Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD JEFF EDMUNDS I CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“Ar 1 Medi cynhaliwyd digwyddiad yn Neuadd y Dref, Llanelli, i groesawu teulu i Sir Gaerfyrddin. Roedd nifer o westeion yn bresennol, gan gynnwys aelodau o’r bwrdd gweithredol a chynrychiolydd o’r heddlu (Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu). Pam na roddwyd gwahoddiad i Gadeirydd ein Cyngor fod yn bresennol, gan mai rôl y Cadeirydd yw cynrychioli ein Cyngor mewn digwyddiad o’r fath?”

 

Cofnodion:

“Ar 1 Medi cynhaliwyd digwyddiad yn Neuadd y Dref, Llanelli, i groesawu teulu i Sir Gaerfyrddin. Roedd nifer o westeion yn bresennol, gan gynnwys aelodau o’r bwrdd gweithredol a chynrychiolydd o’r heddlu (Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu). Pam na roddwyd gwahoddiad i Gadeirydd ein Cyngor fod yn bresennol, gan mai rôl y Cadeirydd yw cynrychioli ein Cyngor mewn digwyddiad o’r fath?”.

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:

 

Rôl y Cadeirydd yw cynrychioli’r Cyngor hwn mewn achlysuron a digwyddiadau dinesig. Pan gyflwynais y Cynnig ar Rybudd i’r Cyngor haf diwethaf ynghylch croesawu ffoaduriaid o Syria, gofynnais inni fynd y tu hwnt i hynny. Mae’r broses honno wedi cael ei rhoi ar waith gan dasglu, sy’n cael ei gadeirio gan y Cynghorydd Pam Palmer. Mae wedi bod yn broses faith ac rwyf wedi dweud yn y cyfryngau ac ar y newyddion cenedlaethol bod y broses honno’n hanfodol i sicrhau bod popeth yn ei le ac y byddai’n gweithio’n berffaith iddynt pan fyddent yn cyrraedd. Nid ar gyfer un teulu yr oedd hynny, ond ar gyfer tri theulu. Fi alwodd y cyfarfod hwnnw, nid y Cadeirydd. Te prynhawn ydoedd, a gynhaliwyd yn Neuadd y Dref Llanelli, nid yn siambr y Cadeirydd, ac nid oedd yn achlysur dinesig nac yn ddigwyddiad dinesig. Ni wahoddais unrhyw gynghorwyr; y tîm a oedd yn rhoi’r broses ar waith i sicrhau’r croeso cywir a’i fod yn gweithio ar bob lefel ac ar draws y gwasanaethau yr oedd eu hangen arnynt oedd y gwahoddedigion. Diben y cyfarfod hwnnw oedd cwrdd â hwy’n anffurfiol fel yr Arweinydd, i sicrhau eu bod yn cael croeso a hefyd i holi a oedd ganddynt unrhyw anghenion ychwanegol. Roedd Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn bresennol hefyd. Nid oedd unrhyw gamerâu yno, ac eithrio camerâu’r teuluoedd eu hunain a oedd yn dymuno tynnu lluniau gyda Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a’r tîm a oedd wedi gwneud gwaith mor wych i sicrhau bod eu cyrhaeddiad wedi bod yn saff a diogel. Nid oedd unrhyw amarch tuag at y Cadeirydd. Nid oedd yn ddigwyddiad nac yn achlysur dinesig. Digwyddiad dinod ydoedd, heb unrhyw bresenoldeb gan y wasg, heb unrhyw luniau. Roedd yn ymwneud â’u croesawu hwy a gofyn beth oedd eu hanghenion pellach.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jeff Edmunds y cwestiwn atodol canlynol:

 

“Mae fy nghwestiwn i’n ymwneud â chyfansoddiad y Cyngor ac yng ngoleuni’r ffaith bod pobl wirfoddol yn y digwyddiad hwnnw hefyd, roedd aelod o’r Cyngor, heblaw am ddau Aelod o’r Bwrdd Gweithredol a chithau a oedd hefyd yn y digwyddiad, roedd aelodau o’r cyhoedd yn y digwyddiad yn ogystal â’r teulu ac yn amlwg mae hynny i mi yn ddyletswydd o fath dinesig sut bynnag y cafodd ei gadw’n gyfrinach ond dan y cyfansoddiad rwy’n teimlo na ddilynwyd y cyfansoddiad. Mae’r cwestiwn yn ymwneud â’m dealltwriaeth i am y cyfansoddiad o ran eich rôl chi a rôl y Cadeirydd, na ddilynwyd y cyfansoddiad”.

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:

 

“Fe ddilynwyd y Cyfansoddiad yn llwyr. Nid achlysur dinesig ydoedd. Rwyf wedi ceisio egluro hynny yn fy ateb cyntaf. Nid dyna ydoedd o gwbl. Roedd wedi’i fwriadu i beidio â chodi braw ar y bobl hyn a oedd newydd gyrraedd o wersylloedd yng Ngwlad yr Iorddonen ac ar y ffin gyda Syria. Digwyddiad dinod ydoedd, a hynny’n fwriadol, a’r bobl a oedd yn rhan o'r broses o’u croesawu oedd y gwahoddedigion.