Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD DOT JONES I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

"Ym mis Awst 2019, derbyniais e-bost yn nodi y byddai'r adolygiad o ddalgylchoedd ysgol yn dechrau ym mis Medi y llynedd. A ellir rhoi diweddariad ar y gwaith a'r ymgynghoriadau sydd wedi'u cwblhau hyd yn hyn."

Cofnodion:

"Ym mis Awst 2019, derbyniais e-bost yn nodi y byddai'r adolygiad o ddalgylchoedd ysgol yn dechrau ym mis Medi y llynedd.

A ellir rhoi diweddariad ar y gwaith a'r ymgynghoriadau sydd wedi'u cwblhau hyd yn hyn."

 

Ymateb gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

Rydym ni gyd yn ymwybodol bod gan bob ysgol dalgylch ac rwy'n si?r eich bod chi, fel fi, wedi gofyn y cwestiwn sut ddaeth y dalgylchoedd ysgol i fodolaeth. Wel, yn wreiddiol, ffurfiwyd y rhain er mwyn sicrhau bod digon o ddisgyblion ar gael i gefnogi pob ysgol, i gynnal pob ysgol, i wneud yn si?r bod y plant sy'n byw yn agos yn mynd i'r ysgol benodol honno. Mae pob ysgol yn gwasanaethu dalgylch dynodedig ac yma yn Sir Gaerfyrddin rydym yn defnyddio dalgylchoedd ysgol fel rhan o'n system derbyn i ysgolion a hefyd i weithredu ein polisi cludiant o'r cartref i'r ysgol. Cynhaliwyd adolygiad llawn o'n dalgylchoedd yn 2012 a nawr yw’r amser priodol i ni eu diweddaru. I wneud y gwaith hwn mae swyddog wedi'i benodi, mae'r gwaith wedi dechrau ac mae'r swyddog hwn yn mynd i arwain y gwaith, ond mae'n ddarn mawr iawn o waith, ac yn ddarn gymhleth iawn o waith.

 

Er mwy adolygu'r sefyllfa'n llawn, mae'r sir hon fel y gwyddom yn un eang, mae'n sir fawr yn ddaearyddol ac mae gennym lawer o ysgolion ac mae'n rhaid i ni edrych yn ofalus ar y cyd-destun ieithyddol. Mae gennym ysgolion crefyddol. Mae ein holl ysgolion yn wahanol iawn, felly mae angen i ni ystyried yn ofalus yr holl drefniadau sydd ar waith. Mae angen i ni edrych ar natur ddeinamig ôl-troed addysg ar draws y sir. Fel y soniais, ac rwy'n falch o gael dweud hyn, oherwydd roeddwn am weld y gwaith yn dechrau, mae'r gwaith hwn wedi dechrau, mae ymgynghoriadau wedi cael eu cynnal gyda'r adran cludiant ysgol er mwyn deall y trefniadau presennol a'r newidiadau posibl a allai ddigwydd. Mae dadansoddiad daearyddol o ddata disgyblion ar gyfer pob ysgol gynradd ac uwchradd hefyd ar waith. Bydd hyn o gymorth i ddeall patrymau presenoldeb yn yr ysgolion mewn perthynas â ffiniau'r dalgylchoedd presennol.

 

Mae dalgylchoedd ysgol yn amodol i raddau helaeth ar yr adolygiad o'n Rhaglen Moderneiddio Addysg. Rydych wedi fy nghlywed yn aml yn siarad am y Rhaglen Moderneiddio Addysg. Mae'n rhaglen bwysig i ni yn Sir Gaerfyrddin, ac rydym wedi elwa llawer ar y rhaglen honno, ac mae'r adolygiad hwnnw ar waith ar hyn o bryd. Gall yr adolygiad o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg ddylanwadu ar newidiadau i'r map addysg yn ein sir. Mae angen i'r adolygiad hwn gael ei gwblhau cyn bod yr ymgynghoriad yn dechrau â'n hysgolion. Mae'n rhaid i ni gael canlyniadau'r adolygiad hwnnw. Hefyd, bydd ymgynghoriad trylwyr iawn ynghylch unrhyw newidiadau a gaiff eu cynnig i'r dalgylchoedd hynny. Bydd digon o gyfle i fynegi barn. Bydd hyn yn rhan o'r broses derbyn i ysgolion ac mae hyn yn digwydd yn flynyddol ym mis Ionawr, felly ni fydd yn digwydd eto tan fis Ionawr 2021, sef Ionawr nesaf, a bydd yn cael ei weithredu wedyn yn y mis Medi dilynol. Rwy'n cynnig na fydd yr ymgynghoriad ag ysgolion yn cael ei gynnal hyd nes ein bod wedi cwblhau'r adolygiad o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg. Mae'n bwysig bod y cynigion sy'n dod i law yn cael eu hystyried. Mae'n bwysig bod y cynnwys yn cael ei drafod â ni ac yna bydd adolygiad cyffredinol o ddalgylchoedd ysgolion. Diolch yn fawr.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.