Agenda item

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I GAU YSGOL BABANOD LLANGENNECH AC YSGOL IAU LLANGENNECH A SEFYDLU YSGOL GYMUNEDOL GYNRADD LLANGENNECH

Cofnodion:

Roedd Mrs E. Heyes wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ei hystyried ac yn penderfynu yn ei chylch.

 

Roedd y Cynghorydd W.G. Hopkins wedi datgan yn gynharach ei fod yn un o lywodraethwyr Corff Llywodraethu Ffederal Ysgol Llangennech a bod Swyddog Monitro yr Awdurdod Lleol wedi cadarnhau ei fod yn cael cymryd rhan a phleidleisio wrth ystyried yr eitem hon. 

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cynnig i gau Ysgol Babanod Llangennech ac Ysgol Iau Llangennech a sefydlu Ysgol Gynradd Gymunedol Llangennech yn eu lle a'r sylwadau a oedd wedi dod i law yn ystod y cyfnod ymgynghori ffurfiol, fel y nodwyd yn yr adroddiad ymgynghori a oedd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad o dan ystyriaeth.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant gefndir y cynnig a chynnwys a chynllun yr adroddiad a oedd yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor. Nododd mai bwriad yr Awdurdod, ers dechrau'r Rhaglen Moderneiddio Addysg, oedd sefydlu Ysgolion Cynradd Cymunedol yn lle ysgolion babanod ac ysgolion iau. Atgoffodd y Pwyllgor fod Cyrff Llywodraethu Ysgol Babanod Llangennech ac Ysgol Iau Llangennech wedi penderfynu ym mis Medi 2014, yn dilyn ffederasiwn 'llac', i ffedereiddio'n ffurfiol o fis Ebrill 2015 ymlaen. Roedd yr Awdurdod bellach yn dymuno bwrw ymlaen â chynnig i greu Ysgol Gynradd Gymunedol a fyddai'n cymryd lle Ysgol Babanod Llangennech ac Ysgol Iau Llangennech.  Fel rhan o'r cynnig ar gyfer yr ysgol gynradd newydd, cynigiwyd newid categorïau iaith presennol y ddwy ysgol o Ddwy Ffrwd i Gyfrwng Cymraeg er mwyn cynyddu'r ddarpariaeth o addysg Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin, sicrhau bod mwy o ddwyieithrwydd yn ardal Llangennech a chyflwyno addysg feithrin ran-amser yn yr ysgol newydd.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod ymarfer ymgynghori ffurfiol wedi dechrau ar 25ain Ionawr 2016, yn unol â chyfarwyddiadau'r Bwrdd Gweithredol. Y bwriad gwreiddiol oedd ymestyn y cyfnod ymgynghori tan 11eg Mawrth, sef y gofyniad lleiaf yn ôl y Côd Trefniadaeth Ysgolion, ond dywedodd y Cyfarwyddwr, ei fod wedi cytuno, ar gais rhai rhanddeiliaid, i ychwanegu wythnos at y cyfnod ymgynghori fel bod gan yr holl bartïon sydd â buddiant ddigon o amser i ymateb. Yn dilyn hyn daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 18fed Mawrth, 2016. Nododd y Cyfarwyddwr fod gohebiaeth helaeth wedi parhau â phobl oedd yn gwrthwynebu cynigion y Cyngor ar ôl i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben. Nid oedd yr ohebiaeth hon wedi'i chynnwys yn yr adroddiad ymgynghori gan nad oedd yn briodol gwneud hynny, a bod angen i'r holl bartïon gael yr un cyfle i fynegi barn i'r Cyngor Sir fel rhan o'r broses trefniadaeth ysgolion ffurfiol. Atgoffodd y Pwyllgor petai'r Bwrdd Gweithredol yn penderfynu camu ymlaen i gam nesaf y broses statudol, y byddai cyfle arall i'r holl bartïon sydd â buddiant gyflwyno eu sylwadau i'r Cyngor yn ffurfiol cyn penderfynu'n derfynol ar y mater. Yn ogystal dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Cyfarwyddwr, y Prif Swyddog Addysg a'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant wedi cwrdd â chynrychiolwyr o bobl o Langennech oedd yn gwrthwynebu'r cynigion, gan gynnwys rhieni a phreswylwyr lleol, yn ystod y cyfnod ymgynghori er mwyn clywed a thrafod eu pryderon. Yn ystod y trafodaethau hyn, cyflwynwyd dewisiadau eraill i swyddogion ac roedd y rhain wedi cael eu cynnwys yn yr adroddiad amgaeedig fel Dewisiadau 8 a 9 (Atodiad F). Roedd y rhain hefyd wedi cael eu gwerthuso'n gyson ochr yn ochr â'r dewisiadau eraill. 

 

Nododd y Cyfarwyddwr fod dyddiadau yn y dyfodol ar gyfer y cynnig wedi cael eu newid yn sgil yr estyniad bach i'r cyfnod ymgynghori, y cyfnod cyn yr etholiad a'r nifer fawr o ymatebion a ddaeth i law yn ystod y cyfnod ymgynghori. Os bydd y Bwrdd Gweithredol yn rhoi caniatâd i gamu ymlaen i gyhoeddi Hysbysiad Statudol, y bwriad oedd cyhoeddi'r Hysbysiad hwn yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 5 Medi 2016. Byddai hyn yn sicrhau bod digon o amser ar gael i bobl fynegi eu barn ac er mwyn sicrhau nad oedd cyfnod gwyliau'r ysgolion yn tarfu ar y broses.

 

Gwnaed y sylwadau canlynol wrth ystyried yr adroddiad a'i atodiadau:

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch camau nesaf y broses. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant wrth y Pwyllgor y byddai'r cynnig, ar ôl i'r Pwyllgor ei ystyried, yn cael ei ystyried gan y Bwrdd Gweithredol ac, yn amodol ar ei gymeradwyo, y byddai Hysbysiad Statudol yn cael ei gyhoeddi. Wedyn byddai cyfnod ymgynghori arall a fyddai'n gyfle arall i randdeiliaid gyflwyno sylwadau ar y cynnig. Anogodd yr holl bartïon sydd â buddiant i wneud hynny a dywedodd ei bod yn hynod bwysig i randdeiliaid beidio â chymryd yn ganiataol y byddai sylwadau sydd eisoes wedi'u cyflwyno yn cael eu hystyried yn awtomatig am yr eildro. Yn unol â'r Côd Trefniadaeth Ysgolion, byddai'n ymarfer ar wahân ac ni fyddai sylwadau blaenorol yn cael eu cynnwys oni bai bod rhanddeiliaid yn gofyn am hynny'n benodol. Ar ôl y cyfnod i bobl fynegi eu barn (a elwir yn gyfnod gwrthwynebu yn ffurfiol) byddai adroddiad arall yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu ac i'r Bwrdd Gweithredol. Yn dilyn hyn ac yn amodol ar argymhelliad gan y Bwrdd Gweithredol, byddai'r Cyngor Sir yn ystyried cynnig i weithredu ac yn penderfynu yn ei gylch.  

Croesawyd yr estyniad i'r cyfnod ymgynghori, yn ogystal â'r amserlen ddiwygiedig ar gyfer y cynnig i gyhoeddi hysbysiad statudol. Fodd bynnag, gan fod y mater hwn yn cyffroi teimladau cryf, gofynnwyd pwy fyddai'n penderfynu ynghylch pa ddewis fyddai'n cael ei weithredu yn y dyfodol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant wrth y Pwyllgor mai'r Bwrdd Gweithredol fyddai'n penderfynu pa un o'r dewisiadau fyddai'n cael ei weithredu fel rhan o gam nesaf y broses ond, yn y pen draw, y Cyngor Sir fyddai'n gwneud y penderfyniad terfynol.

 

Awgrymwyd bod y broses ddemocrataidd wedi cael ei dilyn ac yng ngoleuni'r wybodaeth a ddarparwyd i'r Pwyllgor cynigiwyd mai'r cam doeth a rhesymegol nesaf oedd cymeradwyo'r cynnig. Fodd bynnag, awgrymwyd hefyd oherwydd bod y cwestiynau a ofynnwyd gan gynrychiolwyr y Pwyllgor Dwy Ffrwd mor ddwys, fod angen ateb y rhain yn ystod yr eitem hon. Cytunodd y Cadeirydd a gofynnodd i'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant roi ymateb cryno i gynrychiolwyr y Pwyllgor Dwy Ffrwd a oedd yn bresennol yn y cyfarfod. Cynigiodd hefyd fod atebion llawn a chynhwysfawr i'r cwestiynau a gyflwynwyd gan y cyhoedd yn cael eu cynnwys yn adroddiad yr Adran i'r Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod ar 20fed Mehefin. Cytunodd y Pwyllgor â'r cynnig hwn. 

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant ymateb cryno i'r materion a godwyd yn y cwestiynau a gyflwynwyd gan y cyhoedd:

 

·         Y cyd-destun o ran polisi – Amlinellodd y Cyfarwyddwr y cyd-destun o ran polisi a oedd yn ffurfio ymagwedd yr Awdurdod ei hun at gyflwyno darpariaeth cyfrwng Cymraeg ledled y sir gan gynnwys amrywiaeth o bolisïau Llywodraeth Cymru yn ogystal â Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a Strategaeth Datblygu'r Gymraeg y Cyngor Sir ei hun. Roedd y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg wedi cael ei ddatblygu yn unol â gofynion Adran 85(1) o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ac yn sgil cael ei fabwysiadu gan y Cyngor Sir, roedd wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd fod yr Awdurdod Lleol, yn syml ddigon, yn rhoi polisïau ar waith fel sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr fod yr Awdurdod yn disgwyl i'r holl ysgolion barhau ar hyd continwwm y Gymraeg ac felly bod hyn yn her i'r ysgolion cyfrwng Saesneg hefyd. Roedd y Cyngor hwn yn disgwyl i'r ysgolion symud ymlaen ar hyd y continwwm ond cydnabuwyd bod yr holl ysgolion ar gamau gwahanol yn hyn o beth.

 

·         Niferoedd o'r dalgylch a'r tu hwnt iddo - Dywedodd y Cyfarwyddwr fod symud disgyblion ar draws ffiniau dalgylchoedd yn ffenomenon a welir ar draws y sir. Roedd y data cyfredol yn dangos o blith y 446 o ddisgyblion yn ysgolion Llangennech, fod 75% yn byw yn y dalgylch a bod 25% yn teithio o'r tu allan i'r dalgylch. Dywedodd fod yr Awdurdod am i bob disgybl fynychu ei ysgol leol ond bod hawl gan y rhieni i fynegi dymuniad ynghylch y mater. Cadarnhaodd nad oedd dim plant o ddalgylch Llangennech wedi cael gwrthod lle yn yr ysgol gan yr Awdurdod Lleol. Cydnabu ei bod yn wir bod 54 cais wedi cael eu cyflwyno am 30 lle yn unig yn Ysgol y Bryn ond mai dim ond 8 o'r rhain oedd ar gyfer disgyblion sy'n byw yn nalgylch Ysgol y Bryn a 7 ar gyfer disgyblion sy'n byw yn nalgylch Llangennech. Ailbwysleisiodd nad oedd yr Awdurdod Lleol yn cynnig symud unrhyw ddisgyblion o Ysgol Llangennech ac y byddai'r holl blant sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd yn parhau i gael eu haddysg yn eu ffrwd iaith bresennol.

 

·         Lleoedd gwag mewn ysgolion - Cydnabu'r Cyfarwyddwr fod lleoedd gwag yn y system ond bod hyn yn tueddu i effeithio ar ysgolion gwledig yn fwy na'r rheiny yn nhrefi'r sir. Atgoffodd y Pwyllgor fod Ysgol y Ffwrnes wedi cael ei hadeiladu er mwyn ateb yn benodol y galw cynyddol am addysg Gymraeg gyda'r bwriad y byddai'r ysgol yn llenwi dros amser. Roedd hynny'n digwydd bellach gan fod yr ysgol yn llenwi'n raddol. Roedd rhai lleoedd gwag yn Ysgol Brynsierfel ar hyn o bryd ond nid oedd y rhain yn effeithio ar y cynnig ynghylch Llangennech.  

 

·         Datblygiadau tai – Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod yr Awdurdod yn rhoi ystyriaeth i effaith datblygiadau tai posibl fel rhan o unrhyw gynigion ad-drefnu ysgolion. Roedd yr Awdurdod yn ymwybodol o gynigion codi tai ar raddfa fawr ym Mhontarddulais a'r cyffiniau ar hyn o bryd a nododd fod Dinas a Sir Abertawe yn bwriadu rhoi sylw i'r effaith ar y galw am leoedd ysgol yn yr adeiladau ysgol presennol yn y dref. Nododd y Cyfarwyddwr nad cyfrifoldeb Cyngor Sir Caerfyrddin oedd cynllunio ar gyfer y galw am leoedd ysgol sy'n codi mewn siroedd eraill.  

 

·         Gwahaniaethau o ran categoreiddio ysgolion - Ailbwysleisiodd y Cyfarwyddwr nad oedd yr Awdurdod yn cynnig bod disgyblion yn Llangennech yn cael cynnig darpariaeth arall mewn ysgolion eraill. Bwriad yr Awdurdod Lleol oedd bod yr holl ddisgyblion presennol yn aros yn yr ysgol, a bod y plant lleol yn y dyfodol o'r ardal leol yn mynychu'r ysgol ond eu bod yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

·         Darpariaeth feithrin – Cydnabu'r Cyfarwyddwr y byddai'r cynnig yn cael effaith ar rai darparwyr lleol ond bod gan yr Awdurdod gyfrifoldeb i sicrhau parhad ieithyddol o'r sector meithrin ar hyd y cyfnodau allweddol i'r sector uwchradd a bod modd cyflawni hyn drwy ddarpariaeth feithrin yn yr ysgol. Fodd bynnag, ychwanegodd y byddai angen am ddarpariaeth gofal plant o hyd ar gyfer yr holl blant dan 3 oed, yn ogystal â phlant 3 oed y tu allan i'r oriau y mae'r ysgol yn darparu addysg feithrin.

 

·         Ffigyrau ar gyfer pob ffrwd iaith - Roedd y Cyfarwyddwr yn derbyn fod angen egluro hyn a dywedodd heb ystyried y dosbarthiadau derbyn, fod 73% o'r plant yn y ffrwd Gymraeg a bod 27% yn y ffrwd Saesneg.

 

·         Digonolrwydd yr asesiadau effaith –Honnodd y Cyfarwyddwr fod yr Asesiadau o ran yr Effaith ar yr Iaith Gymraeg, ar y Gymuned ac ar Gydraddoldeb i gyd wedi cael eu cynnal yn unol â'r Côd Trefniadaeth Ysgolion statudol. Mewn perthynas â llwybrau diogel i'r ysgol, dywedodd wrth y Pwyllgor fod polisi'r Cyngor o ran cludiant o'r ysgol i'r cartref yn rhoi ystyriaeth lawn i faterion diogelwch. Os bydd rhieni'n dewis gosod eu plant mewn ysgol arall nad yw'n ysgol ddynodedig nac yn ysgol agosaf, cyfrifoldeb y rhieni neu'r gwarcheidwaid oedd sicrhau bod eu plant yn cyrraedd yr ysgol yn ddiogel. 

 

·         Anghenion Addysgol Arbennig – Dywedodd y Cyfarwyddwr mai barn yr Awdurdod Lleol oedd nad oedd addysg cyfrwng Cymraeg yn her sylweddol i'r rhan fwyaf o ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig a bod ysgolion cyfrwng Cymraeg wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth gynnig cymorth arbenigol. Fodd bynnag, cydnabu fod pob plentyn yn unigolyn ac, yn sgil asesiad, fod pecyn cymorth pwrpasol yn cael ei roi ar waith. Mewn nifer fach o achosion, gallai iaith fod yn broblem i blant â rhai cyflyrau ac os nodir bod hwn yn broblem, byddai plentyn yn cael pecyn cymorth priodol a allai olygu bod yn rhaid iddo/iddi fynychu ysgol benodol. Mewn amgylchiadau o'r fath, byddai cludiant yn cael ei ddarparu gan yr Awdurdod Lleol, fel sy'n briodol i anghenion y plentyn. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant am ei ymateb.

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor: 

 

5.1       Derbyn yr adroddiad. 

 

5.2       Cymeradwyo'r cynnig i gyhoeddi Hysbysiad Statudol i'w ystyried gan y Bwrdd Gweithredol.

 

5.3    Bod y cwestiynau a gyflwynwyd gan aelodau o'r Pwyllgor Dwy Ffrwd yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad i'r Bwrdd Gweithredol a bod atebion manwl yn cael eu darparu i'r cwestiynau hyn fel rhan o'r adroddiad hwn. 

 

Dogfennau ategol: