Agenda item

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO.

Cofnodion:

Cais cynllunio DNS/00422 - DNS (Datblygu Cenedlaethol ei arwyddocâd ) - Parc Solar Arfaethedig (DNS/3213164) ar dir yn Penderi, Fferm Blaenhiraeth, Llangennech, Llanelli, SA14 8PX

 

(Noder:

1.      Dywedodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd G.B. Thomas wedi  gadael y cyfarfod yn ystod yr egwyl ac na fyddai'n cymryd rhan yn y drafodaeth, a hynny wedi iddo ddatgan diddordeb yn y cais hwn yn gynharach

  1. Am 1pm tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol 9 o Weithdrefn y Cyngor – Hyd y cyfarfod – ac, oherwydd bod y cyfarfod eisoes wedi bod yn mynd rhagddo ers tair awr, penderfynwyd gohirio atal y rheolau sefydlog, yn unol â RHGC 23.1, er mwyn galluogi'r Pwyllgor i gwblhau'r gwaith a oedd yn weddill ar yr agenda.]

 

Hysbyswyd y Pwyllgor, yn dilyn cyflwyno dau Ddatblygiad Cenedlaethol ei Arwyddocâd (DNS) i Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy megis ynni'r haul yn Sir Gaerfyrddin yn Llangennech a ger T?-croes, ei bod yn ofynnol i'r Cyngor, fel ymgynghorydd, greu Adroddiad Effaith Leol (LIR) yn tynnu sylw at effeithiau lleol posibl y byddai angen i Lywodraeth Cymru eu hasesu wrth iddi ystyried y ceisiadau. Er y byddai'r Adroddiad Effaith Leol yn cael ei gwblhau gan y Pennaeth Cynllunio, yr oedd angen awdurdod dirprwyedig ar ei gyfer, hysbyswyd y Pwyllgor y gallai wneud ei sylwadau ei hun i Lywodraeth Cymru. Gellid nodi'r rheini yng nghofnodion y cyfarfod a'u cadarnhau yn y cyfarfod ar 8 Hydref 2020 cyn eu cyflwyno i'r Llywodraeth ar 9 Hydref.

 

Nodwyd bod y cais presennol yn ymwneud â safle Llangennech yn unig ac y byddai adroddiad ar gais T?-croes yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Ar hynny, derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a chyflwyniad sleidiau, gan gynnwys lluniau drôn o'r tri lleoliad y manylir arnynt yn y cais, cyfeirnod  DNS/00422 lle cafwyd y sylwadau canlynol.

·       Cyfeiriodd y Pwyllgor at fater o ran budd posibl i'r gymuned a allai gronni i'r tri chyngor cymunedol lleol o'r datblygiad ac at y cytundeb heb ragfarn oedd ar waith i drafod y buddion hynny. Er nad oedd derbyn mater o ran budd i'r gymuned yn ystyriaeth gynllunio berthnasol y gallai roi sylw iddi, cafwyd sylwadau y dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau'r budd mwyaf i'r cymunedau hynny.

·       Cyfeiriwyd at y deunyddiau a’r arferion adeiladu y byddai'n cael eu defnyddio wrth adeiladu'r parc paneli haul ac at ba fesurau fyddai'n cael eu rhoi ar waith i sicrhau ei fod yn cael ei ddadtgomisiynu'n ddiogel ar ôl 35 mlynedd. Er enghraifft, a fyddai hynny'n cynnwys gofyniad am daliad bond i sicrhau bod digon o arian ar gael i gyflawni'r gwaith pe bai'r datblygwr yn peidio â gweithredu yn ystod oes y datblygiad.

 

Dywedodd y Swyddog Rheoli Datblygu y byddai'r ddarpariaeth ar gyfer cynllun dad-gomisiynu, ynghyd ag unrhyw ofyniad bond, yn cael ei ystyried gan yr arolygydd cynllunio ac y gellid gosod amodau ar ei gyfer fel rhan o unrhyw ganiatâd cynllunio.

·       Cyfeiriwyd at y deunyddiau a ddefnyddiwyd i weithgynhyrchu’r paneli haul, a oedd yn cynnwys defnyddio asidau, a mynegwyd barn y dylai cynlluniau ar gyfer eu datgomisiynu roi sylw i’r deunyddiau hynny er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu symud a’u trin yn ddiogel i atal unrhyw ollyngiadau a halogiad pridd wedi hynny. Roedd hyn yn bwysig iawn mewn perthynas â darpariaethau Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol i amddiffyn y tir ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai'r arolygydd cynllunio yn ystyried creu cynllun datgomisiynu diwedd oes a, pe bai angen, y byddai'n cynnwys amodau priodol a allai gynnwys symud/trin y paneli yn ddiogel er mwyn osgoi unrhyw halogiad posibl o ran pridd.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ar s?n cefndir o'r datblygiad, dywedwyd wrth y pwyllgor fod asesiad s?n wedi'i gyflwyno gyda'r cais a oedd yn nodi dwy ffynhonnell s?n posibl. Roedd y cyntaf yn ymwneud â ‘s?n suo’ a oedd yn dod o'r trawsnewidwyr trydanol. Roedd yr ail yn ymwneud â d?r glaw yn cwympo ar y paneli. Byddai'r arolygydd cynllunio yn ystyried y ddau achos.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ar unrhyw faes electromagnetig posibl yn sgil y datblygiad yn effeithio ar eiddo cyfagos, dywedwyd nad oedd yn broblem gyda datblygiadau tebyg o'r blaen.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

4.1

Nodi'r adroddiad gwybodaeth ar gais DNS/00422

4.2

Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Pennaeth Cynllunio gyflwyno Adroddiad Effaith Leol i Lywodraeth Cymru

4.3

Bod y Pwyllgor yn cyflwyno'r sylwadau canlynol i Lywodraeth Cymru

 

1.     Dylai unrhyw gymeradwyaeth i gais cynllunio DNS / 00422 gynnwys amod ar gyfer darparu cynllun datgomisiynu manwl a fydd yn ymgorffori: -

-          Y gofyniad i dalu bond i sicrhau bod digon o arian ar gael i gyflawni'r gwaith datgomisiynu ar ôl 35 mlynedd pe bai'r datblygwr yn rhoi'r gorau i fasnachu

-          Tynnu/trin/gwaredu'r paneli haul yn ddiogel i atal unrhyw ollyngiadau a halogiad pridd wedi hynny i amddiffyn y tir ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

2.     Dylid ystyried y mater o ran talu budd i'r gymuned i'r tair ardal cyngor cymunedol lleol y mae'r datblygiad arfaethedig yn effeithio arnynt."

 

 

 

Dogfennau ategol: