Agenda item

CYNLLUN GWEITHREDU TRECHU TLODI

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru ynghylch dull yr Awdurdod o drechu tlodi a gweithgareddau'n ymwneud â hyn. Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am waith y Gr?p Ffocws trawsbleidiol, Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi'r Cyngor a Sefydlu Panel Ymgynghorol ynghylch Trechu Tlodi i gefnogi aelod y Bwrdd Gweithredol sy'n gyfrifol am yr agenda. 

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd am eglurhad o ran y dulliau a ddefnyddiwyd yn ystod yr astudiaeth tlodi gwledig ac a oedd y diffiniad 'gwledig' yn gamarweiniol oherwydd bod yr ardal yn cynnwys rhannau o drefi'r Sir. Dywedodd y Swyddog Perfformiad, Llywodraethu a Pholisi wrth y Pwyllgor fod y Tîm Polisi Corfforaethol wedi cynnal astudiaeth ac yn dilyn ymarfer bwrdd gwaith cychwynnol, anfonwyd cyfanswm o 5,000 o holiaduron i dai ledled ardal y Cynllun Datblygu Gwledig. Anfonwyd holiaduron hefyd i gynghorau tref a chymuned, busnesau ac ysgolion. Cafwyd cyfanswm o 1,099 o ymatebion. Cyflwynwyd y canfyddiadau i'r Pwyllgor Craffu - Cymunedau a byddant yn cael eu defnyddio i gyfarwyddo prosiectau yn yr ardal yn y dyfodol. Ychwanegodd y gellid cylchredeg yr adroddiad i'r Pwyllgor er gwybodaeth. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) wrth y Pwyllgor fod y diffiniad o'r ardal wledig wedi bod yr un peth ers y 12 mlynedd diwethaf, a'i fod yn cael ei ddefnyddio gan y rheini sy'n gweinyddu amrywiol ffynonellau grantiau a chyllid.

 

Cyfeiriwyd at gynorthwyo unigolion o ran hyfforddiant a gwirfoddoli a gofynnwyd sut yr oedd llwyddiant, neu beidio, y gweithgareddau hyn yn cael eu monitro. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) wrth y Pwyllgor os oedd ail raglen ar waith yn gweithio ochr yn ochr â mentrau o'r fath er mwyn helpu unigolion i ddod o hyd i gyfleoedd gwaith, roedd yn bosibl monitro llwyddiant y mentrau hynny. Fodd bynnag, y tu hwnt i hyn, roedd yn anodd iawn monitro a dilyn unigolion, yn enwedig os oeddent yn gadael y Sir yn gyfan gwbl. Roedd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi), mewn ymateb i awgrymiad arall wedi cydnabod y gellid defnyddio technoleg (e.e. e-bost, cyfryngau cymdeithasol) i fonitro unigolion a oedd wedi cael cymorth er mwyn dilyn eu cynnydd. Cytunodd y byddai'n rhannu'r awgrymiad hwn â swyddogion yn y tîm perthnasol o fewn ei his-adran.

 

Gofynnwyd faint o swyddi mewn gwirionedd a oedd wedi cael eu creu drwy fentrau o'r fath megis Cymunedau yn Gyntaf. Roedd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) wedi cydnabod nad oedd mentrau o'r fath, ar y cychwyn, wedi arwain at lawer o swyddi ond ers cyflwyno mesurau i sicrhau defnydd effeithlon ac effeithiol o gyllid, roedd hyn wedi arwain at gynnydd sylweddol yn y rheini a oedd bellach yn dod o hyd i gyflogaeth.

 

Cyfeiriwyd at nifer o gamau gweithredu o ran Gwasanaethau Plant nad oedd yn cyrraedd y targed, ac awgrymwyd nad oedd y dull ymwelydd iechyd yn gweithio, yn enwedig gan fod y rhain wedi cael eu dwyn yn fewnol o'r Trydydd Sector a'r Bwrdd Iechyd. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) wrth y Pwyllgor mai Pennaeth y Gwasanaethau Plant oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth penodol hwn, a byddai'n ceisio cael ymateb i'r Pwyllgor ynghylch y mater.

 

Yn ystod y trafodaethau nodwyd na fyddai rhai plant yn cael pryd o fwyd wedi'i goginio bob dydd yn ystod gwyliau ysgol, yn yr un modd ag yn ystod y tymor. Gofynnwyd felly a fyddai'r Awdurdod yn ystyried agor ceginau ysgolion yn ystod y gwyliau er mwyn darparu pryd o fwyd i'r rheini a oedd yn gymwys. Mewn ymateb, dywedodd aelod o'r Gr?p Ffocws ynghylch Trechu Tlodi ac Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau wrth y Pwyllgor fod hwn yn opsiwn a oedd wedi cael ei drafod, gan gyflogi o bosibl cynorthwywyr addysgu i ddarparu'r gwasanaeth. Fodd bynnag, byddai'n rhaid mynd i'r afael â materion megis cost a'r stigma sy'n gysylltiedig â chael prydau ysgol am ddim. Roedd enghreifftiau o fewn Sir lle'r oedd sefydliadau gwirfoddol eisoes yn cynnig gwasanaethau o'r fath ond nid oedd un dull cydlynol cyffredinol ar waith.   

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.  

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau