Agenda item

MATERION PERSONOL / CYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD YMADAWOL

Cofnodion:

·                Talodd y Cadeirydd deyrnged i Mr David Tom Davies OBE, MM yn dilyn ei farwolaeth. Bu Mr Davies yn Gadeirydd yr hen Gyngor Sir Dyfed o 1981-82 ac ef oedd y Cadeirydd pan sefydlwyd y Cyngor Sir Caerfyrddin presennol o 1995-97 a bu'n gweithio'n ddiflino dros y sir a'r gymuned leol yn Nryslwyn a'r cyffiniau. Roedd yn un o'r sylfaenwyr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a chwaraeodd ran fawr wrth sefydlu Gerddi Aberglasne ac yn haeddiannol iawn felly, yn 2018 ar achlysur dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed, derbyniodd Ryddid Anrhydeddus Sir Gaerfyrddin.

 

Bu Mr Davies hefyd yn gwasanaethu yn ystod yr Ail Ryfel Byd fel aelod o'r Magnelwyr Brenhinol a threuliodd dair blynedd fel carcharor rhyfel. Yn 2016, cyhoedded ei stori mewn llyfr.

·                Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cyfnod anodd sy'n wynebu llawer ar hyn o bryd oherwydd pandemig Covid-19 gan gofio am y teuluoedd hynny yr effeithiwyd arnynt gan y feirws;

·                Mynegodd y Cadeirydd ei werthfawrogiad i holl staff y Cyngor a'r holl wasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau iechyd eraill am eu gwaith caled yn ystod y pandemig yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin yn parhau i ddarparu cynifer o wasanaethau â phosibl a helpu pobl agored i niwed yn y gymuned. Mynegodd ddiolch arbennig i'r gwirfoddolwyr di-ri a oedd wedi helpu yn ystod yr argyfwng dros y tri mis blaenorol.

·               Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i'r trigolion canlynol o fewn y Sir a oedd wedi dathlu eu pen-blwydd yn 100 oed yn ddiweddar:-

 

Ethel Wheeler - Capel Hendre

Joan Davies - Betws

Douglas Davies - Llanell

 

Bu Cadeirydd y llynedd yn edrych yn ôl ar ei flwyddyn yn y swydd a fu ychydig yn wahanol dros y tri mis diwethaf oherwydd y coronafeirws. Mynegodd ei werthfawrogiad i'r llu o bobl a oedd wedi gwirfoddoli i helpu'r rhai sy'n agored i niwed yn y gymuned yn ystod y pandemig. Cyfeiriodd hefyd at y nifer fawr o bobl yr oedd wedi eu cyfarfod yn ystod ei flwyddyn yn y swydd ac at y gwaith yr oeddent yn ei wneud ar ran eu cymunedau a chyhoeddodd bod gwobr newydd sef 'Y Gwobrau Diolch Dinesig' wedi cael ei sefydlu i gydnabod eu gwaith. Byddai enwau enillwyr y gwobrau yn 2019-20 yn cael eu cyhoeddi'r bore hwnnw, gyda'r derbynwyr yn derbyn eu gwobrau yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Mynegodd hefyd ei werthfawrogiad i'r rhai a gyfrannodd at ei elusen gan godi £3,925 ar gyfer y banciau bwyd yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli.

 

Diolchodd i'w Is-gadeirydd, y Cynghorydd Ieuan Davies a Chydymaith y Cynghorydd Davies sef, Mrs Sue Allen, am eu cymorth a'u cwmni yn ystod ei gyfnod yn y swydd a dymunodd yn dda i'r Cynghorydd Davies yn ystod ei flwyddyn yn y swydd. Diolchodd hefyd i'w Gaplan y Parchedig Caroline Jones am ei chefnogaeth ysbrydol a'i harweiniad drwy gydol y flwyddyn.

 

Mynegodd ei ddiolch i'r Prif Weithredwr am ei chyngor a'i harweiniad proffesiynol, ac i'r Cyfarwyddwyr a staff yr Awdurdod a oedd wedi cefnogi gwaith y Cadeirydd, gan gynnwys yr Uned Gwasanaethau Democrataidd, ei yrrwr Jeff Jones ac yn benodol Eira Evans am ei chefnogaeth broffesiynol a phersonol, am drefnu ei ddigwyddiadau, ac am sicrhau bod popeth yn mynd yn hwylus bob amser.

 

Cyfeiriodd hefyd at y nifer fawr o bobl a oedd wedi mynychu ei ddigwyddiadau a'r rhai a fynychodd ei hun am eu cefnogaeth ac i aelodau'r Cyngor am eu cefnogaeth.

 

Yn olaf, talodd deyrnged i'w gydymaith, Mrs. Catrin Madge, a oedd wedi bod wrth ei ochr dros y 12 mis diwethaf a diolchodd yn ffurfiol iddi am ei chefnogaeth. Credai ei fod wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint gwasanaethu fel Cadeirydd y Cyngor a diolch i bawb am roi'r cyfle iddo.