiniau'r safle. Fodd bynnag, roedd hefyd yn derbyn tystiolaeth yr Heddlu a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd y gellid hyrwyddo'r amcanion trwyddedu drwy weithredu'r amodau trwyddedu ychwanegol y cytunwyd arnynt â'r ymgeisydd.

 

Gan hynny, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon na fyddai caniatáu'r cais yn amodol ar yr amodau a gytunwyd yn tanseilio'r amcanion trwyddedu a'i bod, ar ben hynny, yn briodol caniatáu'r cais yn amodol ar yr amodau a gytunwyd er mwyn hyrwyddo'r amcanion hynny.

 

Atgoffodd yr Is-bwyllgor yr ymgeisydd fod yn rhaid iddo gydymffurfio â'r holl amodau ychwanegol pryd bynnag y byddai'n gwneud defnydd o'r oriau agor ychwanegol a ganiatawyd.

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau