Agenda item

CAIS AM DRWYDDED SAFLE CLWB RYGBI TRIMSARAN, CANOLFAN PLAS Y SARN, TRIMSARAN, CYDWELI SA17 4AA.

GOHIRIO'R CYFARFOD AC AILYMGYNNULL AM 10:00 Y.B YN CLWB RYGBI TRIMSARAN, TRIMSARAN, CYDWELI, CAERFYRDDIN ER MWYN YMWELD Â'R SAFLE SY'N GYSYLLTIEDIG Â'R CAIS AM DRWYDDED.

 

AR ÔL GORFFEN YR YMWELIAD SAFLE UCHOD BYDD Y CYFARFOD YN CAEL EI OHIRIO AC YN AILYMGYNNULL YN SIAMBR, 3 HEOL SPILMAN, CAERFYRDDIN AM 10.45 Y.B ER MWYN CAEL SYLWADAU AC I BENDERFYNU AR CAIS UCHOD

 

Cofnodion:

Torrodd cyfarfod yr Is-bwyllgor yn 3 Heol Spilman, Caerfyrddin am 9:35am ac ailymgynullodd ar y safle am 10:00am yng Nghlwb Rygbi Trimsaran, Canolfan Plas y Sarn, Trimsaran, Cydweli er mwyn gweld lleoliad yr eiddo ac eiddo'r gwrthwynebwyr mewn cysylltiad â'r cais a gyflwynwyd am drwydded safle. Cafodd yr Is-bwyllgor y cyfle i archwilio cyfleusterau mewnol ac allanol yr eiddo. Ar ôl i'r ymweliad â'r safle ddod i ben, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor yn y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 10.50am i ystyried y cais.

 

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am y weithdrefn ar gyfer y cyfarfod a gynhaliwyd i ystyried cais gan Glwb Rygbi Trimsaran am drwydded safle ar gyfer Clwb Rygbi Trimsaran, Canolfan Plas y Sarn, Trimsaran, Cydweli, SA17 4AA fel a ganlyn:-

 

Cais i Ganiatáu:

 

Cyflenwi alcohol, ffilmiau a pherfformiadau dawns

-

Dydd Llun i Ddydd Sul 11:00 – 02:00

Cerddoriaeth Fyw / Cerddoriaeth a Recordiwyd

-

Dydd Llun i Ddydd Sul 22:00 – 02:00

Oriau Agor:

-

Dydd Llun i Ddydd Sul 08:30 – 02:30

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-

 

Atodiad A – copi o'r cais gwreiddiol

Atodiad B – sylwadau a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu

Atodiad C – sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys

Atodiad D – sylwadau a gyflwynwyd gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd

Atodiad E – sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill

 

Yn ogystal â'r dogfennau uchod, cafodd yr Is-bwyllgor y deunydd ychwanegol canlynol a ddosbarthwyd yn y cyfarfod:

 

·       E-bost gan Mrs H. Waters at Mr Andrew Rees - Swyddog Trwyddedu

·       E-bost gan L. Davies dyddiedig 15 Ionawr, 2020 at yr Awdurdod Trwyddedu mewn ymateb i sylwadau Mrs Waters

·       Cynllun lleoliad safle yn dangos lleoliad Clwb Rygbi Trimsaran mewn perthynas ag eiddo'r gwrthwynebwyr.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad B i'r adroddiad, a dywedodd er nad oedd cwynion wedi dod i law mewn perthynas â safle'r cais, fod un g?yn wedi dod i law yn 2017 yn ymwneud â safle presennol y Clwb yn 40 Heol Llanelli, Trimsaran lle'r oedd wedi bod yn gweithredu am nifer o flynyddoedd.

 

Cyfeiriodd at y sylwadau ac awgrymodd yr amodau trwydded a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys ac Iechyd y Cyhoedd (gweler Atodiadau C a D), a dywedodd fod yr amodau hynny wedi cael eu derbyn gan yr ymgeisydd a'i fod yn cytuno arnynt. Hefyd, newidiodd yr ymgeisydd yr oriau gweithredu ar ôl derbyn yr amodau fel bod y safle yn cau awr yn gynharach na'r amser y gwnaed y cais amdano'n wreiddiol h.y. yr holl weithgareddau trwyddedadwy, gan gynnwys peidio â gwerthu alcohol ar ôl 01:00am a chau'r safle am 01:30am.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at yr amodau awgrymedig a gynigiwyd gan yr Heddlu a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd, a'r ffaith bod yr ymgeisydd wedi cytuno arnynt. Dywedodd, os oedd yr Is-bwyllgor am ganiatáu'r cais, yr ystyriwyd ei bod yn briodol i'r amodau hynny gael eu hatodi i'r drwydded ynghyd â'r amrywiad y cytunwyd arno o ran yr oriau gweithredu fel bod yr holl weithgareddau trwyddedadwy, gan gynnwys gwerthu alcohol yn dod i ben am 01:00am a bod y safle yn cau am 01:30am.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed.

 

Cafwyd sylwadau gan ddau wrthwynebwr a ailbwysleisiodd y pwyntiau a godwyd yn eu sylwadau ysgrifenedig a oedd yn cynnwys, er enghraifft, yr effaith ar breifatrwydd; s?n a tharfu ar gwsg (gan fod niwsans s?n eisoes yn effeithio arnynt o safleoedd trwyddedig eraill yn yr ardal); ni chynhaliwyd asesiad effaith s?n, petai asesiad yn cael ei gynnal byddent yn tynnu eu gwrthwynebiad yn ôl; angen plannu coed/sgrinio; cwympo coed heb ei awdurdodi; diffyg ymgynghori â chymdogion; ymholiad yngl?n â pherchnogaeth tir a'r angen am hawddfraint. Ystyriwyd hefyd nad oedd y Clwb yn addas i gael trwydded gan ei fod wedi gweithredu'n groes i bolisi'r cyngor ac nad oedd wedi rhoi unrhyw sicrwydd y byddai'n ystyried ei gymdogion.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r gwrthwynebwyr ynghylch eu sylwadau.

 

Dywedodd yr ymgeiswyr, mewn ymateb i'r materion a godwyd, y byddai'r Clwb fel arfer ar agor yn hwyr unwaith y mis yn unig ar ddydd Sadwrn ac y byddai'n cau am 11:30pm fel arfer, nid oedd ar agor ar ddydd Mercher, ond gallai fod ar agor yn y prynhawn weithiau. Dim ond un goeden oedd wedi cael ei chwympo, roedd rhai eraill wedi cael eu tocio a'u tacluso er mwyn hwyluso mynediad i offer gosod piblinell. Nid oedd bwriad i gwympo rhagor o goed heblaw am y rhai oedd yn agos at y cae chwarae o bosibl. O ran s?n, roedd ffenestri'r Clwb yn rhai gwydr dwbl ac nid oedd y cymdogion wedi gofyn i'r Clwb blannu coed at ddibenion sgrinio. Fodd bynnag, gellid crybwyll y pwynt hwn wrth Bwyllgor y Clwb. Nid oedd yn ofynnol i'r Clwb gynnal asesiad s?n fel rhan o'r caniatâd cynllunio a roddwyd yn 2016. Pe bai'r asesiad wedi bod yn ofynnol, ni ellid fod wedi'i gynnal nes i'r Clwb agor. Nid oedd y Clwb wedi cael unrhyw broblemau o ran cymdogion ei safle presennol lle'r oedd wedi bod yn gweithredu ers 1967. Er hynny, bu digwyddiad yn 2017 a gafodd sylw ar y pryd.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r ymgeisydd ynghylch y sylwadau a wnaed.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o ddatganiad polisi trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref:-

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a oedd wedi ei rhoi gerbron yr Is-bwyllgor, fod y cais am drwydded safle ar gyfer Clwb Rygbi Trimsaran yn cael ei ganiatáu, wedi'i ddiwygio, a hynny'n unol â'r amodau trwyddedu yr oedd yr ymgeiswyr a'r awdurdodau cyfrifol wedi cytuno arnynt.

 

RHESYMAU

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;

 

  1. Nid oedd y safle wedi cael trwydded o'r blaen
  2. Roedd y safle'n agos at eiddo preswyl
  3. Nid oedd tystiolaeth wedi cael ei chyflwyno yn ymwneud â throseddau ac anhrefn sy'n gysylltiedig ag alcohol neu niwsans cyhoeddus yng nghyffiniau'r safle
  4. Dim ond 1 digwyddiad o ran problemau oedd wedi cael ei gofnodi yn safle presennol y Clwb
  5. Nid oedd yr un o'r awdurdodau cyfrifol yn gwrthwynebu'r cais
  6. Roedd yr awdurdodau cyfrifol a gyflwynodd sylwadau yn credu y gallai'r amcanion trwyddedu gael eu hyrwyddo drwy osod amodau ychwanegol ar y drwydded safle
  7. Roedd yr ymgeisydd wedi derbyn yr amodau trwydded ychwanegol a gynigiwyd gan yr awdurdodau cyfrifol ac roedd wedi lleihau'r oriau gweithredu arfaethedig

 

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr awdurdodau cyfrifol gan ei bod yn ofynnol gwneud hynny yn ôl y gyfraith.

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad oedd pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid trwydded, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallai roi ystyriaeth briodol iddynt.

 

Roedd yr Is-bwyllgor hefyd wedi cydnabod nad oedd y cais hwn yn ailgyflwyno'r cais cynllunio ac nad oedd ystyriaethau cynllunio yn faterion a allai'r Is-bwyllgor eu hystyried.

 

Cydnabu'r Is-bwyllgor bryderon y preswylwyr lleol a oedd wedi gwrthwynebu'r cais ac ystyriwyd bod y pryderon hynny yn rhai gwirioneddol. Fodd bynnag, ystyriwyd nad oedd y dystiolaeth a gyflwynwyd i gefnogi'r pryderon hynny yn ddigonol i fod yn drech na barn gwasanaethau iechyd y cyhoedd a'r heddlu na fyddai'r cais yn tanseilio'r amcanion trwyddedu pe bai'r amodau ychwanegol yn cael eu gosod ar y drwydded.

 

Felly, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon y byddai caniatáu'r cais yn amodol ar yr amodau hynny yn briodol i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu ac yn ymateb cymesur i'r materion a nodwyd.

 

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau