Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad diweddaru ynghylch y Rhaglen Fuddsoddi o ran Priffyrdd, Troedffyrdd a Diogelwch Ffyrdd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau mewn perthynas â diogelwch ffyrdd a seilwaith cysylltiedig.
Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth i'r Aelodau am yr agweddau canlynol:-
· Cynllun Trafnidiaeth Lleol
· Y Ddeddf Teithio Llesol a Rhwymedigaethau'r Awdurdod Lleol
· Llwybrau Diogel mewn Cymunedau
· Rhaglen Gwella Diogelwch Ffyrdd a Gwella Troedffyrdd
· Grant Diogelwch Ffyrdd (Cyfalaf a Refeniw)
· Rhaglen Rheoli Traffig ac Atal Damweiniau
Roedd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o'r cyllid ar gyfer cynlluniau yn ymwneud â diogelwch ffyrdd a chynlluniau seilwaith eraill yn 2019/20 a'r rhaglen wedi'i blaenoriaethu ar gyfer diogelwch ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall.
Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-
trafodaethau â thirfeddianwyr yn parhau,
cais cynllunio wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer y rhan orllewinol,
cais cynllunio wedi cael ei wneud ar gyfer y rhan ddwyreiniol - oedi oherwydd amodau ar waith gan CNC
gwaith adeiladu wedi dechrau ar ran orllewinol y llwybr ger Felin-wen,
ceisiadau pellach wedi cael eu cyflwyno ar gyfer y rhan orllewinol.
Dywedodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd y byddai'n cysylltu â'r cynghorydd lleol y tu allan i'r cyfarfod ynghylch y mater.
· Cyfeiriwyd at Lwybrau Diogel mewn Cymunedau. Gofynnwyd a oedd yn bosibl i wardiau ddod ynghyd er mwyn bod yn fwy integredig. Dywedodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd fod gwaith ar y cyd yn arfer da a'i fod yn cael ei annog. Yn ogystal, roedd yn galonogol nodi bod y llythyr a gafwyd gan y Gweinidog dros Drafnidiaeth yn annog Awdurdodau Lleol i adolygu eu Mapiau Rhwydwaith Integredig ar gyfer teithio llesol dros y flwyddyn nesaf ac yn nodi y byddai cymorth ymarferol yn cael ei ddarparu i'w galluogi i sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion cymunedau lleol.
Eglurodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd, o ganlyniad i'r newidiadau deddfwriaethol, fod y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod ar 3 Chwefror, 2020 wedi cymeradwyo sefydlu Panel Ymgynghorol trawsbleidiol i gynnal adolygiad cyffredinol o bolisi cludiant ysgol yr awdurdod (gweler cofnod 11). Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y byddai'r Panel yn cynnal adolygiad lefel uchel o'r polisi cludiant ysgol presennol, yn adolygu'r newidiadau i'r defnydd o'r Rheoliadau Mynediad i Gerbydau’r Gwasanaeth Cyhoeddus i wasanaethau lleol ac yn cynnal adolygiad lefel uchel o gostau'r ddarpariaeth cludiant ysgol a fyddai'n cynnwys heriau o ran y gadwyn gyflenwi yn deillio o'r defnydd o'r Rheoliadau Mynediad i Gerbydau’r Gwasanaeth Cyhoeddus. Yn dilyn yr adolygiad, byddai'r Panel Ymgynghorol yn gwneud argymhellion i'r Bwrdd Gweithredol.
Er gwaethaf gwaith y Panel Ymgynghorol Adolygu Cludiant i'r Ysgol, dywedwyd y dylai Llywodraeth Cymru adolygu ar lefel genedlaethol pa mor briodol yw ei dull presennol o asesu llwybrau diogel a hefyd adolygu ar frys y pellteroedd sy'n briodol i ddisgyblion gerdded/beicio i'r ysgol. Cynigiwyd y dylai'r Pwyllgor ysgrifennu at y Gweinidog dros Drafnidiaeth yn gofyn i Lywodraeth Cymru gynnal yr adolygiadau a nodwyd uchod a sicrhau bod unrhyw arian ychwanegol angenrheidiol ar gael. Eiliwyd y Cynnig.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch a oedd gan yr Awdurdod Lleol ddisgresiwn i leihau'r pellter cerdded statudol presennol o'r cartref i'r ysgol, pwysleisiodd Rheolwyr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd i'r Pwyllgor fod ystyriaeth flaenorol i'r goblygiadau ariannol yn awgrymu y byddai pob milltir a gaiff ei leihau yn arwain at gynnydd amcangyfrifedig blynyddol o £10m o ran cyllideb refeniw'r Awdurdod Lleol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod:
5.1 y Pwyllgor yn ysgrifennu llythyr at y Gweinidog dros Drafnidiaeth yn gofyn i Lywodraeth Cymru wneud y canlynol:
a) cynnal adolygiad o'r dull presennol o asesu llwybrau diogel;
b) adolygu ar frys y pellteroedd sy'n briodol i ddisgyblion gerdded i'r ysgol;
c) ystyried sicrhau bod unrhyw gyllid ychwanegol angenrheidiol ar gael yn dilyn canlyniad yr adolygiadau a nodwyd uchod.
5.2 yr adroddiad diweddaru ynghylch y Rhaglen Fuddsoddi o ran Priffyrdd, Troedffyrdd a Diogelwch Ffyrdd yn cael ei dderbyn.
Dogfennau ategol: