Agenda item

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I GAU YSGOL GYNRADD LLANEDI

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd D.J.R. Bartlett wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ystyried yr eitem ac yn penderfynu yn ei chylch.

 

Roedd Mrs. V. Kenny wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ystyried yr eitem ac yn penderfynu yn ei chylch.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gynnig i gau Ysgol Gynradd Gymunedol Llanedi a chychwyn ar ymgynghoriad ffurfiol ynghylch y cynnig yn ystod Tymor yr Haf 2016. Dywedwyd pe byddai penderfyniad i ymgynghori yn cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol, y byddid wedyn yn cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Craffu –Addysg a Phlant a'r Bwrdd Gweithredol ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori statudol.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau fod cyfrifoldeb cyfreithiol ar yr Awdurdod i adolygu nifer yr ysgolion a oedd ganddo mewn ardal, a’u math, ac a oedd yn llwyddo ai peidio i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau a'r cyfleusterau a oedd ar gael i ddarparu'r cyfleoedd yr oedd plant yn eu haeddu. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, roedd dirywiad graddol wedi bod yn nifer y disgyblion yn Ysgol Gynradd Llanedi, o 33 disgybl ar y gofrestr ym mis Ionawr 2010 i 18 disgybl ar y gofrestr ym mis Ionawr 2015, gan olygu bod 51% o leoedd gwag yn yr ysgol. Yn dilyn ymadawiad y Pennaeth parhaol diwethaf ym mis Rhagfyr 2013, roedd yr ysgol wedi wynebu heriau ac ansicrwydd ynghylch cyflawni swydd yr uwch-arweinydd.

 

Nododd yr aelodau fod yr Adran Addysg a Phlant o'r farn nad oedd y trefniadau presennol yn fodel addysgol sefydlog a chryf, nac yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau. Gan nad oedd disgwyl i nifer y disgyblion gynyddu’n sylweddol yn y dyfodol, ac o gofio’r heriau parhaus a oedd yn wynebu'r ysgol i sicrhau uwch-arweinyddiaeth barhaol, nid oedd modd cynnal y trefniadau presennol. Hefyd, roedd yr Adran o'r farn, o safbwynt addysgol, fod cael cyn lleied o ddisgyblion yn ei gwneud yn eithriadol o anodd i'r ysgol ddarparu ehangder a dyfnder yn y profiadau cwricwlaidd a chymdeithasol yr oedd ar ddisgyblion o’r oedran hwnnw eu hangen i ddatblygu'n llawn.

 

Cafodd y sylwadau canlynol eu gwneud wrth ystyried yr adroddiad:

 

Awgrymwyd bod materion wedi'u cynnwys yn yr adroddiad, yn ogystal â'r rhai a godwyd gan Gyfeillion yr Ysgol, a fyddai'n ei gwneud yn anodd i'r Pwyllgor wneud unrhyw argymhellion i'r Bwrdd Gweithredol, heb fod gwybodaeth bellach yn cael ei chyflwyno. Cyfeiriwyd at yr ystadau tai newydd yn yr ardal, yn ogystal â chategori iaith presennol Ysgol yr Hendy. Pe byddai rhieni a oedd yn symud i'r cartrefi newydd am gael addysg cyfrwng Cymraeg, ni fyddai Ysgol yr Hendy yn cynnig hyn, a byddai'r sefyllfa'n groes i bolisi iaith y Cyngor ei hun. Y teimlad oedd y byddai angen rhoi rhagor o ystyriaeth i'r materion hyn ynddynt eu hunain, yn ogystal â'r defnydd o gyfleusterau'r ysgol gan y gymuned. 

 

Cyfeiriwyd at raglen ymweliadau ysgolion y Pwyllgor ac awgrymwyd y dylid, yn y dyfodol, ymweld ag ysgolion yr oedd perygl y byddent yn cau. Hefyd, dywedwyd bod 4-5 mlynedd ers i'r Pwyllgor ymweld ag ysgolion Llanedi a'r Hendy ddiwethaf, a chynigiwyd y dylai aelodau ymweld â'r ddwy ysgol hyn cyn gwneud unrhyw argymhellion i'r Bwrdd Gweithredol. Cytunodd y Pwyllgor â'r cynnig hwn.

 

Mynegwyd pryder ynghylch nifer presennol y disgyblion a fynychai Ysgol Llanedi, ac, o blith y rheini, dim ond nifer bach a ddeuai o'i dalgylch, gyda 12 yn dod o'r tu allan i'r dalgylch.

 

Awgrymwyd bod anghysondeb rhwng y ffigurau a oedd wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad a'r rheini a gyflwynwyd gan Gyfeillion yr Ysgol, ac awgrymwyd bod angen gwneud gwaith pellach a darparu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor, fel y gallai benderfynu pa ffigurau a oedd yn gywir, yn ogystal â chael eglurder ynghylch effaith y datblygiadau tai arfaethedig. Fodd bynnag, cyfeiriwyd unwaith eto at nifer bach y disgyblion a'r rheini a oedd yn teithio o'r tu allan i'r dalgylch, ac er bod teimlad na allai ysgolion bach gynnig yr ystod lawn o brofiadau addysgol, roedd yn amlwg bod angen rhoi ystyriaeth bellach i'r cynnig hwn, cyn bod unrhyw argymhellion yn cael eu gwneud i'r Bwrdd Gweithredol.

 

Cyfeiriwyd at yr undod a'r pryder yr oedd Cyfeillion yr Ysgol a thrigolion y pentref wedi eu dangos wrth wrthwynebu'r cynnig i gau. Roedd teimlad hefyd fod manteision yn perthyn i ysgolion bach gwledig, ac y byddai'n fuddiol i aelodau ymweld â'r ddwy ysgol er mwyn asesu'r cefndir i'r sylwadau a wnaed gan Gyfeillion Ysgol Llanedi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan y Pwyllgor: 

 

6.1       Nodi'r adroddiad.

 

6.2       Cyn cyflwyno unrhyw argymhellion i'r Bwrdd Gweithredol ynghylch dyfodol yr ysgol, fod y Pwyllgor yn ystyried adroddiad pellach yn egluro'r data a gyflwynwyd gan swyddogion a'r honiadau a wnaed gan Gyfeillion Ysgol Llanedi yn ystod eu cwestiynau cyhoeddus. 

 

6.3       Cyn cyflwyno unrhyw argymhellion i'r Bwrdd Gweithredol ynghylch dyfodol yr ysgol, fod y Pwyllgor yn ymweld ag ysgolion cynradd cymunedol Llanedi a'r Hendy.

 

Dogfennau ategol: