Agenda item

CYFRIF CYLLIDEB REFENIW TAI 2020/21 - 2021/22 A LEFELAU RHENTI TAI 2022/23 - REFENIW A CHYFALAF

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr K. Broom, J. Edmunds, A.C. Jones, A.G. Morgan, D. Price, G.B. Thomas wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 24 Chwefror 2020 (gweler Cofnod 8), wedi ystyried Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2020/21 tan 2022/23 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2020/21 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor. Nodwyd bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried a'i gymeradwyo hefyd gan y Pwyllgor Craffu – Cymunedau yn ei gyfarfod ar 5 Chwefror 2020, fel rhan o'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb.

 

Roedd yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd yn rhan o Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ar gyfer y dyfodol. Nodwyd bod y buddsoddiad arfaethedig yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni Safon Tai Sir Gaerfyrddin erbyn 2015 (i'r cartrefi hynny lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith wedi'i wneud), wedi darparu'r buddsoddiad i gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy, ac wedi parhau i fuddsoddi yn Ymrwymiad i Dai Fforddiadwy'r Cyngor.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod buddsoddiad cyfalaf o tua £230m wedi darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin i denantiaid a gwariwyd £49m pellach ar gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ar gyfer eiddo a thenantiaid.  Dros y 3 blynedd nesaf rhagwelwyd y byddai tua £49m ymhellach yn cael ei wario ar gynnal a gwella ein stoc tai. Ychwanegodd y byddai £42m yn cael ei ddarparu dros y 3 blynedd nesaf i gefnogi'r rhaglen tai fforddiadwy a byddai hyn yn gweld cynnydd yn y cyflenwad o dai fforddiadwy ledled y sir.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, ers 2015, ei fod yn ofynnol i'r Awdurdod fabwysiadu Polisi Cysoni Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a oedd yn golygu bod y cynnydd arfaethedig mewn rhent yn cael ei ragnodi gan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, a thrwy hynny, ddarparu dosbarthiad mwy teg o'r rhenti ar gyfer tenantiaid y sector cymdeithasol.  Roedd y polisi wedi dod i ben yn 2018/19 a mabwysiadwyd polisi dros dro ar gyfer 2019/20 am flwyddyn.  Roedd Llywodraeth Cymru bellach wedi datblygu polisi newydd i'w roi ar waith yn 2020/21. Roedd y polisi interim hwnnw'n caniatáu i Awdurdodau Lleol o fewn eu band rhent targed gynyddu rhent yn ôl CPI+1% yn unig. Roedd hefyd yn caniatáu i lefel y rhent ar gyfer tenantiaid unigol godi o hyd at £2 ychwanegol ar ben CPI+1% ar gyfer cysoni rhenti, ar yr amod na fyddai cyfanswm yr incwm rhent a gasglwyd gan y landlord cymdeithasol yn fwy na CPI+1%. Byddai'r polisi newydd yn gymwys am 5 mlynedd o 2020/21 ac roedd yn cynnwys meini prawf ychwanegol ynghylch bodlonrwydd tenantiaid, cyfleusterau amwynder, lleihau achosion o droi allan ac effeithlonrwydd ynni. Roedd hefyd yn nodi bod angen datgarboneiddio'r stoc tai cymdeithasol, a fyddai'n fuddsoddiad mawr i awdurdodau.

 

 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

9.1

bod y rhent tai cyfartalog yn cael ei gynyddu yn unol â Pholisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru:-

a)    Bod cynnydd o 2.53% yn cael ei wneud i renti eiddo sydd ar y targed

b)   Eiddo lle mae rhent yn is na’r rhent targed, bydd y rhent yn cynyddu 2.53% yn ogystal a dilyniant uchafswm o £1;

c)    Bydd y rhenti hynny sy'n uwch na'r targed yn cael eu rhewi hyd nes eu bod yn unol â'r targed

d)   Gan gynyddu rhent tai ar gyfartaledd o 2.7% neu £2.36.

9.2

Gweithredu'r cynnydd mwyaf posibl o £1.00 ar gyfer rhenti sy'n is na'r rhenti targed, hyd nes y cyrhaeddir y rhenti targed.

9.3

Cadw rhent garejis yn £9.00 yr wythnos a sylfeini garejis yn £2.25 yr wythnos.

9.4

Rhoi'r polisi ynghylch Taliadau am Wasanaethau ar waith er mwyn sicrhau bod y tenantiaid sy'n cael gwasanaethau penodol yn talu am y gwasanaethau hynny.

9.5

Cynyddu'r taliadau am ddefnyddio gwaith trin carthffosiaeth y Cyngor, yn unol â'r cynnydd mewn rhenti.

9.6

Cymeradwyo Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2020/2021 (cyllidebau dangosol yw rhai 2021/22 a 2022/23), fel y nodwyd yn Atodiad B.

9.7

Bod y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig a'r cyllido perthnasol ar gyfer 2020/21, a'r gwariant mynegiannol a bennwyd ar gyfer y blynyddoedd i ddod o 2021/22 i 2022/23, fel y'u nodwyd yn Atodiad A, yn cael eu cymeradwyo.

 

Dogfennau ategol: