Agenda item

CWESTIWN GAN MS G JENKINS I'R CYNGHORYDD C CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

“Yn ôl yr Athro Syr Ian Boyd, cyn brif ymgynghorydd gwyddonol i lywodraeth y DU, mae angen trawsnewid hanner o dir ffermio'r genedl yn goetiroedd ac yn gynefinoedd naturiol i frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd ac adfer bywyd gwyllt. Yn y cyd-destun hwnnw, pa gynlluniau sydd gan y Cyngor ar gyfer annog bywyd gwyllt?"

 

Cofnodion:

"Yn ôl yr Athro Syr Ian Boyd, cyn brif ymgynghorydd gwyddonol i lywodraeth y DU, mae angen trawsnewid hanner o dir ffermio'r genedl yn goetiroedd ac yn gynefinoedd naturiol i frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd ac adfer bywyd gwyllt. Yn y cyd-destun hwnnw, pa gynlluniau sydd gan y Cyngor ar gyfer dad-ddofi tir?"

Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

“Yr ateb syml yw nad oes gennym gynlluniau ar gyfer dad-ddofi tir, ond rydym yn edrych ar opsiynau ar gyfer creu coetir ar dir rydym yn berchen arno a thir rydym yn ei reoli, ac mae'r Cyngor Sir eisoes yn rheoli sawl safle ar draws y sir yn bennaf ar gyfer bioamrywiaeth, o Warchodfa Natur Leol Morfa Berwig ar gyrion Llanelli, i Barc Natur Lleol Ynys Dawela ym Mrynaman.

Fel rhan o'i ddyletswydd Adran 6 Deddf yr Amgylchedd, disgwylir i'r Cyngor ystyried effaith ei arferion rheoli tir ar yr amgylchedd naturiol a sut y gellir eu haddasu i gynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau.

Mae'r CDLl Diwygiedig sydd ar y gweill, yr ydym wedi clywed amdano eisoes y bore yma gan y Cynghorydd Mair Stephens, hefyd yn rhoi cymorth i gynigion ar gyfer creu a gwarchod coetiroedd newydd, coedwigoedd, lleiniau o goed a choridorau o goed lle maen nhw'n ceisio hyrwyddo cyflawni uchelgeisiau datgarboneiddio a newid yn yr hinsawdd yn genedlaethol a lleol.

Felly yr ateb syml i'ch cwestiwn yw nad oes cynlluniau gennym, ond rydym yn gwneud llawer o bethau cyffrous eraill i edrych ar ddatblygu coetir ac yn y blaen.”

Gofynnodd Ms Jenkins y cwestiwn atodol canlynol:-

"Rwy'n gwerthfawrogi eich gonestrwydd wrth ddweud nad oes gennych unrhyw gynlluniau, ond os yw cynigion y CDLl Diwygiedig yn sôn am ddad-ddofi mewn ffordd, hynny yw, rhagor o goetiroedd ac ati, oni fyddai'n briodol ystyried y 24 fferm, y 22 parc, yn ogystal â'r tir ymylol sydd gennych fel Cyngor a gwneud cynlluniau i ddad-ddofi'r rheiny? "

Ymatebodd y Cynghorydd Campbell fel a ganlyn:-

"Rwy'n credu bod yna drafodaeth fawr i'w chael ynghylch dad-ddofi a beth yw ystyr dad-ddofi, mae'n golygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Rydym i gyd yn gwybod am syniad George Monbiot o ddad-ddofi, sef ail-gyflwyno anifeiliaid gwyllt fel bleiddiaid, eirth a baeddod gwyllt. I lawer o bobl, dyna beth yw ystyr dad-ddofi. Yn bersonol, ni fyddwn i'n cefnogi hynny oherwydd ble rydym wedi cyrraedd. Mae'r ecosystem wedi datblygu i'w phwynt presennol yn sgil gwarchod y cydbwysedd bregus iawn hwnnw rhwng y sawl sy'n ffermio, y sawl sy'n gwarchod y tir, a'r rheiny sydd am newid natur ein tir, ac rwy'n meddwl mai cadw'r cydbwysedd hwnnw yw'r hyn sydd angen i ni ei wneud. Mae gennym gymunedau byw i'w gwarchod yma yn Sir Gaerfyrddin ochr yn ochr â'n cymunedau bywyd gwyllt, ac mae'r cydbwysedd rhyngddynt wastad wedi cael ei gynnal gan warcheidwaid y tir, sef ein ffermwyr, y mae eu profiad o gynnal cynhyrchiant bwyd o safon ar y cyd â diogelu ein cynefinoedd naturiol wedi'i ddatblygu dros ganrifoedd a'i drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.  Rwy'n cytuno'n llwyr â chi, o gofio'r tir a'r parcdir sydd gennym, ein bod yn chwilio am ffyrdd o blannu cynifer o goed â phosibl ar y tir hwnnw gan eu bod yn dal ac yn storio carbon, fel y mae nifer ohonoch wedi tynnu sylw ato eisoes. Ond mae angen i ni gael y cydbwysedd hwnnw hefyd rhwng cymunedau byw a choedwigoedd a choetir, a chadw'r cydbwysedd hwnnw yw'r hyn rwyf i am ei bwysleisio. Dim ond un ateb i wrthbwyso carbon yw'r corsydd mawn a'r rhaglenni coedwigo.  Mae gennym syniadau eraill hefyd yr wyf eisoes wedi'u crybwyll yngl?n â phrosiectau ynni adnewyddadwy.  Y peth pwysig yw cael y cymysgedd cywir o brosiectau a fydd yn niwtraleiddio ein hallyriadau carbon, ac yn sicr mae defnyddio'r ffermdir a'r parcdir sydd gennym ar gyfer plannu coed yn rhywbeth y byddwn yn ymchwilio iddo yn y dyfodol. "