Agenda item

CANLYNIADAU CATEGOREIDDIO CENEDLAETHOL YSGOLION SIR GAERFYRDDIN 2016

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Cryno am Gategoreiddio Ysgolion ar gyfer Ysgolion Sir Gaerfyrddin yn 2016. Roedd yr wybodaeth a amlinellwyd yn yr adroddiad yn tynnu sylw at sefyllfa ysgolion y sir ar hyn o bryd, yn ogystal â meysydd i'w gwella. Ar y cyfan, nododd y Pwyllgor fod cyfran yr ysgolion yn y categori Gwyrdd neu Felyn ar draws Sir Gaerfyrddin 8% yn uwch o gymharu â 2014/15, a bod mwy na thri chwarter (77%) yr ysgolion yn y categori Gwyrdd neu Felyn bellach. Roedd cyfran yr ysgolion Gwyrdd yn Sir Gaerfyrddin wedi cynyddu 2% o gymharu â 2014/15, ac roedd 26 (23%) o'r ysgolion wedi'u categoreiddio'n rhai Ambr, ond nid oedd yr un ysgol wedi'i chategoreiddio'n Goch. Dywedodd y Pwyllgor mai'r gwelliant mwyaf yn 2015/16 oedd nifer yr ysgolion a oedd wedi symud o'r categori Ambr i'r categori Melyn.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch hunanwerthusiad yr ysgolion eu hunain, bu i'r Prif Swyddog Addysg gydnabod bod ysgolion yn gwella i'r perwyl hwn, ac, yn dilyn cyfarwyddeb newydd gan Gynulliad Cymru, roedd seminar wedi'i chynnal gyda'r Penaethiaid er mwyn rhannu a thrafod arfer gorau. Roedd swyddogion yn falch o weld bod mwy o gysondeb rhwng ysgolion a bod penaethiaid yn cyfathrebu â'i gilydd ar y mater hwn. Hefyd dywedodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion wrth y Pwyllgor fod seminar ar gyfer llywodraethwyr ysgolion wedi'i threfnu ar gyfer 15 Mawrth 2016, a fyddai'n rhoi pwyslais penodol ar greu a gweithredu hunanasesiad effeithiol. 

 

Mynegwyd pryder nad oedd llywodraethwyr, yn gyffredinol, yn ymwybodol o'r broses gategoreiddio a sut yr oedd yn gweithio. Gofynnwyd a ddylai fod gan lywodraethwyr penodol gyfrifoldeb am gategoreiddio’r ysgolion, a dywedwyd y dylai pob llywodraethwr gael cyfle i drafod hyn yn rheolaidd.  Bu i'r Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion gydnabod y sylwadau, a dywedodd wrth y Pwyllgor fod llawer iawn o waith yn cael ei wneud gan ei bod yn ofynnol, yn ôl yr agenda genedlaethol, i lywodraethwyr gael rhagor o hyfforddiant. Ychwanegodd y dylai penaethiaid, bob tymor, fod yn cyflwyno gwybodaeth i'r llywodraethwyr am y broses gategoreiddio a'r camau gwahanol a gymerwyd i bennu gwahanol gategorïau i ysgolion, yn ogystal â rhoi gwybod iddynt am yr ymweliadau gan swyddogion ERW bob tymor. Awgrymodd y dylai categoreiddio fod yn eitem reolaidd ar agendâu cyfarfodydd llywodraethwyr.

 

Cyfeiriwyd at ddefnyddio penaethiaid profiadol fel 'ymgynghorwyr her' a gofynnwyd a oedd y broses hon yn gynaliadwy mewn amodau ariannol o'r fath, yn enwedig gan fod y dull hwn yn rhoi baich ychwanegol ar yr 'ysgol a oedd yn anfon' ac ar lwyth gwaith y pennaeth. Rhoddodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion sicrwydd i'r Pwyllgor y byddai angen 'tîm craidd' ar ERW o hyd, ac mai cael cydbwysedd oedd y nod. Roedd defnyddio penaethiaid profiadol yn sicrhau bod arfer da yn cael ei rannu, ac roedd hynny o fudd i'r ymgynghorydd her yn ogystal â'r ysgol yr oedd yn ymweld â hi. Dywedodd y Pwyllgor fod yr Awdurdod wrthi'n adolygu'r gwasanaeth effeithiolrwydd ysgolion, ac mai'r gobaith oedd y byddai'n defnyddio llai o benaethiaid yn y dyfodol. Rhoddodd sicrwydd i'r Pwyllgor fod corff llywodraethu unrhyw 'ysgol a oedd yn anfon' yn cael gwybodaeth lawn am weithgareddau ei Bennaeth, a phetai unrhyw broblemau'n cael eu dwyn at sylw'r swyddogion, fod camau'n cael eu cymryd yn syth i'w datrys. Dywedodd y Prif Swyddog Addysg fod y trefniant hwn hefyd yn rhoi cyfle i'r dirprwy benaethiaid ddatblygu eu sgiliau pan oedd y pennaeth i ffwrdd.

 

Bu i aelodau unigol o'r Pwyllgor gydnabod y cymorth a roddwyd gan y Gwasanaeth Gwella Ysgolion ac ERW yn eu hysgolion. Roeddent o’r farn bod y cymorth wedi bod yn rhagorol, yn anymwthiol, ac yn ddefnyddiol i bawb dan sylw; yn staff ac yn llywodraethwyr fel ei gilydd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i dderbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau