Agenda item

PRAESEPT YR HEDDLU

Cofnodion:

Rhoddodd y Panel ystyriaeth i adroddiad y Comisiynydd ar braesept arfaethedig yr heddlu am 2020/21. Dywedwyd wrth y Panel y gallai wneud y penderfyniad naill ai i gymeradwyo, gwrthod, neu roi feto i'r praesept arfaethedig yn y cyfarfod, ac ar ôl hynny byddai'n rhaid iddo roi gwybod i'r Comisiynydd am ei benderfyniad. Gallai'r penderfyniad i gymeradwyo neu wrthod gael ei wneud gan fwyafrif syml ond roedd yn rhaid i bleidlais feto gael ei gwneud gan fwyafrif o ddwy ran o dair o aelodaeth y Panel cyfan. Byddai hyn yn golygu y byddai'n rhaid i ddeg aelod o'r panel oedd yn bresennol yn y cyfarfod gefnogi'r feto. Dywedwyd pe bai'r Panel yn dewis rhoi feto, na fyddai'r Comisiynydd yn gallu cyflwyno'r praesept arfaethedig a byddai'n rhaid iddo gyhoeddi ymateb i adroddiad y Panel, gan nodi praesept arfaethedig arall, erbyn 21 Chwefror 2020. Ni fyddai'r Panel yn gallu rhoi feto i'r praesept arfaethedig diwygiedig, dim ond penderfynu ei gymeradwyo neu ei wrthod.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Keith Evans (Arweinydd y Panel o ran Cyllid) gyflwyniad ynghylch sut oedd y Panel wedi craffu ar y cynnig ynghylch y praesept gan gynnwys y Cynllun Ariannol yn y Tymor Canolig 2020/21 - 2025/25, y Strategaeth Cronfeydd wrth Gefn a'r Strategaeth Gyfalaf.

 

Dywedodd mai setliad grant 2020/21 ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys oedd £56.617m a bod rhai grantiau yn cael eu neilltuo. Tynnodd yr adroddiad sylw at rai pwysau gweithredol ond ar y cyfan rhoddodd sicrwydd bod y Prif Gwnstabl yn ymdopi â'r rhain yn ddigonol. Dywedodd y Cynghorydd Evans hefyd fod y gostyngiad yn y grant cyfalaf a'r ddibyniaeth ar gronfeydd wrth gefn ar gyfer buddsoddiadau mewn ystadau a seilwaith hanfodol y fflyd a TG yn rhoi pwysau cynyddol ar y gyllideb refeniw, a rhagwelwyd y byddai'r cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio yn gostwng i £6.642m erbyn 2024/25.

 

Dywedodd y Cynghorydd Evans ei fod yn cymeradwyo'r adroddiad, a oedd yn cynnig cynyddu'r praesept £1 bob mis ar eiddo Band D sy'n cyfateb i gynnydd o 4.83% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Diolchodd i'r Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl am drefnu seminar cyllid a oedd yn cefnogi craffu ar yr adroddiad.

 

Dywedodd y Comisiynydd y byddai'r cynnydd arfaethedig yn y praesept yn cefnogi newidiadau yn y gweithlu a oedd yn cyfateb i 42 o swyddogion heddlu cyfwerth ag amser llawn ychwanegol a 24 aelod ychwanegol o staff cymorth cyfwerth ag amser llawn a fyddai'n cael effaith o £2.571m o ran y gyllideb. Byddai'r newidiadau hyn yn y gyllideb yn cefnogi buddsoddiadau o ran cysylltu â'r cyhoedd a mentrau diogelu rhag twyll.

 

Diolchodd y Panel i'r Cynghorydd Evans a'r Comisiynydd am eu hadroddiadau manwl, llawn gwybodaeth.

 

Mewn ymateb i ymholiadau ynghylch rheoli'r gweithlu, dywedodd y Comisiynydd fod staff cymorth yn cael eu defnyddio'n strategol i ryddhau amser y swyddogion heddlu a chynyddu eu presenoldeb mewn cymunedau lleol. Dywedodd fod yr amserlen ar gyfer recriwtio swyddogion heddlu yn cynnwys cynlluniau i recriwtio ym mis Mawrth a mis Medi, yn ogystal â derbyn trosglwyddeion ym mis Mehefin, gan gynyddu nifer y swyddogion heddlu i 1,180 erbyn diwedd 2020/21. Roedd yn hyderus fod gan yr Heddlu ddigon o adnoddau i hyfforddi swyddogion ychwanegol.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Comisiynydd fod Heddlu Dyfed-Powys wedi hyfforddi heddluoedd eraill i greu cyllid, ond bod hyn yn ddibynnol ar y galw a'r capasiti ac felly nid yw'n ffrwd cyllid y gallai'r Heddlu ddibynnu arno.

 

Gwnaed ymholiad ynghylch ymgysylltu â'r cyhoedd. Dywedodd y Comisiynydd fod gweithredu strategaeth troseddau gwledig newydd a'r ddesg agored i niwed wedi sicrhau gwelliannau o ran rhoi gwybod am droseddau a'u cofnodi.

 

Mewn ymateb i ymholiad am fuddsoddiadau i liniaru newid hinsawdd, dywedodd y Comisiynydd fod tanwariant cyllideb y llynedd wedi'i roi mewn cronfa cynaliadwyedd a bod yr Heddlu wedi cael 14 cerbyd trydan yn ddiweddar. Byddai'r seilwaith gwefru trydanol yn cael ei gefnogi gan fuddsoddiadau gwerth £350k dros y pum mlynedd nesaf.

 

Gofynnwyd pam roedd y cynnydd ym mhraesept Dyfed-Powys yn uwch na'r codiadau praesept yn Lloegr, sef £10 y flwyddyn ar gyfartaledd. Dywedodd y Comisiynydd fod gwahaniaethau o ran capio'r dreth gyngor, cyfraniadau pensiwn a'r uchelgais o wella gwasanaethauy wedi dylanwadu ar y penderfyniad. Dywedodd hefyd mai'r cynnydd arfaethedig hwn yn y praesept oedd yr isaf yng Nghymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo cynnig y Comisiynydd i gynyddu praesept Heddlu Dyfed-Powys 4.83% am 2020/21.

 

Dogfennau ategol: