Agenda item

FFRAMWAITH COMISIYNU GOFAL CARTREF

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr K. Madge, E. Morgan a J. Williams oll wedi datgan buddiannau yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad am drefniadau comisiynu’r Awdurdod ar gyfer gofal cartref a oedd yn nodi canfyddiadau adolygiad cenedlaethol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) o ofal cartref yng Nghymru (Hydref 2016). Roedd yr Awdurdod yn fodlon ar y modd yr oedd y contract a’r fanyleb gwasanaeth newydd yn cael eu gweithredu. Cyflwynwyd chwe elfen ac roedd llawer o’r rhain wedi cael eu hadnabod yn yr Adolygiad Cenedlaethol fel gwelliannau a awgrymir. Cafwyd adborth cadarnhaol gan y rhai a oedd yn rhan o’r ffordd newydd o weithio a chymeradwyaeth gan AGGCC yn rhanbarthol ac yn genedlaethol i’r dull comisiynu a ddefnyddiwyd.

 

Roedd y Pwyllgor yn blês gyda’r adroddiad arolygu cadarnhaol a’r ffaith bod y Cyngor eisoes yn gweithredu’r gwelliannau a awgrymwyd yn yr adolygiad cenedlaethol. Gofynnwyd pa feysydd oedd wedi cael eu hadnabod ar gyfer y Cyngor fel y rhai yr oedd angen eu gwella a sut yr oedd y Cyngor yn ymdrin â’r rhain. Eglurodd swyddogion nad oeddent yn feysydd mawr i’w gwella a bod cynllun gweithredu wedi cael ei ddatblygu i fynd i’r afael â hwy. Cytunwyd y byddai’r cynllun gweithredu’n cael ei gylchredeg i’r Pwyllgor er gwybodaeth.

 

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd y Gwasanaeth wedi paratoi ar gyfer pwysau cynyddol dros gyfnod y gaeaf, er enghraifft sicrhau bod lefelau staffio digonol. Cadarnhawyd fod paratoadau wedi cael eu gwneud gyda chodiadau yn y cyllid ar gyfer gofal canolradd a bod cyfraddau blocio gwelyau wedi cael eu lleihau’n sylweddol. Hefyd, roedd y Gwasanaeth yn ystyried comisiynu gwelyau ychwanegol ar gyfer achosion camu i lawr a chamu i fyny. O ran staff ychwanegol eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig a’r Swyddog Contractau fod recriwtio’n her ar lefel genedlaethol a bod cadw staff bron â bod yn fwy o bryder. Roedd y Gwasanaeth yn cydweithio’n agos gyda phartneriaid ar strategaethau i ddatblygu llwybrau gyrfa fel cynllun hirdymor. Roeddent yn gweithio gyda cholegau ac ysgolion i hyrwyddo’r sector gofal fel gyrfa a nodwyd fod Prifysgol Abertawe yn ystyried rhedeg diploma mewn gofal iechyd. Roedd y Pwyllgor yn cefnogi mentrau i gadw staff gofal gan fod parhad yn bwysig i bobl sy’n cael gofal.

 

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd gwelliannau wedi cael eu gwneud i gynorthwyo gofalwyr yn ei rolau. Eglurwyd fod mwy o hyblygrwydd bellach a bod gwelliannau wedi cael eu gwneud i waith amser a thasgau fel nad oedd staff wedi’u cyfyngu i amser a bod gan y defnyddiwr gwasanaethau fwy o reolaeth dros y math o gymorth y mae’n ei gael. Roedd amser teithio wedi cael ei ystyried hefyd. Nodwyd fod newid sylweddol wedi bod ac y byddai’n cymryd amser i ymwreiddio.

 

Gofynnwyd beth oedd ystyr y frawddeg “hold the ring across social Services, procurement and Finance departmants”. Eglurodd y Pennaeth Gofal Integredig ei fod yn golygu arwain y gwasanaethau hynny a gofynnwyd am newid y geiriad fel ei fod yn fwy dealladwy.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL derbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: