Agenda item

CYNLLUN BUSNES DRAFFT ADRAN CYMUNEDAU 2020 - 2023

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd K. Lloyd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach].

 

Aeth y Pwyllgor ati i ystyried Cynllun Busnes Drafft 2020 – 2023 yr Adran Cymunedau mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny sydd o fewn ei faes gorchwyl:

 

·         Gwasanaethau Gofal a Chymorth

·         Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu a Diogelu

·         Gwasanaethau Integredig

·         Comisiynu Gwasanaethau.

 

Nodwyd y byddai rhagor o waith yn cael ei wneud ar y cynllun busnes drafft ar ôl i aelodau'r Pwyllgor a'r Bwrdd Gweithredol gynnig sylwadau ac ymgysylltu.  Hefyd, roedd adborth gan grwpiau o staff hyd yn hyn wedi nodi y byddai mwy o bwyslais ar gamau gweithredu integredig o ran llesiant drwy gynlluniau is-adrannol yn cael ei groesawu ynghyd â sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau drwy ddulliau gwahanol yn wyneb y galw cynyddol.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad: -

 

·         Gofynnwyd pa waith oedd yn cael ei wneud ar ddatblygu'r agenda atal.

Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig fod yna ffocws ar atal a hybu annibyniaeth a bod yr Awdurdod yn gwneud cryn dipyn o waith yn y maes hwn. Ymhlith yr enghreifftiau a roddwyd roedd: defnyddio technoleg, Ymatebwyr o'r Gymuned, gweithio gyda meddygfeydd teulu, y prosiect CUSP, datblygu cynlluniau 'StayWell' ar y cyd â defnyddwyr gwasanaethau, ymgysylltu o'r newydd â'r gymuned a'r fenter 'Couch to 5k'.

·         Gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth yngl?n â'r prosiect CUSP.

Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig fod y prosiect CUSP wedi'i ddechrau tua 18 mis yn ôl mewn cydweithrediad â'r trydydd sector.  Nod y gwasanaeth CUSP oedd cynorthwyo pobl dros 18 oed i gadw eu hannibyniaeth neu fod yn annibynnol. Roedd cyngor a chymorth yn cael ei ddarparu yngl?n â beth bynnag oedd yn bwysig i'r unigolyn, a gallai gynnwys meysydd megis rheoli arian a garddio.  Darperir y gwasanaeth CUSP yn rhad ac am ddim; fodd bynnag, gall rhai defnyddwyr ddewis prynu gwasanaethau cwmnïau preifat yn dilyn atgyfeiriadau. Dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu fod yna ffocws ar yr agenda ataliol a chynghorodd, pan fydd rhywun mewn sefyllfa anodd, bod angen iddynt siarad â rhywun cyn gynted ag y bo modd er mwyn atal pethau rhag gwaethygu.  Roedd y ganolfan argyfwng (Noddfa Min Nos) wedi'i hagor yn Llanelli i helpu'r bobl hyn.

·         Gofynnwyd sut oedd y cyhoedd yn cael gwybod am y gwasanaeth a ddarperir gan y Noddfa Min Nos.

Dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu bod yna lawer o gyhoeddusrwydd wedi bod ac y byddai'r gwasanaeth yn cael ei hysbysebu'n ehangach pan fyddai wedi'i sefydlu'n llawn.  Cynghorwyd y Pwyllgor hefyd fod yna bosibilrwydd y byddai canolfan yn cael ei hagor yng Nghaerfyrddin.

·         Gofynnwyd am y newyddion diweddaraf gyda golwg ar y cydweithio â phartneriaid megis y Bwrdd Iechyd a'r trydydd sector.

Dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu bod pryderon wedi bod yn y gorffennol; fodd bynnag, roedd y partneriaethau bellach yn gweithio'n dda.  Cynghorwyd y Pwyllgor fod Sir Gaerfyrddin yn ymwneud i raddau helaeth â'r rhaglen drawsnewid a'i bod yn gweithio'n agos gyda'r Bwrdd Iechyd.  Er bod y gwaith yn mynd rhagddo, nid oedd yn digwydd mor gyflym ag y gobeithiwyd; fodd bynnag, roedd y prosiectau yn cyd-fynd â'r weledigaeth drawsnewid o gael un pwynt mynediad ar gyfer Iechyd Meddwl. Roedd ariannu ar y cyd yn peri her ond roedd pob parti wedi gweithio gyda'i gilydd i ddatrys hyn.  Nodwyd bod cryn gynnydd wedi'i wneud er gwaethaf yr heriau.

·         Gofynnwyd am y diweddaraf ynghylch argaeledd gwelyau acíwt, gan fod y prinder cyfredol ledled Cymru yn rhoi mwy o bwysau ar gleifion, gofalwyr a staff. 

Dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu nad oedd gwelyau acíwt bob amser yn addas ar gyfer unigolion; fodd bynnag, cydnabuwyd bod angen y gwelyau hyn. Roedd y mater hwn yn cael ei godi'n gyson gyda'r Bwrdd Iechyd ac roedd y Noddfa Min Nos yn ymchwilio i atebion eraill i'r broblem.

·         Codwyd y mater o fod gwasanaeth yr heddlu yn delio â nifer gormodol o faterion lles.

Cynghorwyd y Pwyllgor bod y ffigurau wedi gostwng a bod data ar gael i gefnogi hyn.  Cydnabuwyd nad bod yn nalfa'r heddlu oedd y lle mwyaf addas; fodd bynnag, pe na fyddent yn y ddalfa byddai hyn hefyd yn achosi problemau i'r unigolyn hyd nes y gellid darparu gwasanaeth mwy addas.

·         Un o'r risgiau a nodwyd yn y cynllun busnes oedd bod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi'r gorau i gyfrannu at leoliadau S.117 mewn gofal preswyl.  Gofynnodd y Pwyllgor faint o broblem oedd hyn i'r Awdurdod.

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd fod yna gytundeb cyfreithiol ar draws Cymru yr oedd y Byrddau Iechyd yn cyfrannu iddo. Fodd bynnag, yn Sir Gaerfyrddin roedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi'r gorau i'w gyfraniad o 50% tuag at wasanaethau gofal preswyl i bobl h?n.  Roedd trafodaethau'n mynd rhagddynt gyda'r Bwrdd Iechyd.  Dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu bod y Bwrdd Iechyd yn dadlau bod y cymorth yn cael ei ddarparu gan nyrsys sy'n ymweld, ac nad oedd angen lleoliadau preswyl.  Y gobaith oedd y gellid cywiro'r mater hwn trwy gymryd camau cyfreithiol.

·         Cyfeiriwyd at y Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus a chyfradd y bobl oedd yn cael eu cadw yn yr ysbyty wrth aros am ofal cymdeithasol. Gofynnwyd a oedd hyn oherwydd nifer y swyddi gwag ymhlith y staff.

Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig nad swyddi gwag oedd yr achos ac eglurodd fod yr amserau o ran sut oedd y ffigurau'n cael eu cadarnhau yn dangos ciplun yn unig ar gyfer y cyfnod hwnnw. Rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor fod gan yr Awdurdod lif cleifion da o'r ysbyty ac ar hyn o bryd dim ond un claf oedd yn aros am ofal.

·         Mynegwyd pryder ynghylch y canlyniadau bodlonrwydd ar gyfer oedolion oedd yn fodlon ar eu gofal, a hefyd y gofalwyr a deimlai eu bod yn cael eu cefnogi.

Dywedodd y Rheolwr Perfformiad, Dadansoddi a Systemau nad oedd y ffigurau'n wael a bod y ffordd yr oedd rhai o gwestiynau'r arolwg wedi'u geirio yn amwys.  Byddai adroddiad C4 Cwynion a Chanmoliaeth yn darparu mwy o wybodaeth ynghylch canlyniadau'r arolwg.  Roedd adroddiad diweddar Arolygiaeth Gofal Cymru hefyd yn cadarnhau fod defnyddwyr yn hapus â'r gwasanaeth.  Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r gorau i'r arolwg; fodd bynnag, byddai'r Awdurdod yn parhau ag arolygon er mwyn i'r Awdurdod allu monitro a datrys unrhyw faterion.  Nodwyd hefyd bod 84.6% yn ganlyniad bodlonrwydd da.   Atgoffwyd y Pwyllgor bod y tîm comisiynu yn mynd ati i fonitro ac adolygu darpariaethau gofal yn llym.

·         Cyfeiriwyd at gyfarfod diweddar gan y Cyngor Iechyd Cymuned, lle rhoddwyd cyflwyniad ar y broses ryddhau. Gofynnwyd i swyddogion ddarparu rhagor o wybodaeth am y broses.

Cadarnhaodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig fod cynnydd yn cael ei wneud ar y 4 llwybr ac y byddai rhagor o wybodaeth yn cael ei chylchredeg i'r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Cynllun Busnes yr Adran Cymunedau ar gyfer 2020 – 2023 yn cael ei dderbyn.

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau