Agenda item

GWASANAETHAU POBL HYN - GOFAL YCHWANEGOL

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr K. Madge, E. Morgan a J. Williams oll wedi datgan buddiannau yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad ar Ofal Ychwanegol gan y Gwasanaethau Pobl H?n, a oedd yn rhoi diweddariad ar y ddarpariaeth yn y Sir. Roedd pedwar cynllun yn y Sir ar hyn o bryd: Cartref Cynnes (Tref Ioan), T? Dyffryn (Rhydaman), Plas Y Môr (Porth Tywyn) a Chwm Aur (Llanybydder). Nodwyd mai mantais Gofal Ychwanegol oedd ei fod yn rhoi “cartref am oes” gan alluogi pobl h?n i barhau i fyw’n annibynnol ac atal yr angen i symud i fathau eraill o ofal pe bai asesiad yn dangos bod eu hanghenion wedi newid yn y dyfodol. Amlygwyd fod Cynlluniau Gofal Ychwanegol yn rhoi opsiwn arall i bobl a’u bod yn profi’n ddewis poblogaidd. Mae’r cynlluniau’n darparu cymunedau ffyniannus gan fod cymysgedd o bobl sy’n byw yn y lleoliadau. Nodwyd fod y cyfraddau meddiannaeth yn uchel ar gyfer tri o’r cynlluniau; fodd bynnag, yng Nghwm Aur yn Llanybydder cafwyd mwy o anhawster llenwi’r fflatiau.

 

Fe amlygodd y Pwyllgor mai 50 a throsodd oedd yr oedran ar gyfer cael mynediad at y cynllun a gofynnodd a oedd yr oedran hwn yn rhy ifanc. Eglurodd swyddogion fod y preswylwyr a oedd yn dewis yr opsiwn hwn yn yr ystod oedran honno’n tueddu i fod ag anableddau ac nad oeddent yn dymuno atal y gr?p yma rhag cael mynediad at y cynlluniau.

 

Roedd y Pwyllgor yn cymeradwyo’r cynllun a’r manteision cadarnhaol a oedd yn deillio ohono. Nodwyd nad oedd cynllun yn ardal Llanelli, sef yr ardal fwyaf yn y Sir. Nodwyd fod cynigion ar gyfer cynllun yn yr ardal; fodd bynnag, roedd wedi cymryd peth amser i’w ddatblygu a gofynnwyd am fwy o fanylion. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig ei fod yn rhan o’r rhaglen ARCH ac y byddai trafodaethau cynnar yn digwydd gyda rhanddeiliaid lleol ynghylch datblygu cynllun yn Llanelli. Awgrymwyd fod y Rheolwr Rhaglen ar gyfer Prosiect ARCH yn cyflwyno gwybodaeth, gan gynnwys graddfeydd amser, i gyfarfod y Pwyllgor hwn ym mis Ionawr fel rhan o’r diweddariad ar y rhaglen ARCH. Amlygwyd fod y £7m a oedd wedi’i ddyrannu i’r Cynllun yn dal i fod wedi’i ddyrannu i’r prosiect.

 

Mynegodd y Pwyllgor bryderon ynghylch un o’r enwau a oedd yn cael eu hawgrymu, y niwrobentref, ar gyfer y cynllun yn ardal Llanelli. Cawsant eu sicrhau nad oedd yr enw’n opsiwn mwyach. Mynegwyd pryder hefyd fod safle Llynnoedd Delta a oedd yn cael ei awgrymu ar gyfer y cynllun hwn yn rhy ynysig. Nodwyd y byddai rhagor o wybodaeth ynghylch y safle arfaethedig a sut y byddai’n cael ei ddatblygu’n cael ei chynnwys yn y cyflwyniad yng nghyfarfod mis Ionawr.

 

Amlygwyd fod cynigion wedi bod am bwll hydrotherapi yn Llanelli a gofynnwyd pa gynnydd oedd wedi cael ei wneud gyda hyn. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod hwn yn dal yn opsiwn a bod trafodaethau cynnar wedi bod ynghylch y lleoliad gorau.

 

Gofynnodd y Pwyllgor beth oedd y gweithdrefnau ar gyfer rhestrau aros a chyfraddau trosiant y tenantiaethau ar gyfer cynllun Cartref Cynnes. Cytunwyd y byddai’r wybodaeth hon yn cael ei choladu a’i chylchredeg i’r Pwyllgor. Nodwyd fod rhai fflatiau’n cael eu cadw ar gyfer y Bwrdd Iechyd, a fyddai’n cael effaith ar gyfraddau tenantiaethau. Gofynnwyd a fu unrhyw adroddiadau am y to’n gollwng yn y lleoliad hwn a rhoddodd swyddogion wybod iddynt nad oeddent yn ymwybodol o unrhyw adroddiadau ac y byddent yn gwneud ychydig o ymholiadau. Amlygwyd mai cyfrifoldeb y Gymdeithas Dai oedd yr adeilad.

 

Nodwyd fod cynllun T? Dyffryn yn Rhydaman wedi cael ei agor gan Weinidog Cymru ac roedd cytundeb y byddai’r Gweinidog yn cael ei wahodd yn ôl i weld cynnydd y cynllun a gofynnwyd a oedd unrhyw beth pellach wedi cael ei wneud mewn perthynas â hyn. Eglurodd swyddogion eu bod yn disgwyl i’r Gymdeithas Dai drefnu’r ymweliad hwn ac y byddent yn cysylltu â hwy yngl?n â hyn ac yn rhoi’r diweddaraf i’r Pwyllgor. Roedd y Pwyllgor yn cytuno yr hoffent hwythau ymweld â’r cynllun hwn.

 

Gofynnodd y Pwyllgor beth oedd y gweithdrefnau ar gyfer cyplau yr oedd fflat â dwy ystafell wely wedi cael ei dyrannu iddynt pan fyddai un ohonynt yn marw, er enghraifft a fyddent yn gallu cadw eu fflat bresennol ynteu a fyddai fflat ag un ystafell wely’n cael ei dyrannu iddynt. Eglurwyd mai’r landlord fyddai’n penderfynu ac y byddai ganddynt hawliau tenantiaeth. Cytunwyd y byddai’r cwestiwn hwn yn cael ei gyfeirio at y Pennaeth Diogelu’r Cyhoedd a Thai er mwyn cael ateb cyflawn. Awgrymodd Aelodau os oedd addasiadau wedi cael eu gwneud i fflat ac nad oedd ei hangen mwyach yna y gellid ystyried cynnwys cymalau yn y contractau i fynd i’r afael â hyn.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am adroddiad manylach am gynllun Cwm Aur mewn cyfarfod yn y dyfodol. Eglurodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd fod trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda Gr?p Pobl ynghylch yr heriau sylweddol o ran gwella cyfraddau meddiannaeth. Roedd opsiynau eraill yn cael eu hystyried a phe baent yn ddichonadwy yna byddai angen cyflwyno ceisiadau i Lywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau gan fod y cyllid wedi cael ei ddyrannu at ddiben penodol. Amlygodd yr Aelod lleol yr hoffai chwarae mwy o ran mewn trafodaethau gyda’r darparwr i gael gwybod mwy am weithgareddau cymdeithasol i annog pobl i symud i mewn ac roedd y Pwyllgor yn cytuno bod peidio â chynnwys Aelodau lleol yn golygu bod cyfle’n cael ei golli. Dywedodd y Rheolwr Diogelu a Chomisiynu y byddai’n canfod a oedd yn bosibl i’r Aelod lleol gwrdd â Rheolwr Datblygu Busnes Gr?p Pobl.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad o’r bwriad allweddol i “ganiatáu i ofalwyr gael egwyl o’u cyfrifoldebau gofalu” ac eglurwyd y casglwyd o’r fanyleb gomisiynu fod symud i gynlluniau Gofal Ychwanegol yn tynnu’r pwysau oddi ar y gymuned i ddiwallu anghenion. Hefyd, mewn cyfnodau o afiechyd gellir diwallu anghenion ychwanegol yn rhwyddach.

 

Nodwyd fod y graffiau’n anodd i’w darllen ar ffurf copi caled a byddai swyddogion yn cymryd sylw o hyn ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol.

 

Penderfynwyd:

 

7.1       derbyn yr adroddiad;

7.2       y dylai adroddiad ar y prosiect ARCH, gan gynnwys diweddariad ar y cynllun Gofal Ychwanegol yn Llanelli, gael ei gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhelir ar 25 Ionawr 2017.

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau