Agenda item

CWESTIWN GAN MS S SYLVAN I'R CYNGHORYDD C CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

“Yn 2018 buom yn wynebu llifogydd ofnadwy yn Sir Gaerfyrddin a oedd wedi arwain at ddigartrefedd a marwolaeth. Dywedir wrthym y bydd amodau tywydd eithafol fel hyn yn arferol o hyn ymlaen, wrth i'r hinsawdd fethu. A oes gan y Cyngor gronfa argyfwng hinsawdd ac asesiad risg ar gyfer yr ardal? Faint o arian sydd yn y gronfa ac a oes modd ei ddefnyddio i weithredu yn erbyn bygythiadau hinsawdd?”

 

Cofnodion:

“Yn 2018 buom yn wynebu llifogydd ofnadwy yn Sir Gaerfyrddin a oedd wedi arwain at ddigartrefedd a marwolaeth. Dywedir wrthym y bydd amodau tywydd eithafol fel hyn yn arferol o hyn ymlaen, wrth i'r hinsawdd fethu. A oes gan y Cyngor gronfa argyfwng hinsawdd ac asesiad risg ar gyfer yr ardal? Faint o arian sydd yn y gronfa ac a oes modd ei ddefnyddio i weithredu yn erbyn bygythiadau hinsawdd?”

 

Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

Nodwyd bod llifogydd arfordirol difrifol yn un o'r risgiau uchaf yn Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed Powys. Mae'r Fforwm hwnnw'n cynnwys llawer o gyrff cyhoeddus ac asiantaethau a gwasanaethau eraill hefyd. Mae wedi datblygu Matrics Risg i nodi'r gwahanol risgiau sy'n gysylltiedig â gwahanol argyfyngau a digwyddiadau.  Yn sicr, mae llifogydd arfordirol difrifol yn cael eu nodi'n risg "uchel iawn" ac mae mathau eraill o dywydd garw fel stormydd a llifogydd afonol yn sgorio'n "uchel" ar y Matrics hefyd. Felly mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin, ynghyd â'n partneriaid yn Fforwm Lleol Cymru Gydnerth, gynlluniau wrth gefn i ymateb i'r mathau hyn o argyfyngau.  Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin hefyd drefniadau cadarn ar gyfer arwain y gwaith o adfer cymunedau yn dilyn trychinebau, ac mae angen i ni gofio'r gwaith gwych wnaeth ein tîm o swyddogion yn dilyn Storm Callum, pan gafwyd llifogydd mewn sawl ardal yn Sir Gâr, ac rwy'n meddwl yn benodol am dref Caerfyrddin ei hun a phentref Pont-tyweli lle cafwyd llifogydd mewn nifer o gartrefi a busnesau a lle bu pobl yn ddi-gartref am beth amser. Felly mae gennym dîm cydnerth sy'n gallu ymateb yn gyflym i argyfyngau o'r fath.

Mae ail ran eich cwestiwn yn gofyn am gyllid. Wel, nid oes cyllid uniongyrchol gan y Cyngor i ymdrin â digwyddiadau naturiol fel hyn, felly defnyddir cyllidebau adrannol neu gronfeydd wrth gefn y Cyngor i ymdrin â'r digwyddiadau cychwynnol a'r broses adfer ddilynol.

Ar gyfer trychinebau mawr, mewn rhai amgylchiadau, gall Llywodraeth Cymru ddarparu rhywfaint o gymorth ariannol o dan y Cynllun Cymorth Ariannol Brys.  Mae'r cynllun hwn yn gwneud taliadau dewisol ac yn rhoi cymorth ariannol brys i Awdurdodau Lleol. Felly os caiff y cynllun ei weithredu, yn dilyn argyfwng, dim ond canlyniadau refeniw'r argyfwng y bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrin â hwy yn union ar ôl y digwyddiad ei hun. Yn ogystal, bydd disgwyl i'r Awdurdodau yr effeithir arnynt dalu'r holl wariant cymwys hyd at lefel ei drothwy.  Caiff trothwyon eu cyfrifo gan Lywodraeth Cymru ar 0.2% o ofynion cyllideb flynyddol yr Awdurdod ac maent yn berthnasol i'r flwyddyn ariannol gyfan. Felly os cawn lawer o ddigwyddiadau yn yr un flwyddyn ariannol honno, does dim gwahaniaeth. Cymorth ariannol ar gyfer un flwyddyn ariannol yn unig ydyw ac nid ar gyfer pob digwyddiad. Y trothwy presennol ar gyfer Sir Gaerfyrddin yw £714,000.

 

Gofynnodd Ms Sylvan y cwestiwn atodol canlynol:-

"Meddwl ydw i, ydych chi'n credu y byddai'n ddoeth cael cronfa ar wahân?"

 

Ymatebodd y Cynghorydd Campbell fel a ganlyn:-

Mae'n sicr yn rhywbeth y gallem ei ystyried ac yn rhywbeth na fyddem yn ei ddiystyru ond oherwydd bod yr argyfyngau yn aml iawn yn golygu gweithredu gan lawer o wahanol adrannau yn y Cyngor, a bod gan bob adran gyllideb benodedig, mae'n anodd iawn dyrannu arian o un gyllideb benodol gan fod cynifer o gyllidebau'n ymwneud â'r peth. Byddai'n anodd iawn yn ymarferol i wneud hynny. Mae'n rhywbeth y gallem yn sicr edrych arno ond rwy'n credu ein bod yn ymateb yn dda iawn ar hyn o bryd oherwydd rydym yn defnyddio ein cronfeydd wrth gefn ac yn defnyddio'r gyllideb sydd gennym, ac os oes angen rydym yn defnyddio Cyllid Argyfwng Llywodraeth Cymru hefyd. Felly nid ydym wedi methu delio ag unrhyw argyfwng hyd yn hyn, ond mae'n sicr yn rhywbeth y byddem yn ei ystyried efallai.”

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau