Agenda item

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I GAU YSGOL GYNRADD BANCFFOSFELEN

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd P. Hughes-Griffiths wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ystyried yr eitem ac yn penderfynu yn ei chylch.

 

Roedd y Cynghorydd G.O. Jones (yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant) wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ystyried yr eitem ac yn penderfynu yn ei chylch.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gynnig i gau Ysgol Gynradd Gymunedol Bancffosfelen a chychwyn ar ymgynghoriad ffurfiol ynghylch y cynnig yn ystod Tymor yr Haf 2016. Dywedwyd pe byddai penderfyniad i ymgynghori yn cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol, y byddid wedyn yn cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Craffu – Addysg a Phlant a'r Bwrdd Gweithredol ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori statudol.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau fod cyfrifoldeb cyfreithiol ar yr Awdurdod i adolygu nifer yr ysgolion oedd ganddo mewn ardal, a’u math, ac a oedd yn llwyddo ai peidio i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau a'r cyfleusterau a oedd ar gael i ddarparu'r cyfleoedd yr oedd plant yn eu haeddu. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, roedd dirywiad graddol wedi bod yn nifer y disgyblion yn Ysgol Gynradd Bancffosfelen, o 48 ar y gofrestr ym mis Ionawr 2011 i 35 disgybl ar y gofrestr ym mis Ionawr 2016, gan olygu bod 64% o leoedd gwag yn yr ysgol. Ers i'r Pennaeth adael adeg y Pasg 2014, nid oedd Pennaeth parhaol wedi'i gyflogi yn yr ysgol, er bod trefniant anffurfiol rhwng Cyrff Llywodraethu Pontyberem a Bancffosfelen i wasanaeth cyflenwi rhan-amser (0.2) gael ei ddarparu gan Bennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol Pontyberem.

 

Nododd yr aelodau fod yr Adran Addysg a Phlant o'r farn nad oedd y trefniadau presennol yn fodel addysgol sefydlog a chryf, nac yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau. Hefyd, roedd yr Adran o'r farn, o safbwynt addysgol, fod cael cyn lleied o ddisgyblion yn ei gwneud yn eithriadol o anodd i'r ysgol ddarparu ehangder a dyfnder yn y profiadau cwricwlaidd a chymdeithasol yr oedd ar ddisgyblion o’r oedran hwnnw eu hangen i ddatblygu'n llawn.

 

Yn ogystal, nododd y Pwyllgor fod yr eitem yn cynnwys ymateb i'r cynnig gan Gorff Llywodraethu Bancffosfelen ar ffurf adroddiad dwyieithog a oedd wedi'i gynnwys i'r aelodau ei ystyried.

 

Dywedodd y Rheolwr Moderneiddio Ysgolion wrth y Pwyllgor fod 23 o lythyrau wedi dod i law hyd yn hyn a wrthwynebai'r cynnig i gau'r ysgol. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant hefyd ei fod wedi cael y ddeiseb yr oedd Cyfeillion yr Ysgol wedi ei chyflwyno, cyn dechrau'r cyfarfod.

 

Cafodd y sylwadau canlynol eu gwneud wrth ystyried yr adroddiad:

 

Yn yr un modd â'r sefyllfa yn Llanedi, cynigiwyd bod y Pwyllgor yn ymweld ag Ysgolion Bancffosfelen a Phontyberem cyn gwneud unrhyw argymhellion i'r Bwrdd Gweithredol. Cytunodd y Pwyllgor â'r cynigion hyn.

 

Awgrymwyd, pe byddai'r Cyngor yn penderfynu cau'r ysgol, y dylai ystyried dyrannu'r dalgylch i ysgolion cyfagos eraill, os oeddent yn agosach i’r disgyblion. O ystyried hyn, awgrymwyd hefyd fod y Pwyllgor yn ymweld ag Ysgol y Fro yn Llangyndeyrn yn ogystal ag Ysgol Llanddarog, gan fod y ddwy ysgol yn yr ardal gyfagos a gallai cau Ysgol Bancffosfelen effeithio ar y ddwy ohonynt. Cytunodd y Pwyllgor â'r cynnig hwn.

 

Cafodd y cynigion a gyflwynwyd (fel rhan o'r adroddiad) gan Gorff Llywodraethu yr Ysgol eu croesawu, yn enwedig gan fod rhieni a llywodraethwyr lleol yn cynnig opsiynau eraill yn hytrach na chau'r ysgol. Awgrymwyd bod y llywodraethwyr a'r rhanddeiliaid eraill a oedd yn gysylltiedig â'r ysgol yn cael cyfle i adeiladu ar eu cynlluniau cychwynnol trwy ddatblygu cynllun busnes manwl, i ddisgrifio sut y byddent yn gwireddu eu gweledigaeth ar gyfer yr ysgol, yn enwedig yr agweddau cyllido. Roedd teimlad bod angen cael eglurhad pellach ynghylch gwahanol faterion a bod angen i'r achos busnes fod yn gynhwysfawr ac yn sicr. Cynigiwyd bod y Pwyllgor yn cael y cyflwyniad hwn cyn ei fod yn gwneud unrhyw argymhellion i'r Bwrdd Gweithredol. Cytunodd y Pwyllgor â'r cynnig hwn.

 

Cyfeiriwyd at nifer y disgyblion a oedd yn mynychu'r ysgol ond a oedd yn byw yn nalgylch Pontyberem, a theimlwyd bod hyn yn tanseilio'r ffigurau a gyflwynwyd yn yr adroddiad. Yn yr un modd â'r cynnig ar gyfer Llanedi, awgrymwyd bod angen i'r Pwyllgor gael rhagor o wybodaeth er mwyn gwneud argymhellion gwybodus.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan y Pwyllgor: 

 

7.1       Nodi'r adroddiad.

 

7.2       Cyn cyflwyno unrhyw argymhellion i'r Bwrdd Gweithredol ynghylch dyfodol yr ysgol, fod y Pwyllgor yn ystyried adroddiad gan Gorff Llywodraethu Ysgol Bancffosfelen ar ei fwriad i sefydlu ymddiriedolaeth elusennol gymunedol ac i ail-gategoreiddio Bancffosfelen yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir.

 

3          Cyn cyflwyno unrhyw argymhellion i'r Bwrdd Gweithredol ynghylch dyfodol yr ysgol, fod y Pwyllgor yn ymweld ag ysgolion Bancffosfelen, Pontyberem, Y Fro a Llanddarog.

Dogfennau ategol: