Agenda item

RHAGLEN TRAWSNEWID I WNEUD CYNNYDD (TIC) - Y NEWYDDION DIWEDDARAF

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y rhaglen ‘Trawsnewid, i Wneud Cynnydd’ (TIC). Nododd yr Aelodau fod y fenter, a sefydlwyd yn 2012, wedi cael ei lansio mewn ymateb i’r heriau ariannol sylweddol yr oedd yr Awdurdod Lleol yn eu hwynebu a, hyd yma, bod y dull TIC wedi bod o gymorth i adnabod, neu’n helpu i gyflawni, arbedion effeithlonrwydd gwerth tua £6.4m. Cafodd y Pwyllgor drosolwg hefyd o brosiectau a oedd yn gysylltiedig â gwasanaethau yn yr Adran Addysg a Phlant a oedd wedi arwain at arbedion sylweddol o ran amser ac arian, yn ogystal ag arwain at ddulliau mwy effeithlon o weithio. Y prosiectau oedd:

 

·         Archebion bwyd ar gyfer ceginau ysgolion

·         Datganiadau dalenni amser timau arlwyo mewn ysgolion

·         Arian mân

·         Gwasanaeth prydau ysgol am ddim

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried y diweddariad: 

 

Cyfeiriwyd at y gwahanol bwyntiau cyswllt o fewn y broses archebion bwyd ar gyfer ceginau ysgolion (e.e. cyflenwr, yr Adran Addysg a’r Gwasanaethau Ariannol) a gofynnwyd a ellid rhesymoli hyn ymhellach fel mai un pwynt cyswllt oedd. Nododd y Rheolwr Datblygu Strategol fod gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i’r prosiect penodol hwn, yn enwedig o safbwynt y cyflenwr. Fel cam a ddeilliodd o’r prosiect hwn, roedd yr Adran wedi adnabod prosesau eraill lle’r oedd nifer y pwyntiau cyswllt wedi cael ei herio a’i leihau’n sylweddol. Mewn un maes gwaith penodol, mae’r tîm hwn wedi cael ei dynnu allan o’r broses yn gyfan gwbl, gan ei gwneud yn bosibl cyflawni arbedion y gellir eu troi’n arian parod.

 

Mewn ymateb i ymholiad a oedd yn gofyn a oedd ysgolion eu hunain wedi cyflawni arbedion o’r prosiect mewn perthynas ag archebion bwyd, nododd y Rheolwr Datblygu Strategol mai prosesau a oedd yn gysylltiedig â gwaith yr Awdurdod Lleol oedd y rhain ond bod potensial sylweddol i ysgolion gael budd o gymhwyso’r fethodoleg TIC i’w gweithgareddau. Dyma oedd y prif reswm y byddai’r Adran yn datblygu achos busnes ar y cyd â’r Tîm TIC i gyflogi swyddog a fyddai wedi’i neilltuo i weithio gydag ysgolion ar brosiectau effeithlonrwydd. 

 

Gofynnwyd a oedd yr arbedion a oedd wedi’u cyflawni hyd yma’n ddigon da ynteu a oedd yr Awdurdod yn anelu’n uwch ac yn gweithio’n ddigon masnachol i ddatrys materion gwastraff ac aneffeithlonrwydd, fel a fyddai’n digwydd yn y sector preifat. Rhoddodd Rheolwr y Rhaglen TIC wybod i’r Pwyllgor bod y dull ers y cychwyn wedi ymwneud â gweithio mewn partneriaeth ac ochr yn ochr â gwasanaethau yn hytrach na mynnu arbedion gan adrannau, dull a fyddai wedi bod yn rhwystr i ddatblygu perthnasoedd â gwasanaethau. Roedd Tîm y Rhaglen TIC yn ystyried bod yr arbedion a adnabuwyd yn ganlyniad cadarnhaol ac er bod arbedion effeithlonrwydd yn cael eu croesawu, dywedodd y Rheolwr wrth y Pwyllgor fod y dull hefyd wedi arwain at brosesau symlach ac effeithlon a chyfle i wasanaethau fuddsoddi i arbed (h.y. gofyn am gyllid / staff ychwanegol er mwyn cyflawni arbedion effeithlonrwydd mwy yn y tymor hwy).

 

Roedd y Pwyllgor yn croesawu’r datblygiadau a diolchodd i’r swyddogion am eu cyflwyniad. Awgrymodd y Cadeirydd hefyd y gallai’r Pwyllgor gael diweddariadau pellach ar gynnydd mewn perthynas â’r prosiectau y rhoddwyd ystyriaeth iddynt.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y diweddariad.  

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau