Agenda item

CWESTIWN GAN MS D GROOM I'R CYNGHORYDD C CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

“Gan fod y diwydiant amaethyddol yn y DU yn cael cymorthdaliadau mawr, hoffwn ddeall pam mae'r Cyngor Sir yn gwario arian ar ei gynllun 'Symud Sir Gaerfyrddin Ymlaen' i roi hwb i gynhyrchiant bwyd yn ddiwahân er ein bod yn gwybod mai un o'r camau gweithredu mwyaf effeithiol y gall pobl ei gymryd yw bwyta llai o gig.”

 

Cofnodion:

“Gan fod y diwydiant amaethyddol yn y DU yn cael cymorthdaliadau mawr, hoffwn ddeall pam mae'r Cyngor Sir yn gwario arian yn ei gynllun 'Symud Sir Gaerfyrddin Ymlaen' ar roi hwb i gynhyrchiant bwyd yn ddiwahân er ein bod yn gwybod mai un o'r camau gweithredu mwyaf effeithiol y gall pobl ei gymryd yw bwyta llai o gig.”

Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

"Mae bwyta cig yn ddewis personol ac nid wyf am gael dadl foesol gyda chi ynghylch bwyta cig. Fodd bynnag, yr hyn mae adroddiad Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen yn ei gydnabod yw mai'r sector amaethyddiaeth yw asgwrn cefn ein cymunedau gwledig yn Sir Gaerfyrddin, a hynny nid yn unig o ran yr economi ond hefyd o ran ei gyfraniad cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Rydym yn sôn am gymunedau byw.  Rydym hefyd yn sylweddoli fod y modd yr ariennir amaethyddiaeth (ac mae wedi cael cymorthdaliadau mawr fel y dywedoch) yn debygol iawn o newid yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, sef rhywbeth nad oes gan y Cyngor Sir fawr ddim dylanwad arno os o gwbl, ac yn ei dro mae hyn yn debygol o newid amaethyddiaeth yn sylweddol. Os bydd hyn yn effeithio'n negyddol ar y sector amaeth yn y dyfodol, gallai gael effaith niweidiol iawn ar gydnerthedd a chynaliadwyedd ein cymunedau gwledig yn y dyfodol. Nid wyf yn credu bod neb yn y Siambr hon am i hynny ddigwydd i'r cymunedau gwledig unigryw sydd gennym yma yn Sir Gâr ac mewn rhannau eraill o Gymru.

Nid yw’r Cyngor wedi ymrwymo i wario arian ar gynyddu cynhyrchiant bwyd yn ddiwahân, fel y bu i chi ei grybwyll, a byddwn o bosib yn eich herio ynghylch hynny, gan nad ydym erioed wedi awgrymu y byddem yn gwneud hynny'n ddiwahân yn yr adroddiad. Yn hytrach hoffem gefnogi’r sector amaeth lleol i arallgyfeirio a cheisio cyfleoedd newydd o safbwynt cynhyrchiant bwyd cynaliadwy lleol a defnydd tymhorol addas, ar draws ystod eang o fathau o fwyd, boed hynny yn gig, llaeth neu gynnyrch planhigion. Rydym eisiau annog cynnyrch bwyd sydd wedi ei baratoi yn lleol ac sy'n cael ei fwyta yn lleol, ac un o’r pethau rydym yn edrych arno, ar y cyd â phartneriaid sector cyhoeddus eraill yn Sir Gaerfyrddin, yw sut y gallwn addasu ein trefniadau caffael er mwyn i ni allu prynu mwy o gynnyrch lleol gan leihau milltiroedd bwyd a gwastraff yn ein cadwyni cyflenwi.

Gofynnodd Ms Groom y cwestiwn atodol canlynol:-

"Rwy'n cytuno â phopeth rydych wedi'i ddweud a dweud y gwir.  Rwyf am gefnogi'r ffermwyr, ond mae'n amlwg bod y symudiad tuag at feganiaeth yn cyflymu, a bydd hyn yn y pen draw yn ergyd drom i'n cynhyrchwyr da byw.  Tybed a yw'r Cyngor yn ystyried sut i annog a helpu'r ffermwyr hyn i newid o dda byw i gynhyrchu bwyd sy'n ecolegol gadarn drwy neilltuo cyllid ar gyfer cefnogi'r newid hwn? "

Ymatebodd y Cynghorydd Campbell fel a ganlyn:-

"Mae gennym berthynas agos iawn â'r Undebau Ffermwyr yn Sir Gaerfyrddin ac rwy'n credu eu bod nhw'n sylweddoli'n llawn yr heriau sy'n eu hwynebu yn y dyfodol. Maent yn sylweddoli efallai na fyddant yn cael cymorthdaliadau o'r un lefel. Maent hefyd yn sylweddoli bod gwaith caled ganddynt i'w wneud er mwyn ateb heriau newid yn yr hinsawdd. Mae ffermwyr yn gwybod hynny ac maent am arallgyfeirio, ond nid yw hynny'n golygu y dylent roi i'r neilltu yr holl arferion sydd wedi cael eu datblygu dros ganrifoedd lawer a'u trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth. Byddwn yn hapus iawn i drafod hyn gyda chi yn y dyfodol. A thybiaf o ran y pwynt a wnaethoch ynghylch feganiaeth, rwyf yn dal i ystyried hynny yn ddewis personol, ac rwyf yn meddwl bod llawer o'r rhai sy'n dymuno dod yn feganiaid neu sy'n feganiaid yn gwneud hynny am resymau moesol ond hefyd am resymau newid hinsawdd, a'r hyn rydym wedi'i glywed yn y wasg yn ddiweddar sef y cyfeiriad at allyriadau methan. O ran y nwyon t? gwydr sy'n achosi cynhesu byd-eang, mae tri phrif nwy, methan yw un ohonynt, mae hydrogen deuocsid yn un arall, a charbon deuocsid yw'r llall. Mae methan yn diflannu o'r amgylchedd ar ôl tua 12 mlynedd, felly nid dyma'r nwy peryclaf, ond os bydd ffermwyr yn newid eu dulliau a'u harferion ffermio, yna gellir lleihau allyriadau methan felly mae hynny'n drafodaeth, heb fod yn rhy dechnegol, rwy'n hapus i'w chael gyda chi rywbryd eto."