Cofnodion:
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a baratowyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ar y cyd â swyddogion o'r Adran Cymunedau a oedd yn dod ynghyd â'r cynigion diweddaraf ar gyfer Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai am 2020/21 i 2022/23. Nodwyd bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu – Cymunedau yn ei gyfarfod ar 5 Chwefror 2020, fel rhan o'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb.
Roedd yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd yn rhan o Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ar gyfer y dyfodol. Nodwyd bod y buddsoddiad arfaethedig yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni Safon Tai Sir Gaerfyrddin erbyn 2015 (i'r cartrefi hynny lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith wedi'i wneud), wedi darparu'r buddsoddiad i gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy, ac wedi parhau i fuddsoddi yn Ymrwymiad i Dai Fforddiadwy'r Cyngor.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod buddsoddiad cyfalaf o oddeutu £230m wedi darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin ar gyfer tenantiaid a gwariwyd £49m arall ar gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ar gyfer eiddo a thenantiaid. Dros y 3 mlynedd nesaf rhagwelwyd y byddai tua £49m yn cael ei wario ar gynnal a gwella ein stoc tai.
Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol ei fod yn ofynnol ers 2015 i'r Awdurdod fabwysiadu Polisi Cysoni Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, sef bod y cynnydd arfaethedig mewn rhent yn cael ei ragnodi gan ganllawiau Lywodraeth Cymru, a thrwy hynny, ddarparu dosbarthiad mwy teg o ran rhenti ar gyfer tenantiaid y sector cymdeithasol. Daeth y polisi hwn i ben yn 2018/19 a chyflwynwyd polisi interim am flwyddyn ar gyfer 2019/20, gan Lywodraeth Cymru, ac erbyn hyn mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno polisi newydd i'w weithredu yn 2020/21. Roedd y polisi interim hwnnw'n caniatáu i Awdurdodau Lleol o fewn eu band rhent targed gynyddu rhent yn ôl CPI +1% yn unig. Roedd hefyd yn caniatáu i lefel y rhent i denantiaid unigol gynyddu hyd at £2 yn ychwanegol ar ben y CPI + 1% ar gyfer cysoni rhenti, ar yr amod na fyddai cyfanswm yr incwm rhent a fyddai'n cael ei gasglu gan y landlord cymdeithasol yn fwy na CPI + 1%.
Byddai'r polisi newydd yn gymwys am 5 mlynedd o 2020/21 ac roedd yn cynnwys meini prawf ychwanegol ynghylch bodlonrwydd tenantiaid, safonau o ran gofod, lleihau achosion o droi allan ac effeithlonrwydd ynni. Roedd hefyd yn nodi'r angen i ddatgarboneiddio'r stoc tai cymdeithasol, a fyddai'n fuddsoddiad sylweddol i awdurdodau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-
8.1 |
bod y rhent tai cyfartalog yn cael ei gynyddu yn unol â Pholisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru h.y. :- a) bod cynnydd o 2.53% yn cael ei wneud i renti eiddo sydd ar y targed b) bod cynnydd o 2.53% yn cael ei wneud i'r rhenti hynny sydd yn is na'r rhent targed a'u bod yn cael eu cynyddu £1 yr wythnos ar y mwyaf c) bydd y rhenti hynny sy'n uwch na'r targed yn cael eu rhewi hyd nes eu bod yn unol â'r targed d) gan gynhyrchu cynnydd yn y rhenti tai cyngor o 2.7% neu £2.36 ar gyfartaledd |
8.2 |
gweithredu'r cynnydd mwyaf posibl o £1.00 ar gyfer rhenti sy'n is na'r rhenti targed, hyd nes y cyrhaeddir y rhenti targed. |
8.3 |
cadw rhent garejis yn £9.00 yr wythnos a sylfeini garejis yn £2.25 yr wythnos. |
8.4 |
rhoi'r polisi ynghylch taliadau am wasanaethau ar waith er mwyn sicrhau bod y tenantiaid a oedd yn cael gwasanaethau penodol yn talu am y gwasanaethau hynny. |
8.5 |
cynyddu'r taliadau am ddefnyddio gwaith trin carthffosiaeth y Cyngor, yn unol â'r cynnydd mewn rhenti. |
8.6 |
cymeradwyo Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2020/21 (cyllidebau amhendant yw rhai 2022/22 a 22/23D), fel y nodwyd yn Atodiad B. |
8.7 |
bod y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig a'r cyllido perthnasol ar gyfer 2020/21, a'r gwariant mynegiannol a bennwyd ar gyfer y blynyddoedd 2021/22 i 2022/2023, fel y'u nodwyd yn Atodiad A, yn cael eu cymeradwyo. |
Dogfennau ategol: