Agenda item

STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2020/21 I 2022/23

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf ynghylch Cyllideb Refeniw 2019/2020 ac yn darparu'r ffigurau mynegiannol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2021/2022 a 2022/2023. Hefyd roedd yr adroddiad yn crynhoi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb gan roi diweddariad ynghylch dilysu'r gyllideb, y gwasgfeydd o ran gwariant, setliad terfynol Llywodraeth Cymru, a'r ymatebion i'r ymgynghoriad ynghylch y gyllideb.

 

Amlinellwyd i'r Bwrdd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau nifer o ffactorau sy'n dylanwadu ar y gyllideb, gan gynnwys y ffaith na fyddai'r setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru yn dod i law tan 25 Chwefror 2020.  Roedd y wybodaeth ddiweddaraf am grantiau a thybiaethau wedi darparu arian ychwanegol o gymharu â'r gyllideb dros dro y cytunwyd arni ar 6 Ionawr 2020.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod manylion llawn y setliad dros dro yn yr adroddiad; roedd y cyllid ar gyfer Llywodraeth Leol ar sail Cymru gyfan wedi cynyddu 4.3%, gyda Sir Gaerfyrddin yn derbyn 4.4%.  Roedd hyn yn adlewyrchu'r gydnabyddiaeth o'r lefel ddigynsail o bwysau ariannol sy'n wynebu Awdurdodau Lleol.  Er gwaethaf y cynnydd mewn cyllid, roedd angen gwneud arbedion o hyd.

 

Wrth ystyried y byddai setliad terfynol Llywodraeth Cymru yn dod i law ar 25 Chwefror 2020, gofynnwyd yn yr adroddiad i roi awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol ar y cyd â'r Arweinydd, y Prif Weithredwr a'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau i wneud unrhyw addasiadau angenrheidiol i Strategaeth y Gyllideb cyn cyfarfod y Cyngor Sir ar 3 Mawrth 2020.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol bod yr adroddiad wedi cael ei addasu'n briodol wrth i'r wybodaeth ddod i law. Ac eithrio costau pensiynau athrawon, roedd cyfanswm y dilysiad yn ychwanegu tua £11.8m at y gyllideb. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at y lefel uchel o ansicrwydd ynghylch cyflogau, ond roedd y gyllideb wedi caniatáu ar gyfer cynnydd o 2.75% bob blwyddyn. Fodd bynnag, nodwyd nad oedd y cynnig cyflog yn berthnasol i athrawon, a oedd yn destun trefniant cyflog cenedlaethol ar wahân. Pennwyd dyfarniad mis Medi 2019 ar 2.75% a thybiwyd y lefel hon ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod, ond cydnabuwyd bod hyn yn risg allweddol o ran y gyllideb.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau wrth y Bwrdd Gweithredol fod £311k  wedi'i ychwanegu at y gyllideb ysgolion, gan arwain at gynnydd cyffredinol yng nghyllidebau dirprwyedig ysgolion o £10.1m, roedd hyn yn dangos cefnogaeth sylweddol i ysgolion ac yn darparu'r un lefel o ran gwariant â'r flwyddyn bresennol.

 

Cyfeiriwyd at amserlen fer y gyllideb, er gwaethaf hyn, roedd y broses ymgynghori wedi bod yn llwyddiannus, gyda dros 2,000 o ymatebion wedi dod i law. Roedd yr ymgynghoriad wedi caniatáu cyfnod ar gyfer dadlau ar y gyllideb a chafwyd adborth sylweddol. Gan ystyried canlyniad yr ymgynghoriad a'r addasiad i'r gyllideb, cafodd y cynigion canlynol eu tynnu yn ôl:

 

  • Cau Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Hendy-gwyn ar Daf.
  • Cau toiledau cyhoeddus.
  • Gostyngiad yng nghyllideb y Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid.
  • Cynyddu taliadau mynwentydd.

 

Yn ogystal, byddai'r costau cynyddol arfaethedig mewn perthynas â gwasanaethau hamdden bellach yn cael eu bodloni drwy gynnydd yn y defnydd, ac ni fyddai angen cynyddu prisiau.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau y dylid gohirio'r arbedion effeithlonrwydd arfaethedig ar y gyllideb ADY i flwyddyn 3 ynghyd â'r ffi weinyddol arfaethedig ar gyfer lleoliadau preswyl sydd wedi'u hariannu eu hunain.  Cynigiodd hefyd, oherwydd pwysau ar y gwasanaeth, y dylid sicrhau'r canlynol:

 

  • £128k - Grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol - dylid darparu hwn i Wasanaethau Cymdeithasol
  • £140k tuag at gyllidebau priffyrdd i wella ffyrdd a chapasiti.
  • £140k yn cael ei ddirprwyo i'r Cyfarwyddwr Addysg i flaenoriaethu yn unol â'r gofynion adrannol.

 

Cynigiwyd i'r Bwrdd Gweithredol y dylid gweithredu cynnydd o 4.89% yn y Dreth Gyngor er mwyn gallu cyflawni'r Strategaeth.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

6.1

bod Strategaeth y Gyllideb 2020/21 yn cael ei chymeradwyo.

6.2

bod y Dreth Gyngor Band D am 2019/20 i’w gosod ar £1,255.17 (cynnydd o 4.89% ar gyfer 2019-2020).

6.3

bod y dyraniad o £560k o gyllid cylchol a oedd ar gael yn cael ei ddyrannu, fel y manylir uchod.

6.4

bod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig amodol yn cael ei gymeradwyo yn sylfaen i gynllunio ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.

6.5

bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr, yr Arweinydd a'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol o ganlyniad i setliad terfynol Llywodraeth Cymru sydd fod dod i law ar 25 Chwefror 2020.

 

Dogfennau ategol: