GOHIRIO'R CYFARFOD AC AILYMGYNNULL AM 10:10 Y.B YN 2 SGWAR NOTT, CAERFYRDDIN ER MWYN YMWELD Â'R SAFLE SY'N GYSYLLTIEDIG Â'R CAIS AM DRWYDDED.
AR ÔL GORFFEN YR YMWELIAD SAFLE UCHOD BYDD Y CYFARFOD YN CAEL EI OHIRIO AC YN AILYMGYNNULL YN SIAMBR NEUADD Y SIR, CAERFYRDDIN AM 10.30 Y.B ER MWYN CAEL SYLWADAU AC I BENDERFYNU AR CAIS UCHOD.
Cofnodion:
Torrodd cyfarfod yr Is-bwyllgor yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 10.05am ac ailymgynullodd am 10:10am yn 2 Maes Nott, Caerfyrddin, er mwyn gweld yr eiddo. Ar ôl i'r ymweliad â'r safle ddod i ben, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor yn y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 10:30am i ystyried y cais.
Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb a oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod. Rhoddwyd gwybod i'r Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan Adam Cole am drwydded safle mewn perthynas â'r safle uchod i ganiatáu'r canlynol:
· Cyflenwi Alcohol, Ffilmiau, Digwyddiadau Chwaraeon Dan Do, Cerddoriaeth Fyw, Cerddoriaeth a Recordiwyd, a Pherfformiadau Dawns - Dydd Llun a Dydd Mawrth 12:00-02:00, Dydd Mercher i Ddydd Sul 12:00-03:00.
Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:
· Atodiad A – copi o'r cais.
· Atodiad B - sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu.
· Atodiad C - sylwadau Heddlu Dyfed-Powys.
· Atodiad D – sylwadau Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd.
· Atodiad E - sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill.
Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau fel y nodwyd yn Atodiad B a hefyd at y sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys (Atodiad C) a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd (Atodiad D). Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu hefyd at Amodau Trwydded Arfaethedig Drafft y cyfeiriwyd atynt uchod.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed.
Wedyn, cyflwynwyd sylwadau i'r Is-bwyllgor gan Gyngor Tref Caerfyrddin a oedd yn mynegi pryderon ac yn gwrthwynebu caniatáu trwydded safle am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Atodiad E.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau am y dystiolaeth a gyflwynwyd. Wedyn bu i'r ymgeisydd a'i gyfreithiwr ymateb i'r pryderon a'r materion a godwyd.
Ar hynny
PENDERFYNODD YR IS-BWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.
Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref
PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y dystiolaeth a roddwyd gerbron yr Is-bwyllgor, fod y cais yn cael ei ganiatáu, a hynny'n unol â'r amodau trwydded yr oedd yr awdurdodau cyfrifol wedi'u cynnig ac yr oedd yr ymgeisydd wedi cytuno arnynt.
RHESYMAU:
Roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y sylwadau ysgrifenedig a wnaed, yn ogystal â'r dystiolaeth a gyflwynwyd. Roedd hefyd wedi rhoi ystyriaeth i'r paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r Cyfarwyddyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref, a'r rheiny a oedd wedi'u cyfeirio at ei sylw gan y partïon eraill.
Wrth benderfynu ar y cais, roedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor:
Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr Awdurdodau Cyfrifol.
Roedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad oedd pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid trwydded, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallai roi ystyriaeth briodol iddynt.
Roedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod pryderon y Cyngor Tref. Fodd bynnag, safbwynt yr Heddlu oedd y gallai'r amcan trwyddedu o atal troseddau ac anhrefn gael ei hyrwyddo'n ddigonol drwy gynnwys yr amodau trwydded ychwanegol y cytunwyd arnynt. Yn yr un modd, safbwynt Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd oedd y gallai'r amcan trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus gael ei hyrwyddo'n ddigonol drwy gynnwys yr amodau trwydded ychwanegol y cytunwyd arnynt.
Nid oedd yr Is-bwyllgor yn credu bod ganddo ddigon o dystiolaeth ger ei fron i gyfiawnhau mynd yn groes i farn y ddau awdurdod cyfrifol.
Yn unol â hynny, roedd yr Is-bwyllgor wedi'i fodloni ei bod yn briodol hyrwyddo'r amcanion trwyddedu drwy ganiatáu'r drwydded, yn amodol ar yr amodau trwydded y cytunwyd arnynt, a bod hyn yn ymateb cymesur i'r materion a nodwyd, gan gynnwys y rhai a godwyd gan y Cyngor Tref.
Dogfennau ategol: