Agenda item

GWASANAETH LLAWN Y CREDYD CYNHWYSOL - Y WYBODAETH DDIWEDDARAF

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod, yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2019 (gweler Cofnod 5), ar ôl rhoi ystyriaeth i adroddiad ynghylch cyflwyno Credyd Cynhwysol yn Sir Gaerfyrddin, wedi gwneud cais am adroddiad diweddaru mewn chwe mis gan estyn gwahoddiadau i'r Adran Gwaith a Phensiynau ac i Gyngor ar Bopeth Sir Gaerfyrddin fod yn bresennol.  Yn unol â'r penderfyniad hwnnw estynnodd y Cadeirydd groeso i Adele Lodwig a Maria Brookfield o Is-adran Tai y Cyngor i'r cyfarfod, ynghyd â Menna Davies – Adran Gwaith a Phensiynau a Hayley Price a Suzanne Gainard – Cyngor ar Bopeth Sir Gaerfyrddin.

 

Yna cafodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru ar effaith credyd cynhwysol ar denantiaid y cyngor ynghyd â chyflwyniadau gan y rhai a enwir uchod ynghylch cyflwyno Credyd Cynhwysol yn Sir Gaerfyrddin o safbwynt eu sefydliadau unigol, er enghraifft:-

 

-       Yr Adran Gwaith a Phensiynau – cyflwyno a gweithredu Credyd Cynhwysol, gan gynnwys trefniadau presennol ar gyfer hawlwyr newydd a'r broses ymfudo a reolir erbyn Rhagfyr 2023 ar gyfer yr holl hawlwyr presennol sy'n cael taliadau gan y gronfa waddol.

-       Cyngor ar Bopeth Sir Gaerfyrddin – darparu cyngor a chymorth i hawlwyr presennol budd-daliadau y gronfa waddol sy'n newid i gredyd cynhwysol a'r holl hawlwyr newydd mewn amrywiaeth o ffyrdd, er enghraifft wyneb yn wyneb, gan gynnwys cyfweliadau yn y swyddfa ac ymweliadau cartref, gwe-sgwrs, gwasanaeth ffôn cenedlaethol a chymorth TG, a hynny er mwyn gallu cwblhau ffurflenni ar-lein. Roedd y cyngor hwnnw'n cynnwys asesiadau unigol a chyngor ynghylch a fyddai'n fuddiol i hawlwyr presennol budd-daliadau barhau ar y budd-daliadau hynny neu drosglwyddo i gredyd cynhwysol.

-       Is-adran Tai Sir Gaerfyrddin – mabwysiadu dull rhagweithiol ar gyfer ei thenantiaid drwy ddarparu cyswllt cynnar ac adnabod unrhyw un a allai, o bosib, fod mewn risg o dan y trefniadau newydd. Sefydlwyd tîm cyn-denantiaeth i helpu ac i gefnogi darpar denantiaid i reoli eu harian a'u tenantiaethau. Roedd hynny'n cynnwys cyflwyno hawliadau am fudd-daliadau'n gynnar er mwyn sicrhau bod taliadau'r budd-daliadau'n dechrau ar yr un pryd â dechrau'r denantiaeth, gan nad oedd modd ôl-ddyddio'r taliadau.

 

Cafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i holi cwestiynau ynghylch yr adroddiad/cyflwyniadau a oedd yn cynnwys y canlynol:-

 

·         Cyfeiriwyd at y defnydd cynyddol o fanciau bwyd yn Sir Gaerfyrddin, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Cydnabuwyd er bod defnydd o'r banciau bwyd wedi cynyddu, nid cyflwyno'r Credyd Cynhwysol sydd i gyfri'n gyfan gwbl am hyn. Fodd bynnag, nodwyd bod y broses gwneud cais am gredyd cynhwysol yn gymhleth, yn enwedig yn ystod y camau cynnar pan nad oedd hawlwyr yn cael taliadau. Yr amser rhwng cyflwyno cais am hawliad a'r taliad cyntaf yw 5 wythnos ar gyfartaledd, ac mae hwnnw'n cael ei dalu ar ffurf ad-daliad. Cyfeiriwyd hawlwyr oedd yn wynebu caledi ariannol yn ystod y cyfnod hwn at fanciau bwyd a phosibiliadau eraill er mwyn cael cymorth. Roedd taliadau ymlaen llaw o hyd at 100% ar gael, a byddai'r rhain yn cael eu had-dalu dros gyfnod o 12 mis. Yn ogystal, cydnabuwyd er nad oedd dechrau'r cynllun wedi bod yn llwyddiannus, gan arwain o bosib at gynnydd yn y nifer oedd yn defnyddio banciau bwyd, y gobaith oedd bod dileu'r cyfnod aros cychwynnol o 7 niwrnod cyn y gellid dechrau'r hawl i gael Credyd Cynhwysol wedi lleihau'r angen hwn.

·         Gan gyfeirio at gwestiwn ynghylch cefnogi gwaith ymchwil Llywodraeth Cymru ar effaith Credyd Cynhwysol ar Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ac ôl-ddyledion rhent yng Nghymru, roedd hynny'n golygu bod holl Awdurdodau Lleol Cymru yn darparu ffigurau incwm ar gyfer rhent chwarterol i'r Llywodraeth. Hefyd, roedd Sir Gaerfyrddin wedi ysgrifennu at bob un o'i 957 o denantiaid sy'n cael Credyd Cynhwysol (ar 30 Medi 2019) yn gofyn am eu profiadau o'r system newydd.

 

Cydnabuwyd nad oedd lefel ôl-ddyledion rhent yr awdurdod ar ôl cyflwyno'r Credyd Cynhwysol wedi cynyddu yn unol â'r rhagfynegiadau gwreiddiol. Roedd y Cyngor mewn sefyllfa well na rhai o'r awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Gallai hynny fod o ganlyniad i ddull rhagweithiol y Cyngor o ran darparu cyngor a chymorth wedi'u teilwra i'w denantiaid oedd fwyaf agored i niwed er mwyn llywio'r system hawliadau newydd.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch rhoi cymorth i gyn-filwyr, cadarnhawyd bod tîm cyn-denantiaeth y Cyngor yn rhoi cyngor ac arweiniad i gyn-filwyr sydd mewn angen, gan gynnwys eu gallu i gael mynediad at gyllid a rheoli cyllideb. Roedd mesurau hefyd ar waith i helpu i leihau ôl-ddyledion rhent/stopio'r broses o ran ?ôl-ddyledion i gyn-filwyr â phroblemau iechyd meddwl. Roedd yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi hyfforddi staff yn ei chanolfannau gwaith i roi cyngor a chymorth i gyn-filwyr a, lle bo angen, roeddynt yn gallu gofyn i gyn-filwyr eraill am gymorth ychwanegol. Roedd y Cyngor Sir a'r Adran Gwaith a Phensiynau yn aelodau o Gyfamod y Lluoedd Arfog.

·         Cyfeiriwyd at yr effaith niweidiol bosibl ar y bobl sydd ar fudd-daliadau ac sy'n rhannu eu cartrefi ag aelodau eraill o'r teulu sy'n hawlio budd-daliadau. Nodwyd bod gan y Cyngor drefniadau i roi cymorth i unigolion o'r fath drwy ddarparu 'gwasanaeth cofleidiol' i fodloni eu hanghenion unigol.

·         Cyfeiriwyd at y sefyllfa anarferol eleni lle roedd 53 o wythnosau pan oedd rhent yn daladwy ond gan fod credyd cynhwysol yn cael ei dalu bob pedair wythnos galendr, roedd hawlwyr yn colli wythnos. Tynnwyd sylw'r Gweinidog at y sefyllfa ac roedd y sefyllfa'n cael ei harchwilio ar hyn o bryd.

·         Cadarnhawyd bod pobl ddigartref yn gymwys i gael credyd cynhwysol a chymorth o ran cael llety.

·         Nodwyd nad oedd y cyfrif diweddar o ran pobl ddigartref wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth o hynny'n digwydd. Fodd bynnag, os oedd aelodau'n ymwybodol o bobl ddigartref neu berson yr effeithiwyd arno gan ddigartrefedd, gofynnwyd iddynt gysylltu â'r is-adran tai er mwyn i'r lefel briodol o gymorth gael ei darparu.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch trefniadau staffio yn y Tîm Cymorth Tenantiaeth, cadarnhawyd bod cyllid ar gyfer dwy swydd gan Lywodraeth Cymru ar fin dod i ben ond roedd ceisiadau wedi cael eu cyflwyno i'r Cyfrif Refeniw Tai ariannu eu costau parhaus yn sgil y cymorth gwerthfawr roeddent yn ei ddarparu.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y cymorth sydd ar gael ar gyfer Cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, cadarnhawyd bod ymholiadau a dderbyniwyd gan Is-adran Tai y Cyngor oddi wrth aelodau o'r gymuned honno yn cael eu cyfeirio at y ganolfan Cyngor ar Bopeth, a oedd â'r darpariaethau a'r dulliau priodol i roi cymorth, gan gynnwys llinell iaith bwrpasol.

·         Cyfeiriwyd at y tri chyflwyniad a gafodd y Pwyllgor y bore hwnnw, ac awgrymwyd bod cyflwyniad tebyg yn cael ei roi i holl aelodau'r Cyngor, a hynny drwy seminar i'r holl aelodau, er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o gyflwyno Credyd Cynhwysol yn Sir Gaerfyrddin.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r cynrychiolwyr am eu cyflwyniadau ac am ddod i'r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod trefniadau'n cael eu gwneud ar gyfer cynnal seminar i aelodau ar gyflwyno Credyd Cynhwysol yn Sir Gaerfyrddin.

 

Dogfennau ategol: