Agenda item

ASESIAD DIGONOLRWYDD CYFLEOEDD CHWARAE A'R CYNLLUN GWEITHREDU 2016

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i grynodeb o'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a'r Cynllun Gweithredu ategol. Atgoffwyd yr Aelodau fod Adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn datgan bod dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu, sicrhau a chyhoeddi gwybodaeth am gyfleoedd chwarae digonol i blant yn eu hardal. Cafodd y Pwyllgor olwg gyffredinol ar yr asesiad a'r ymgynghoriad a gynhaliwyd, gan gynnwys:

 

·         Y cefndir a'r cyd-destun lleol

·         Pam mae chwarae yn bwysig

·         Yr ymgynghoriad a gynhaliwyd

·         Canfyddiadau a themâu allweddol a oedd wedi eu hamlygu gan blant a phobl ifanc, rhieni, ysgolion a chynghorau tref/cymuned

·         MeiniPrawf Asesu a Blaenoriaethau

·         Datblygiadau cadarnhaol ers 2013

·         Heriau

·         Beth all cymunedau ei wneud?

 

Yn ogystal dywedwyd wrth y Pwyllgor fod copi drafft o'r ffurflen asesu a'r cynllun gweithredu wedi cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ar 31ain Mawrth 2016 ac y byddai dogfennau terfynol yn cael eu cyflwyno ar ôl i'r Bwrdd Gweithredol eu cymeradwyo.

 

Gwnaed y sylwadau canlynol wrth ystyried yr adroddiad a'i atodiadau:

 

Canmolwyd y swyddogion am eu gwaith ar y mater hwn ond mynegwyd pryder y gallai eu hymdrechion fod yn ofer gan fod Llywodraeth Cymru ei hun yn aml yn mynd yn groes i'w pholisïau ei hun ar lefel leol. Cyfeiriwyd at gais cynllunio diweddar yng Nghaerfyrddin i adeiladu tai ar faes chwarae glas a ddefnyddir gan blant lleol. Roedd yr Awdurdod wedi gwrthod y cais ond yn dilyn apêl gan yr ymgeisydd, roedd Arolygiaeth Gynllunio Llywodraeth Cymru ei hun wedi cymeradwyo'r cynllun ac roedd y maes chwarae hwn wedi'i golli bellach.

 

Gwnaed nifer o sylwadau ynghylch helpu clybiau chwaraeon lleol i oresgyn ffïoedd uwch ar gyfer defnyddio caeau chwarae a chyfleusterau eraill yn ogystal â'r costau sy'n gysylltiedig â darparu lleoedd chwarae newydd ar gyfer plant y sir. Cydnabu'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant rwystredigaethau'r Pwyllgor o ran y diffyg adnoddau sydd ar gael i gefnogi'r anghenion hynny a nodwyd gan yr asesiad. Awgrymodd fod ysgolion newydd a'u cyfleusterau yn lle delfrydol ar gyfer galluogi chwarae a gweithgareddau y tu allan i oriau ysgol a bod yr Awdurdod yn agored i gynnal trafodaethau â chymunedau a llywodraethwyr ysgolion ynghylch datblygu cyfleoedd o'r fath.

 

Gofynnwyd a oedd gan yr Awdurdod gynlluniau wrth gefn fel bod ganddo brosiectau 'barod i fynd' os bydd cyllid ar gael yn sydyn. Dywedodd y Rheolwr Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a Gofal Plant wrth y Pwyllgor fod gan y gwasanaeth gynlluniau a meysydd blaenoriaeth a nodwyd os bydd unrhyw gyllid ar gael yn y dyfodol.        

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a'r Cynllun Gweithredu ategol i'w hystyried gan y Bwrdd Gweithredol.

Dogfennau ategol: