Agenda item

CYNLLUN BUSNES GWASANAETH CYMORTH IEUENCTID SIR GAERFYRDDIN 2016-17

Cofnodion:

Cyflwynwyd Cynllun Busnes Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin 2016-17, y cyntaf i gael ei ddatblygu yn dilyn uno Gwasanaeth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin a Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Sir Gaerfyrddin dan un strwythur rheoli ar 1 Ionawr 2016, i’r Pwyllgor er mwyn iddo’i ystyried. Roedd uno’r ddau wasanaeth yn ei gwneud yn bosibl datblygu dull mwy holistaidd o ddarparu gwasanaethau cymorth ieuenctid ledled y Sir i roi amrywiaeth gadarn o gymorth o fynediad agored i gymorth arbenigol i alluogi plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc (8-25 oed) i gyflawni eu llawn botensial o safbwynt personol, cymdeithasol ac addysgol.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ynghylch yr adroddiad:

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â darparu clybiau ieuenctid, a ble’r oeddent yn perthyn o fewn y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid ar y cyfan, hysbyswyd y Pwyllgor fod y Gwasanaeth, fel endid, wedi’i rannu’n 4 tîm gwahanol a oedd yn cynnwys Cymorth Cyffredinol, Cymorth Ieuenctid wedi’i Dargedu, Cymorth Ieuenctid wedi’i Dargedu ar gyfer Plant a Phobl Ifanc 8-18 oed a Chyfiawnder Ieuenctid. Roedd y Gwasanaeth Clybiau Ieuenctid o fewn cylch gwaith y Tîm Cymorth Cyffredinol a oedd yn gweithredu 9 clwb ieuenctid yn uniongyrchol, gan roi cymorth hefyd i Dr M’z yng Nghaerfyrddin ynghyd â thri Chlwb Urdd o fewn y Sir.

 

·         Gan nodi’r uchod, mynegwyd barn nad oedd yr adroddiad yn cyfeirio at rôl Clybiau Ffermwyr Ifanc a chlybiau gwirfoddol eraill o fewn y Sir ac na ddylid anwybyddu pwysigrwydd y rôl honno. Mynegwyd siom hefyd nad oedd gan y Cyngor swyddog pwrpasol yn gweithio gyda’r Mudiad Ffermwyr Ifanc ac yn cefnogi’r gwaith gwerthfawr a wneir ganddo, a oedd yn cynnwys gweithio gydag ysgolion i helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau a chael gwaith.

 

Roedd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg a Phlant yn croesawu’r pwyslais a oedd yn cael ei roi ar ddarparu gwasanaeth cyffredinol ynghyd â’r cyllid allanol yr oedd hynny’n ei ysgogi. Hysbysodd fod buddsoddiad y Cyngor yn y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio’r ddarpariaeth at y rhai ac arnynt fwyaf angen cymorth yn hytrach na buddsoddi mewn cymorth cyffredinol, fel a adlewyrchir yn genedlaethol. Fodd bynnag, hysbysodd fod cyllideb graidd y Cyngor i gyllido’r gwasanaeth ieuenctid sy’n 31% o’r setliad refeniw llywodraeth leol ar gyfer gwasanaethau ieuenctid yn is nag unrhyw awdurdod arall yng Nghymru, ac mai 73% oedd y cyfartaledd ar gyfer Cymru. Er gwaethaf y gwahaniaeth hwnnw, roedd y Cyngor yn dal i ddarparu lefel uchel o wasanaeth o fewn yr adnoddau sydd ar gael, a phe bai’r cyllid yn cynyddu i’r cyfartaledd cenedlaethol gellid cyflawni cryn dipyn yn fwy.

 

Hysbysodd y Prif Reolwr – Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid fod trafodaethau wedi cael eu cynnal, yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 14 Ebrill 2016 (gweler cofnod 7) lle penderfynwyd “y byddai swyddogion yn gwneud ymdrech ar y cyd i gryfhau cysylltiadau rhwng yr Awdurdod a'r rhwydwaith CFfI yn y sir”, gyda CFfI Caerfyrddin i drafod yr hyn y gallai’r awdurdod ei wneud, yn niffyg adnoddau digonol, i gryfhau’r cysylltiadau hynny. Roedd cyfarfodydd pellach yn yr arfaeth gyda’r CFfI hefyd.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch iechyd meddwl plant, cadarnhaodd y Prif Reolwr – Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid fod iechyd meddwl emosiynol plant yn hollbwysig i’w datblygiad a bod y gwasanaeth yn cydweithio’n agos gyda Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cael mynediad at wasanaethau pan fo angen. Roedd y gwasanaeth hefyd yn gweithio gydag ysgolion i dargedu pobl ifanc yr ymddengys fod angen cymorth arnynt, ac yn ceisio sicrhau bod unrhyw faterion yn cael eu hadnabod mor gynnar â phosibl i helpu pobl ifanc i gael mynediad at y gwasanaethau yr oedd eu hangen arnynt.

 

·         Cyfeiriwyd at y toriad o 1.1% i gyllid y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid ar gyfer 2016/17 a oedd yn £25,510 a gofynnwyd am wybodaeth am ei effaith, neu fel arall, ar ddarparu gwasanaethau.

 

Hysbysodd y Prif Reolwr – Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid fod y gostyngiad yn y cyllid wedi ei gwneud yn angenrheidiol cynllunio’n ofalus ac er bod y gwasanaeth yn cael cyllid o nifer o ffynonellau/gan nifer o bartneriaid allanol roedd y gostyngiad wedi golygu bod nifer o swyddi gwag heb gael eu llenwi, gan felly gyfyngu ar ei ddarpariaeth gyffredinol gyda’r adnoddau sydd ar gael yn dal i gael eu gwasgaru mor eang â phosibl.

 

Hysbysodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg a Phlant fod y Gwasanaeth Ieuenctid wedi bod trwy broses ailstrwythuro sylweddol dros y ddwy flynedd flaenorol ac mai’r prif nod oedd lleihau costau rheoli er mwyn diogelu gwasanaethau rheng-flaen gan ddwyn arbedion a oedd rhwng £250,000 a £300,000.

 

·         O ran darparu’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, cyfeiriwyd at fater troseddoldeb, a’i atal, a gofynnwyd pa lwybrau oedd ar gael i gyflawni’r amcan hwnnw.

 

Hysbysodd y Prif Reolwr – Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid fod yr holl blant a adnabyddir fel rhai sydd mewn perygl o ddechrau troseddu yn cael asesiad i ddechrau sy’n rhoi sylw i ystod eang o ffactorau gan gynnwys bywyd teuluol, addysg, hobïau/diddordebau a.y.b. Ar ôl ei gwblhau, byddai cynllun targed yn cael ei ddarparu a hwnnw wedi’i deilwra i anghenion yr unigolyn ac o bosibl yn cynnwys gweithio gydag ysgolion, darparu rhaglenni yn ystod y gwyliau a hefyd gweithio gydag asiantaethau eraill megis yr heddlu a gwasanaethau tân i roi profiadau i blant o fywyd gwaith i’w helpu i ddysgu rheoli eu bywydau.

 

Hysbysodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg a Phlant mai un o’r heriau/rhwystrau mwyaf a oedd yn wynebu’r adran o ran darparu gwasanaethau oedd cyllid. Roedd colli cyllid yr UE dros y 18 mis blaenorol wedi arwain at golli nifer o swyddi y gwnaed iawn amdano, i ryw raddau, trwy ddarparu cyllid a phenodi staff ar gyfer prosiect Cynnydd. Pwysleisiodd fod y diffyg adnoddau’n golygu bod y gwaeth a wneir gan y gwasanaeth wedi gorfod cael ei sianelu at y rhai sydd fwyaf mewn angen, a’i bod yn anodd i’r Cyngor gynyddu’r cyllid ar gyfer y gwasanaeth pan fo’r incwm yn mynd yn llai a’r galw am ddarparu gwasanaethau ar draws ystod eang o wasanaethau yn cynyddu. Er hynny, roedd gwasanaeth da’n cael ei ddarparu o fewn yr adnoddau cyfyngedig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL derbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: