Agenda item

SAFON TAI SIR GAERFYRDDIN A MWY (STSG+) CYNLLUN BUSNES 2020–23

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 24 Chwefror, 2020 (gweler cofnod 9) wedi ystyried Cynllun Busnes Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (CHS+) 2020-2023, yr oedd ei ddiben fel a ganlyn:-

 

·       egluro'r weledigaeth a'r manylion yngl?n â chynnal a gwella Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy dros y tair blynedd nesaf, a beth y mae hyn yn ei olygu i'r tenantiaid;

·       Nodi’r bwriad i ddatblygu safon newydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin drwy barhau i symud tuag at dai carbon niwtral, rhai presennol a rhai newydd, gan sicrhau bod cadwyn gyflenwi, swyddi a chyfleoedd hyfforddi newydd yn cael eu darparu;

·       Cadarnhau'r proffil ariannol, yn seiliedig ar y rhagdybiaethau presennol, ar gyfer cyflawni Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy + dros y tair blynedd ariannol nesaf;

·       Llunio cynllun busnes ar gyfer y cais blynyddol i Lywodraeth Cymru am Lwfans Atgyweiriadau Mawr (MRA) ar gyfer 2020/21, sy’n cyfateb i £6.1m.

 

Dywedodd yr Aelod Bwrdd Gweithredol dros Dai y byddai'r Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu safon newydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin drwy barhau i symud tuag at gartrefi carbon niwtral, rhai presennol a rhai newydd.  Gyda chymorth Prifysgol Caerdydd, roedd yr Awdurdod wedi bod yn gweithio ar ôl-osod amrywiaeth o dechnolegau carbon isel gan gynnwys cyflenwadau ynni adnewyddadwy, storio ynni a thechnolegau lleihau'r galw am ynni. Dywedodd fod bron i £49m wedi'i neilltuo i gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ar gyfer tenantiaid presennol dros y 3 blynedd nesaf er mwyn galluogi tenantiaid i elwa ar gartrefi sy'n gyfeillgar i garbon ac yn rhatach i'w rhedeg.

 

Cadarnhaodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai fod yr Awdurdod ar fin cyflawni ei addewid i ddarparu 1,000 yn fwy o dai fforddiadwy o ganlyniad i brynu tai ar y farchnad, ail-ddefnyddio eiddo gwag unwaith yn rhagor a thrwy adeiladu cartrefi newydd.  Ychwanegodd, er bod llawer wedi'i gyflawni, cydnabuwyd bod mwy i'w wneud o hyd ond bod yr Awdurdod yn barod i wynebu'r heriau. Roedd y cynllun a gyhoeddwyd yn manylu ar fwriad yr Awdurdod i ddatblygu rhaglen adeiladu newydd ar gyfer Cartrefi Croeso i sicrhau tai, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.  Roedd gwaith i adeiladu cartrefi cyngor newydd yn Dylan eisoes wedi dechrau gyda bron i £52m ar gael i'w wario dros y tair blynedd nesaf ar adeiladu mwy o dai Cyngor a byddai hyn yn gyson â'r rhaglen ehangach i fuddsoddi mewn tai. Byddai hyn yn galluogi'r Awdurdod i ganolbwyntio ar y datblygiad arfaethedig yn ward Tyisha, y Pentref Llesiant, canol trefi a threfi gwledig.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai fod yr Awdurdod yn ymwybodol bod cyflwyno Credyd Cynhwysol wedi rhoi her i denantiaid o ran rheoli eu cyllidebau misol, ond roedd  y cynllun gweithredu a roddwyd ar waith gan yr Awdurdod wedi lleihau'r effaith cymaint â phosibl iddynt. I gloi, mynegodd y farn, er bod hwn yn gyfnod cyffrous, ei fod hefyd yn gyfnod o ansicrwydd i denantiaid. Fodd bynnag, roedd yr Awdurdod wedi gallu cadw'r codiad rhent ar gyfer 2020/21 ar gyfartaledd o 2.7% ac ni ddylid dibrisio'r cyflawniad hwn.  Yn ystod y flwyddyn nesaf, byddai angen i'r Awdurdod sicrhau eglurder gan Lywodraeth Cymru ynghylch blaenoriaethau ariannol y dyfodol o ran cynnal y safonau presennol, cyflwyno safonau newydd i gefnogi'r agenda datgarboneiddio ac adeiladu cartrefi fforddiadwy i'r rhai mewn angen. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

10.1

bod gweledigaeth  Cartrefi Sir Gaerfyrddin a Mwy, ynghyd â'r rhaglen gyflawni ac ariannol dros y tair blynedd nesaf, yn cael eu cadarnhau;

10.2

cadarnhau cyflwyno Cynllun Busnes 2020/23 i Lywodraeth Cymru;

10.3 

nodi'r bwriad i ddatblygu safon newydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin drwy barhau i symud tuag at dai carbon niwtral, rhai presennol a rhai newydd, gan sicrhau bod cadwyn gyflenwi, swyddi a chyfleoedd hyfforddi newydd yn cael eu darparu.

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau