Agenda item

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL YNGHYLCH EFFEITHIOLRWYDD Y GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL YN SIR GAERFYRDDIN YN 2015/16

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant sef bod ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

 

Roedd y Cynghorydd E. Morgan wedi datgan buddiant sef bod ei ferch yn nyrs staff yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl.

 

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol ei adroddiad blynyddol ynghylch effeithiolrwydd y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn y sir. Bu'r Aelodau yn ystyried yr adroddiad a roddai drosolwg o'r cynnydd a wnaed yn y meysydd a nodwyd ar gyfer gwella yn adroddiad y llynedd a thynnu sylw at y meysydd hynny sydd i'w datblygu yn y flwyddyn gyfredol. Hefyd nododd yr Aelodau fod rheidrwydd statudol ar Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i roi adroddiad i'r Cyngor yn flynyddol ar y ddarpariaeth, y perfformiad a'r risgiau yn ogystal â'r cynlluniau i wella holl ystod y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Nododd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol ei fod o'r farn bod cyflwyno'r adroddiad hwn i Aelodau'r Pwyllgorau Craffu yn rhan bwysig o ddatblygu'r ddogfen derfynol. Atgoffodd y ddau Bwyllgor fod y fersiwn drafft hwn yn gyfle iddynt hwy ystyried y cynnwys ac yn gyfle iddo ef, fel Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, ystyried unrhyw sylwadau sydd gan aelodau etholedig.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd a oedd unrhyw astudiaethau wedi cael eu cynnal ynghylch effaith symudiadau poblogaeth ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol (e.e. preswylydd sir arall sy'n derbyn gofal mewn ysbyty yn Sir Gaerfyrddin neu i'r gwrthwyneb). Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol wrth yr Aelodau er nad oedd achosion o'r fath yn cael eu cofnodi yn ystadegau'r Awdurdod, eu bod yn cael effaith o ran rhoi pwysau ychwanegol ar y system gofal. Fodd bynnag, ychwanegodd nad oedd dim tueddiadau newydd neu sylweddol wedi dod i'r amlwg o'r proffil poblogaeth a data'r cyfrifiad a oedd wedi eu defnyddio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Fodd bynnag, roedd swyddogion wedi gwneud peth gwaith mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal o ardaloedd awdurdodau lleol eraill sy'n cael eu symud i Sir Gaerfyrddin, oherwydd y pwysau y mae symudiadau o'r fath yn eu rhoi ar wasanaethau'r Awdurdod ac yn benodol ar ysgolion y Sir. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant wrth yr Aelodau fod y niferoedd yn gyfnewidiol a bod y ffigyrau hyn yn cael eu monitro'n rheolaidd gan swyddogion o'r Awdurdod ochr yn ochr â chydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda. Cydnabu fod nifer fawr o blant sy'n derbyn gofal yn byw yn y Sir ond bod yr adroddiad yn tynnu sylw at y gwaith da sy'n cael ei wneud yn y maes cymhleth a heriol hwn.

 

Holwyd ai oherwydd ansawdd y gwasanaethau a ddarperir gan yr Awdurdod y mae llawer o blant yn symud i'r sir. Nododd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol mai dim ond ychydig o dystiolaeth sydd ar gael i awgrymu bod teuluoedd yn symud yn nes at ysgolion â gwasanaethau/canolfannau da o ran anableddau ond nad oedd dim tystiolaeth bod llawer o blant yn symud i ddalgylchoedd penodol.

 

Cyfeiriwyd at amserau teithio staff mewn ardaloedd gwledig a gofynnwyd a oedd hyn bellach yn cael eu hystyried o ran eu horiau gwaith a'u cyflogau. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol wrth yr Aelodau fod gweithwyr gofal cartref yn cael eu talu am nifer yr oriau sy'n cael eu gweithio a bod hyn yn cynnwys amser teithio. Bu problem o ran y trefniant blaenorol ond roedd hyn wedi cael sylw bellach fel rhan o'r gwasanaeth ailgomisiynu newydd. Dywedodd fod yr Awdurdod wedi cael trafferth cwblhau pecynnau gofal mewn ardaloedd mwy gwledig drwy'r sector annibynnol ac oherwydd hynny roedd gwasanaeth gofal cartref yr Awdurdod wedi cael ei gadw i gyflenwi yn achos trefniadau na ellid eu darparu gan y sector annibynnol neu breifat.

 

Croesawyd gwaith blaenweithgar yr Awdurdod ar y cyd â'r Bwrdd Iechyd i reoli'r gyllideb a gofynnwyd a fu unrhyw gostau ychwanegol yn sgil cyflwyno'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Hefyd gofynnwyd a oedd y gaeafau mwy mwyn diweddar wedi helpu i leddfu'r pwysau ariannol ar y gwasanaethau. Nododd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod y gwasanaethau'n wynebu'r un pwysau di-baid drwy gydol y flwyddyn a bod pwysau'r gaeaf yn gamdybiaeth. Atgoffodd yr Aelodau fod cyllideb eleni unwaith eto wedi cael ei lleihau a bod hyn yn ychwanegu at y broblem o ran darparu a chynnal amrywiol wasanaethau. Nododd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant fod meysydd lle mae gwasgfa a chyfeiriodd at y cynllun 'Pan Fydda i'n Barod' oedd wedi'i gyflwyno fel rhan o'r Ddeddf newydd.  Roedd hyn yn golygu bod hawl statudol i blant mewn gofal aros gyda gofalwyr maeth y tu hwnt i 19 oed, yn amodol ar fodloni meini prawf penodol megis aros mewn rhyw fath o addysg amser llawn ac ati.

 

Bu'r Aelodau yn croesawu'r adroddiad cynhwysfawr a ddangosai'r llwyddiannau ar draws y gwasanaethau yn ogystal â'r heriau a'r blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol. Gofynnwyd bod gwerthfawrogiad y ddau bwyllgor yn cael ei roi i'r swyddogion yn yr adrannau perthnasol am eu gwaith caled. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad i'r Bwrdd Gweithredol.

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau