Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD BILL THOMAS I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Ym mis Gorffennaf y llynedd, penderfynodd Cyngor Sir Caerfyrddin yn unfrydol ar gynnig i "nodi ffyrdd o gyflenwi llaeth mewn poteli gwydr y gellir eu hailddefnyddio yn hytrach na phlastig yn ein hysgolion cynradd."

Cyhoeddodd Cyngor Sir Ceredigion yn ddiweddar fod ei ysgolion yn mynd i roi'r gorau i ddefnyddio 400,000 o boteli plastig.

A wnaiff yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant gyhoeddi cynllun manwl gydag amserlenni ar gyfer gweithredu'r cyfarwyddyd unfrydol gan aelodau'r Cyngor Sir hwn fel na fydd yn rhaid i'n hysgolion cynradd ailgylchu symiau mawr o boteli plastig gwag?”

 

Cofnodion:

"Ym mis Gorffennaf y llynedd, cytunodd Cyngor Sir Caerfyrddin i "nodi ffyrdd o gyflenwi llaeth mewn poteli gwydr y gellir eu hailddefnyddio yn hytrach na phlastig yn ein hysgolion cynradd”.

Cyhoeddodd Cyngor Sir Ceredigion yn ddiweddar fod ei ysgolion yn mynd i roi'r gorau i ddefnyddio 400,000 o boteli plastig.

A wnaiff yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant gyhoeddi cynllun manwl gydag amserlenni ar gyfer gweithredu'r cyfarwyddyd unfrydol gan aelodau'r Cyngor Sir hwn fel na fydd yn rhaid i'n hysgolion cynradd ailgylchu symiau mawr o boteli plastig gwag?”

Ymateb gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

Diolch ichi am y cwestiwn. Mae'n rhywbeth rydym wedi cyfeirio ato sawl tro. Mae'n fater rydym wedi'i drafod yma yn y Siambr. Gan fod y cwestiwn yn cyfeirio'n benodol at Gyngor Sir Ceredigion, rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi bod ein contract llaeth presennol yn Sir Gaerfyrddin yn wahanol i gontract Ceredigion. Mae'r ddau gytundeb ar wahân. Mae ein contract ni ar gyfer yr holl laeth sy'n mynd i bob ysgol. Felly, mae pob diferyn o laeth sy'n mynd i unrhyw waith yn yr ysgol yn dod o dan y contract hwn. Nid yw'r llaeth i ddisgyblion yn unig. Hynny yw, y llaeth sydd ar hyn o bryd yn cael ei osod mewn poteli plastig. Mae'r contract sydd gennym yn dod i ben ym mis Awst 2021. Felly, Awst y flwyddyn nesaf. Felly, mae blwyddyn a phum mis o'r contract yn weddill, ac rydym yn glwm i'r contract hwnnw tan hynny. Ni allwn wneud unrhyw beth tan hynny.

 

Roedd Ceredigion wedi gwneud darn o waith diddorol iawn, gwaith gorchwyl a gorffen, i adolygu'r ddarpariaeth llaeth, y ddarpariaeth llaeth am ddim. Ond, rydym hefyd yn ymwybodol bod Ceredigion, fel sir, ar hyn o bryd yn ystyried peiriannau llaeth ac rwy'n credu y dylwn hefyd ystyried o bosibl y datblygiadau newydd sydd yn y maes hwn. Mae Ceredigion yn ymgynghori ag ysgolion mwy i gyflwyno llaeth o beiriant. Bydd y llaeth yn oer fel petai'n dod o'r oergell ac rwy'n si?r eich bod chi, fel minnau, yn gallu cofio'r dyddiau ysgol pan oeddem ni'n cael llaeth yn ystod tymor yr haf, a hwnnw wedi bod yn yr haul ac roedd e'n dwym.  Felly mae rhywbeth i'w ddweud am gael llaeth sy'n oer iawn, mae'n llawer mwy derbyniol. Nawr, mae'r peiriant llaeth hwn, hyd y deallaf, yn dal un pergal ar y tro. Hynny yw, mae pergal yn cyfateb i oddeutu 24 peint ac felly mae'n gallu rhoi 70-72 dogn o laeth, felly un traean peint y mae pob plentyn yn ei dderbyn o'r poteli plastig bach ar hyn o bryd. Mae Ceredigion hefyd wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru am grant. Mae grantiau ar gael i brynu'r peiriannau llaeth hyn. Byddai'n grant gan Gronfa Gyfalaf yr Economi Gylchol. Mae'r grantiau hynny ar gael.

 

Rydym ni fel sir yn ymwneud â'r prosiect WRAP, a dyna'r acronym ar gyfer y Rhaglen Weithredu Gwastraff ac Adnoddau. Rydym yn ymgynghori'n drylwyr am yr hyn sy'n digwydd a'r datblygiadau yn y maes hwn. Mae'r prosiect yn edrych ar blastig untro sef y plastig dadleuol, sy'n cael ei daflu dim ond ar ôl ei ddefnyddio unwaith, ac wrth gwrs rydym ni i gyd yn derbyn bod hynny'n niweidiol, mae'n blastig peryglus. Rydym hefyd yn edrych ar y contract llaeth mewn perthynas â llaeth ysgol am ddim. Darperir llaeth am ddim. Yn ogystal â hynny, rydym yn derbyn dogfennau a chyngor ynghylch sut i wneud cais am grantiau i roi'r newidiadau hyn ar waith yn y dyfodol.

 

Mae'r mudiad hwn sy'n bodoli, o'r enw WRAP, wedi ein cynghori y byddai opsiynau darparu yn amrywio o awdurdod i awdurdod yn dibynnu er enghraifft ar leoliad y gadwyn gyflenwi.  Neges allweddol yn ein trafodaeth â WRAP yw nad plastig o reidrwydd yw'r broblem, dyna'r cyngor rydym bellach yn ei gael a bod angen canolbwyntio'n fwy ar a yw'r plastig wedi'i wneud o ddeunydd ailgylchu ai peidio. Byddai angen cynnal trafodaethau pellach wedyn gyda'n cyflenwr presennol gyda'r posibilrwydd o gynnal astudiaeth achos yma yn Sir Gaerfyrddin.

 

Mae'r cyflenwyr presennol wedi cadarnhau na fyddent yn gallu darparu llaeth mewn poteli gwydr. Maent wedi dweud wrthym yn glir nad yw'n bosibl gwneud hynny, ond mae dewisiadau eraill ar gael, fel y soniais. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni edrych ar bob opsiwn posibl a fyddai'n gallu cyflawni ein nod.  Soniais i am y peiriannau llaeth a'r pergal ar gyfer ysgolion mwy, neu gartonau 2 litr ar gyfer ysgolion llai. Byddai rheiny'n bosibl. Soniais am y grantiau sydd ar gael y gallwch chi eu hawlio gan ddau gorff, un am laeth i blant dan 5 oed a hawliadau ar wahân i ddisgyblion rhwng 5 a 7 oed. Bydd yn rhaid i ni gael ffordd o reoli faint o laeth sy'n cael ei roi i bob plentyn ac mae uchafswm wrth gwrs o ran y llaeth y gall plant ei gael bob dydd. Wrth gwrs, byddai'n rhaid i'r ysgolion olchi'r cwpanau neu'r biceri, byddai'n rhaid i'r staff wneud y gwaith hwnnw. Mae grant i blant rhwng 5 a 7 oed. Mae'n grant gweinyddu felly, byddai cymorth ar gael i'r ysgolion a byddai ysgolion sy'n defnyddio'r pergals yn gallu cael hyfforddiant. Mae angen iddynt lanhau'r peiriannau hyn ac mae angen iddynt wybod sut i wneud hynny ac mae hynny'n bwysig iawn mewn perthynas â diogelwch bwyd.

 

Rydym am drafod ymhellach gydag awdurdodau cyfagos i weld sut y maent yn bwriadu goresgyn rhai o'r problemau neu'r materion hyn y soniais amdanynt ac yna byddwn yn trafod â'n cyflenwr i weld beth sy'n bosibl ymhen blwyddyn a phum mis. Ar ôl i'r gwaith hwn gael ei gyflawni, ac wrth gwrs y gwaith gyda WRAP, ac mae hynny'n bwysig iawn hefyd, byddwn yn gallu llunio cynllun pwrpasol i Sir Gaerfyrddin, cynllun y byddwn i'n hapus iawn i'w rannu â chi ar ôl iddo gael ei gwblhau. Ond, ar hyn o bryd, rwy'n credu ei fod yn bwysig i ni ystyried pob opsiwn posibl fel y gallwn gyflawni'r nod hwnnw o gael gwared ar blastig untro. Diolch yn fawr iawn.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Bill Thomas:

   

Mae'n dda clywed bod cyllid Llywodraeth Cymru yn helpu Ceredigion â'i gynlluniau i roi hyn ar waith a'i bod hefyd yn helpu'r cyngor hwn, Sir Gaerfyrddin, gyda rhai o'i gynlluniau hefyd, felly mae'n newyddion da bod cyllid Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio at y diben hwn. Yn amlwg gallwn ddysgu o'r hyn y mae Cyngor Ceredigion yn ei wneud a sut mae pethau'n mynd o ran ei gynlluniau a gallwn elwa ar ei brofiad. Sonioch y byddai'r cynhwysyddion a pha rai fyddai'n cael eu defnyddio yn yr ysgolion yn bwysig iawn ac rwy'n credu y soniwyd am hynny yn ein trafodaeth ynghylch y Rhybudd o Gynnig hwn y llynedd a bod gwaith dur Trostre wedi dweud y byddent yn gallu cyflenwi cwpanau tun i'r ysgolion a fyddai'n rhai y gellir eu hail-ddefnyddio ac wedi'u gwneud o ddeunydd ailgylchu. Felly, yn ôl pob golwg un o'r rhesymau dros beidio â symud ymlaen yw'r contract a'r cyflenwr a bod gennym gontract tan fis Awst 2021. Mae hyn yn rhoi cyfle arall i ni. Mae angen i ni siarad yn fanwl â'r cyflenwyr hynny, a diolch i chi am eich goddefgarwch Cadeirydd. Felly dyma fy nghwestiwn. Roedd y cwestiwn gwreiddiol a gyflwynais yn cynnwys oddeutu tri chwestiwn ond dywedwyd wrthyf mai dim ond un cwestiwn roeddwn i'n gallu ei gyflwyno. Pryd fydd gennym y cynllun manwl hwn er mwyn i ni allu ateb yr ysgolion, oherwydd mae'r pwyllgor eco yn Ysgol y Felin, a gododd y mater hwn â mi yn wreiddiol, bellach wedi symud ymlaen, mae ganddynt bwyllgor newydd. Rwy'n gobeithio nad y pwyllgor nesaf. Felly pryd fydd gennym y cynllun hwn?

 

Ymateb gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

Cadeirydd, roeddwn i'n meddwl fy mod i wedi dweud yn ddigon clir bod y gwaith yn cael ei gyflawni nawr, rydym yn ymchwilio i bob opsiwn posibl. Nid ydym wedi stopio. Mae'n bwysig ein bod yn edrych ar yr holl ddatblygiadau. Rwyf yn mynd i ddweud un peth y soniais amdano yn flaenorol. Efallai y byddai rhai ohonoch chi'n dweud 'wel, dywedoch chi boteli gwydr'. Rwy'n mynd i ail-ddweud, Gadeirydd, beth gafodd ei ddweud. Gall poteli gwydr gael eu defnyddio sawl gwaith a gellir ailgylchu gwydr yn hwylus, ond anfantais gwydr yw ei fod yn drwm ac mae'r tanwydd a ddefnyddir yn cynyddu'n sylweddol oherwydd y brif lwyth ychwanegol ar gerbydau dosbarthu. Dylem hefyd nodi bod y broses sterileiddio yn defnyddio d?r, ynni a chemegion, ac nid yw'r ôl troed carbon o'r dechrau i'r diwedd ar gyfer gwydr o gymharu â phlastig wedi'i asesu'n llawn ond dangosodd un astudiaeth fod gwydr yn perfformio'n waeth ar y cyfan. Roedd erthygl ddiweddar gan y BBC yn cynnwys dyfyniad gan lefarydd y rhaglen WRAP a oedd yn dweud, er mwyn i wydr fod yr opsiwn sy'n well i'r amgylchedd o safbwynt carbon, dengys ein gwaith ymchwil fod angen ail-ddefnyddio unrhyw botel o leiaf ugain o weithiau. Yn ymarferol, mae poteli gwydr yn goroesi tua deunaw gwaith felly, mae'n bwysig i ni edrych ar yr holl ffeithiau ac edrych ar yr holl ddatblygiadau. Ond i ateb eich cwestiwn Bill, rydym yn gweithio arno nawr.