Agenda item

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG CYNNIG I GAU YSGOL LLANMILOE, YSGOL GYNRADD WIRFODDOL RHEOLEDIG TREMOILET AC YSGOL WIRFODDOL RHEOLEDIG TALACHARN A CHREU YSGOL ARDAL NEWYDD

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gynnig i gau Ysgol Gynradd Llanmilo, Ysgol Wirfoddol a Reolir Tremoilet, ac Ysgol Wirfoddol a Reolir Talacharn, a chreu ysgol ardal newydd. Pe bai'n cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol, byddai'r ymgynghoriad ffurfiol ynghylch y cynnig yn cychwyn yn ystod Tymor yr Haf 2016. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, pe bai'r Bwrdd Gweithredol yn cymeradwyo penderfyniad i ymgynghori, y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno wedyn i'r Pwyllgor Craffu – Addysg a Phlant a'r Bwrdd Gweithredol ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori statudol.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau fod cyfrifoldeb cyfreithiol ar yr Awdurdod i adolygu nifer yr ysgolion oedd ganddo mewn ardal, a’u math, ac a oedd yn llwyddo ai peidio i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau a'r cyfleusterau a oedd ar gael i ddarparu'r cyfleoedd yr oedd plant yn eu haeddu. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, roedd gostyngiad wedi bod yn nifer y disgyblion a fynychai ysgolion gwledig fel ysgolion cynradd Tremoilet, Llanmilo a Thalacharn, ac ar sail y data presennol a oedd ar gael, nid oeddid yn rhagweld y byddai newid sylweddol yn y duedd hon. Byddai gostyngiad yn niferoedd y disgyblion ar draws yr ysgolion yn creu rhagor o heriau addysgol ac ariannol, yn enwedig cynnal cymarebau disgybl/athro er mwyn darparu cwricwlwm effeithiol ar gyfer yr holl ddysgwyr. Roedd ystod o drefniadau 'ffedereiddio meddal' wedi bodoli rhwng y tair ysgol dros gyfnod o amser ac wedi galluogi ac amlygu manteision lefelau uwch o gydweithio rhwng ysgolion. Fodd bynnag, roedd y trefniadau hefyd wedi amlygu heriau a breuder modelau o'r fath, ac roedd y canfyddiadau hyn wedi atgyfnerthu'r angen am ddull mwy ffurfiol a datrysiad cynaliadwy i wasanaethu anghenion addysgol tymor hwy yn yr ardal hon.  Hefyd roedd recriwtio Penaethiaid yn her i ysgolion bach fel Llanmilo a Thremoilet.

 

Nododd yr aelodau fod yr Adran Addysg a Phlant o'r farn nad oedd y trefniadau presennol yn fodel addysgol sefydlog a chryf, nac yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau. Hefyd, gan nad oedd unrhyw argoel o welliant sylweddol yn niferoedd y disgyblion yn yr ardal hyd y gellir rhagweld yn y dyfodol, ac o gofio’r heriau parhaus a wynebai dwy o'r ysgolion i sicrhau uwch arweinyddiaeth barhaol, roedd yr Adran o’r farn na fyddai'n ddichonadwy cynnal y trefniadau presennol.

 

Hefyd nododd y Pwyllgor ei bod wedi cael ei nodi, yn dilyn adolygiad o Ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar Sir Gaerfyrddin, nad oedd ardal ddaearyddol Tremoilet/Llanmilo a Thalacharn yn gallu cynnig Hawliau Dysgwyr Blynyddoedd Cynnar y Cyfnod Sylfaen ar hyn o bryd. Fodd bynnag, pe byddai cynnig yn cael ei gymeradwyo, byddai'r ddarpariaeth hon ar gael i blant yn yr ardal hon.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Dywedodd cynrychiolydd yr Eglwys yng Nghymru ar y Pwyllgor fod yr Esgobaeth leol yn bryderus ynghylch yr heriau difrifol yr oedd yr ysgolion dan sylw yn eu hwynebu, ac roedd o'r farn bod angen sefydlogrwydd yn y maes hwn a bod y cynnig i'w groesawu.

 

Awgrymwyd ei bod yn hanfodol rhoi'r dechrau gorau posibl i'w haddysg i blant, a byddai cynnig Hawliau Dysgwyr Blynyddoedd Cynnar y Cyfnod Sylfaen yn cael ei groesawu hefyd. 

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch pwy oedd yn talu am y 21 disgybl a oedd yn byw yn y dalgylch ar hyn o bryd, ond a deithiai i Ysgol Griffith Jones (Sanclêr) er mwyn cael addysg cyfrwng Cymraeg. Dywedodd y Rheolwr Moderneiddio Ysgolion wrth y Pwyllgor fod yr Awdurdod Lleol yn cyllido cludiant ar gyfer y disgyblion hyn i Sanclêr, gan eu bod wedi ennill apêl i gael eu cludo i ysgol cyfrwng Cymraeg am nad oedd y ddarpariaeth hon ar gael iddynt yn eu dalgylch presennol. Atgoffwyd y Pwyllgor mai Dwy Ffrwd fyddai categori iaith yr ysgol ardal newydd wirfoddol a gynorthwyir.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan y Pwyllgor:

 

8.1      Derbyn yr adroddiad.

 

8.2       Argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod swyddogion yn cychwyn ar broses ymgynghori ffurfiol ynghylch y cynnig yn ystod Tymor yr Haf 2016.

 

8.3       Cyflwyno adroddiad i'r Bwrdd Gweithredol ac i'r Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori statudol.

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau