Agenda item

GWASANAETH TALU A THEITHIO AR FWS YSGOL

Cofnodion:

Derbyniodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad diweddaru ar Wasanaeth Talu a Theithio ar Fws Ysgol y Cyngor ac effaith y newid yn neddfwriaeth y llywodraeth ar ddarpariaeth cludiant bysiau ysgol y Cyngor, gan gynnwys ei bolisi seddi gwag. Cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol at y tri argymhelliad yn yr adroddiad a oedd yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd eu hystyried, a chynigiwyd y dylid gwella argymhellion 1 a 3 i ddarllen fel a ganlyn:

 

1)    Gwelliant i Bolisi Seddi Gwag yr Awdurdod i hepgor y tâl blynyddol cyfredol o £50, o 1 Medi, 2019 ymlaen.

3)    Sefydlu Panel Ymgynghorol i'r Bwrdd Gweithredol sy'n cynnwys 6 aelod, ar sail drawsbleidiol, ynghyd ag Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd, i edrych ar yr holl faterion sy'n ymwneud â Chludiant o'r Cartref i'r Ysgol er mwyn adrodd yn ôl i'r Bwrdd Gweithredol

 

Cyfeiriwyd at raglen newyddion ddiweddar pan ddywedodd Lee Waters A.C. fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dehongli deddfwriaeth y Llywodraeth yn wahanol i awdurdodau lleol eraill a cheisiwyd eglurhad ar gywirdeb y datganiad hwnnw. Cadarnhaodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd nad oedd yr Awdurdod wedi dehongli'r ddeddfwriaeth yn wahanol i unrhyw awdurdod lleol arall.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd D. Cundy, yn unol â Rheol Gweithdrefn y Cyngor 11, at yr effaith yr oedd y newid mewn deddfwriaeth yn ei chael ar tua 500 o ddisgyblion yn Sir Gaerfyrddin a gofynnodd "A fyddai'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn cytuno â mi y dylai'r adolygiad y cyfeirir ato fel argymhelliad yn yr adroddiad ddechrau ar unwaith gan ymgynghori a'r holl gynghorwyr a gweithio gyda'n gilydd, yn cefnogi rhieni ym mha bynnag ward i gael effaith ar unwaith a sicrhau ein bod yn dileu'r llwybrau anniogel ac yn helpu i ddarparu cludiant addas a diogel yn ogystal ag edrych i’r dyfodol o’r newydd o ran darparu cludiant mewnol i'n holl blant”

 

Mewn ymateb, atgoffwyd y Bwrdd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd am hanes y sefyllfa bresennol o ran y gwasanaeth talu a theithio ar fws ysgol, a oedd wedi codi o ganlyniad i benderfyniad yr Adran Drafnidiaeth i ddileu'r eithriad llawn o ran cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a’r Rheoliadau Mynediad i Gerbydau'r Gwasanaeth Cyhoeddus ar gyfer cerbydau cludiant ysgol, a'r ymdrechion sydd ar waith yn genedlaethol ac yn lleol i Lywodraeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth i adfer yr eithriad yn llawn. Cyfeiriodd hefyd at ei gwelliant i'r adroddiad yn gofyn am sefydlu panel ymgynghori i'r Bwrdd Gweithredol i edrych ar yr holl faterion sy'n ymwneud â Chludiant o'r Cartref i'r Ysgol a fyddai'n adrodd yn ôl i'r Bwrdd Gweithredol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, pe bai'r drafodaeth barhaus rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru yn methu ag arwain at ailgyflwyno'r eithriad llawn presennol o ran cydymffurfio â'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd/Rheoliadau Mynediad i Gerbydau'r Gwasanaeth Cyhoeddus ar wasanaethau cludiant i'r ysgol, bod y Cyngor yn cymeradwyo'r mesurau canlynol:-

 

1.    Gwella Polisi Seddi Gwag yr Awdurdod i hepgor y tâl blynyddol cyfredol o£50, o 1 Medi 2019;

2.    Bod yr Awdurdod yn parhau i fynd ar drywydd Llywodraeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth i newid y defnydd o'r Rheoliadau Mynediad i Gerbydau’r Gwasanaeth Cyhoeddus er mwyn caniatáu i weithredwyr bysiau barhau i ddefnyddio bysiau ar lwybrau bysiau ysgol a weithredir ar sail fasnachol;

3.    Bydd Panel Ymgynghorol y Bwrdd Gweithredol yn cael ei sefydlu, gan gynnwys 6 aelod, ar sail drawsbleidiol, ynghyd ag Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd, i edrych ar yr holl faterion sy'n ymwneud â chludiant o'r Cartref i'r Ysgol gan adrodd yn ôl i'r Bwrdd Gweithredol.

 

 

Dogfennau ategol: