Agenda item

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2020/21 TAN 2022/23

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw 2020/21 - 2022/23 (Atodiad A) a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 6 Ionawr 2020.  Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2020/2021, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2021/2022 a 2022/2023. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion gwariant y swyddogion, gan ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 16 Rhagfyr 2019.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol er bod y setliad dros dro a gyhoeddwyd yn cynrychioli cynnydd o 4.3% fel cyfartaledd ledled Cymru ar setliad 19/20, fod Sir Gaerfyrddin wedi cael cynnydd o 4.4% (£11.5m) yng ngrant Llywodraeth Cymru gan gymryd y Cyllid Allanol Cyfun i £274.159m ar gyfer 2020/21. Roedd y cynnydd hwn yn dilyn rhai trosglwyddiadau i'r cyllid ar gyfer Pensiynau a Chyflogau Athrawon, a oedd yn cael eu hariannu'n rhannol yn unig o fewn y setliad ac yn cyfrif am tua £5.8m o'r cynnydd cyffredinol mewn cyllid.

 

Nododd y Pwyllgor mai cynnydd yn nifer y disgyblion ADY oedd yn cael cludiant a gostyngiad mewn incwm yn sgil ceisiadau cynllunio oedd yn gyfrifol yn bennaf am orwariant Adran yr Amgylchedd a'r amcanestyniad presennol ynghylch y Canlyniadau Refeniw ar gyfer 2019/20.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am Grantiau Penodol i Wasanaethau Llywodraeth Cymru, a ddarparwyd ynghyd â'r setliad dros dro ar lefel Cymru gyfan. Er bod llawer ohonynt wedi aros ar lefel weddol debyg, nododd y Pwyllgor y gostyngiad o £1.8m ar gyfer Cymru gyfan i'r Grant Rheoli Gwastraff Cynaliadwy, a fyddai'n lleihau'r cymorth i gyllidebau gwastraff craidd Sir Gaerfyrddin tua £110k.

 

Yn gryno, roedd y cynigion ynghylch y gyllideb yn cymryd bod yr holl gynigion o ran arbedion yn cael eu cyflawni'n llawn, ynghyd â nodi a chyflawni'r diffyg yng nghynigion arbedion 2021-22 a 2022-23. Byddai angen nodi gostyngiadau pellach mewn costau a/neu gytuno ar gynnydd mwy yn y dreth gyngor er mwyn mantoli'r gyllideb ar gyfer y ddwy flynedd ddiwethaf.  At hynny, o ystyried maint y pwysau a'r bwlch a ragwelir yn y gyllideb, mae'r cynnydd yn y Dreth Gyngor wedi parhau ar y lefelau cynllun ariannol tymor canolig (MTFP) blaenorol o 4.89% ym mhob un o'r tair blynedd ariannol sy'n cynnig rhywfaint o liniaru ar y cynigion ar gyfer arbedion.

 

Hefyd, oherwydd yr oedi cyn cael y setliad dros dro, dywedwyd bod yr effaith ganlyniadol ar gwblhau a chyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru wedi cael ei hoedi i'r un graddau.  Felly, roedd y setliad terfynol i fod i gael ei gyhoeddi ar 25 Chwefror, 2020 a byddai'r Cyngor Sir yn pennu'r gyllideb derfynol ar 3 Mawrth, 2020.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:

 

·       Atodiad A(i) – Crynodeb effeithlonrwydd ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd;

·       Atodiad A(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer Gwasanaethau'r Amgylchedd;

·       Atodiad B – Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd;

·       Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at Atodiad A(ii)-Pwysau Twf. Gofynnwyd a oedd y gwariant blynyddol o £230k ar fagiau i'r biniau bwyd yn gost angenrheidiol? Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod dadansoddiad diweddar o gynnwys bagiau du wedi canfod bod gwastraff bwyd i gyfrif am 25.8% o gynnwys bagiau du yn Sir Gaerfyrddin, ac, yn ôl monitro casglu gwastraff o d? i d?, cyn cyflwyno'r bagiau gwastraff nid oedd y gyfradd ailgylchu gwastraff bwyd yn rhagori ar 50%.

 

Yn ogystal roedd adborth o'r Ymgynghoriad ynghylch Gwasanaeth Ailgylchu Gwastraff y Cartref wedi nodi, o blith yr ymatebwyr ddywedodd nad oeddent yn ailgylchu eu gwastraff bwyd, i 64% ddweud y byddent yn fwy tebygol o wneud hynny pe darperid bagiau. O ganlyniad, er mwyn cefnogi trosglwyddo gwastraff bwyd o'r bagiau du i'r cynllun ailgylchu gwastraff bwyd, cafodd bagiau gwastraff bwyd eu cyflwyno i bob aelwyd yn Sir Gaerfyrddin ym mis Hydref 2019. 

 

O ran costau triniaeth, byddai cynnydd mewn gwastraff bwyd yn arwain at ostyngiad bras yn y gwariant blynyddol cyffredinol ar driniaethau, gan alluogi'r Awdurdod i gyrraedd ei dargedau statudol a thrwy hynny osgoi'r perygl o gael dirwy.

Dywedyd felly fod cost flynyddol y bagiau yn angenrheidiol gan ei bod yn llai na'r gost oedd yn gysylltiedig â thynnu gwastraff bwyd allan o fagiau du a'r effaith ariannol ar y cerbydau gweithredol, gan wella effeithlonrwydd y casgliad a lleihau nifer yr achosion o gerbydau'n torri yn sgil casglu bwyd rhydd.

 

Yn ôl yr Aelodau, ers cyflwyno bagiau ar gyfer biniau gwastraff bwyd, caed adborth cadarnhaol gan breswylwyr, yn enwedig o ran hylendid ac atal fermin. 

 

·       Gan gyfeirio at Atodiad C-Crynodeb Taliadau, mynegwyd pryder bod yr incwm oedd yn cael ei greu drwy ddarparu profion MOT i'r cyhoedd ar gyfradd is na'r gyfradd uchaf a bennwyd gan y DVSA (Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau), yn annheg i'r sector preifat lleol. Gofynnwyd a oedd yr Awdurdod wedi ystyried effaith hyn ar ei gystadleuwyr?


Eglurodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd er mai'r tâl uchaf posibl ar gyfer Dosbarth 4 oedd £54.85 fel y'i pennwyd gan y DVSA, barnwyd bod y pris a bennwyd gan yr Awdurdod yn gystadleuol ar gyfer y farchnad leol, wrth i gystadleuwyr hefyd ostwng eu prisiau.  At hynny, ni wnaeth yr Awdurdod unrhyw atgyweiriadau i gerbydau, dim ond darparu gwasanaeth prawf MOT annibynnol, gan sicrhau prawf gwrthrychol â chanlyniadau diduedd.

 

Mewn ymateb i ymholiad pellach, dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod y tâl am waith cynnal a chadw ar gerbydau llogi/prydlesu yn cael ei godi fesul awr ac ond yn cael ei gynnal fel rhan o drefniadau contract llogi/prydlesu y cyflenwyr.

 

·       Mynegwyd pryder ynghylch y cynnig drafft i gau Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Hendy-gwyn ar Daf.  Gwnaed sylw bod angen dirfawr am y ganolfan ailgylchu yn yr ardal, ac mai'r un agosaf ati wedyn oedd Nant-y-caws, Caerfyrddin.  Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff mai ystyriaeth ariannol yn unig oedd cau'r safle, a hynny ar y sail mai'r cyfleuster yn Hendy-gwyn ar Daf oedd y lleiaf o blith pedwar cyfleuster ailgylchu Sir Gaerfyrddin, ac mai hwn oedd yn cyfrannu leiaf at dargedau ailgylchu gwastraff cyffredinol y Cyngor. Nid oedd y cynnig yn gysylltiedig â pherfformiad y cyfleuster. Dywedwyd hefyd y byddai cau'r safle yn arbed £80k y flwyddyn o flwyddyn 2 yn 2021/22.

 

Mewn ymateb i sylw pellach mewn perthynas â'r targedau perfformiad, cydnabu Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff, er bod y ganolfan yn Hendy-gwyn wedi bod yn cyrraedd ei thargedau ailgylchu, roedd ond yn gwasanaethu 7% o'r sir, gan wneud y cyfraniad lleiaf felly at dargedau ailgylchu'r Cyngor.

 

Pwysleisiwyd y byddai ymgynghoriad llawn ar y cynnig hwn yn cael ei gynnal maes o law.

 

·       Cyfeiriwyd at Hebryngwyr Croesfannau Ysgol.  Er y nodwyd yn y sylw fod yr 'adain hebryngwyr croesfannau ysgol wedi adolygu'r holl batrolau i nodi lle nad oes angen eu darparu, yn unol â'r meini prawf Diogelwch Cenedlaethol', gofynnwyd a oedd unrhyw arolygon wedi'u cynnal mewn perthynas â'r cynnig i beidio â llenwi swyddi gwag sy'n codi yn y dyfodol yn y safleoedd lle nad oes angen hebryngwyr croesfannau ysgol? Mynegwyd pryder bod hebryngwyr croesfannau ysgol yn faes diogelwch a oedd yn berthnasol i bob oedran a phob preswylydd.

 

Eglurodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod y gwasanaeth Hebryngwyr Croesfannau Ysgol yn cael ei ddarparu yn ôl ble roedd ei angen yn unol â'r Meini Prawf Diogelwch Cenedlaethol, a hefyd fod y Cyngor yn ariannu tua 50% mewn lleoliadau eraill lle nad yw'r meini prawf yn nodi bod angen gwasanaeth Hebryngwyr. Y cynnig drafft oedd cadw'r Patrolau lle roedd eu hangen ond eu gwaredu fesul cam lle nad oeddent yn ofynnol yn ôl y meini prawf. Sicrhawyd yr aelodau y byddai pob safle yn destun ei adolygiad ei hun.

 

·       Mewn ymateb i gais am y wybodaeth ddiweddaraf am swydd wag Rheolwr Diogelwch ar y Ffyrdd, dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod Rheolwr Diogelwch ar y Ffyrdd yn cael ei recriwtio ar hyn o bryd.  At hynny, roedd swydd wag wedi codi yn yr Uned Diogelwch ar y Ffyrdd, a oedd hefyd wedi cael ei hysbysebu. 

 

·       Gofynnwyd am y gwahanol strwythur prisio ar gyfer meysydd parcio ledled y Sir, ac esboniodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod y taliadau parcio oedd yn cael eu codi wedi'u bandio'n bennaf yn ôl prysurdeb y meysydd parcio a demograffeg cymdeithasol yr ardal gyfagos.

 

PENDERFYNWYD:

 

4.1

Bod yr Ymgynghoriad ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw

2019/20 – 2021/22 yn cael ei dderbyn;

4.2

Bod y Crynhoad Taliadau ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r

Cyhoedd a'r Amgylchedd, fel y manylir yn Atodiad C i'r adroddiad, yn cael ei dderbyn.

 

 

Dogfennau ategol: